Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os byddwch chi'n cofrestru cerbyd gan ddefnyddio ffurflen V55/4 neu V55/5 ac am drosglwyddo neu aseinio eich rhif cofrestru personol ar yr un pryd, bydd angen i chi ddarparu dogfennau yn cadarnhau eich enw a'ch cyfeiriad.
Mae angen gwirio'r enw a'r cyfeiriad ar bob cais V55/4 a V55/5 sy'n un o'r canlynol:
Mae hyn yn cynnwys cerbydau o Ogledd Iwerddon sy'n cael eu cofrestru drwy ddefnyddio ffurflenni V55/4 a V55/5.
Does dim rhaid gwirio enw a chyfeiriad os cyflwynir dogfen gofrestru V5 neu dystysgrif gofrestru V5C i gefnogi'r cais am drosglwyddo neu aseinio.
Delwyr ceir
Bydd delwyr ceir sy'n meddu ar drwydded lawn i gynhyrchu platiau masnachwyr yn gwirio enwau a chyfeiriadau a darparu manylion y cais trosglwyddo neu aseinio wrth gofrestru’r cerbyd.
Bydd delwyr ceir sydd heb trwydded lawn i gynhychu platiau masnachwyr yn cynnwys yr holl ddogfennau perthnasol sy'n cadarnhau enw a chyfeiriad yr ymgeisydd sydd eu hangen i drethu a chofrestru'r cerbyd. Ym mhob achos, bydd y dogfennau adnabod yn cael eu dychwelyd syth atoch chi.
Ni fydd unrhyw gais nad yw'n cynnwys y dogfennau perthnasol yn cael ei brosesu a chaiff ei ddychwelyd atoch gan y swyddfa DVLA leol.
Mae'n rhaid cynnwys naill ai eich trwydded yrru cerdyn-llun DVLA neu un ddogfen wreiddiol o bob un o'r rhestri isod wrth gyflwyno'ch cais. Ni dderbynnir copïau.
Dogfen i gadarnhau eich enw
Dogfennau i gadarnhau eich cyfeiriad
Bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu dwy ddogfen o blith y rhestr ganlynol gydag un o'r rheini'n dangos eu cyfeiriad ar y pryd:
Yr unig dystiolaeth fydd yn dderbyniol ar ei phen ei hun fydd trwydded platiau masnachwyr a ddarperir gan y DVLA (neu rif trwydded masnachwyr).
Gellir gwneud cais drwy'r post drwy anfon y cais am drosglwyddo neu aseinio rhif arbennig a'r ffurflenni V55/4 neu V55/5 i'ch swyddfa DVLA leol. Dylech sicrhau eich bod yn cynnwys dogfen(nau) yn cadarnhau eich enw a'ch cyfeiriad, y dogfennau angenrheidiol i drethu a chofrestru'ch cerbyd, e.e. tystysgrif yswiriant, tystysgrif MOT, taliad priodol am ddisg dreth cerbyd.
Gan amlaf, bydd eich dogfennau yn cael eu dychwelyd gyda disg dreth eich cerbyd. Os hoffech chi i'r DVLA ddychwelyd eich dogfennau drwy wasanaeth danfon arbennig, rhaid i chi ddarparu amlen gwasanaeth danfon arbennig gyda'ch enw a'ch cyfeiriad arni a honno wedi'i thalu amdani'n barod. Ni all DVLA warantu y byddwn yn anfon eich dogfennau yn ôl atoch erbyn dyddiad neu ddigwyddiad arbennig (er enghraifft, gwyliau).
Os na fyddwch yn cysylltu â ni o fewn tri mis i ddyddiad eich cais, ni fydd y DVLA yn gallu ymchwilio i'r sefyllfa yn y swyddfa DVLA leol na gyda'r Post Brenhinol. Ni fydd y DVLA yn atebol am unrhyw hawliad a wneir ar ôl y cyfnod o dri mis.