Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwneud cais ar-lein i adnewyddu eich trwydded yrru os ydych yn 70 oed neu'n hŷn

Gallwch adnewyddu eich trwydded yrru Brydeinig gyfredol ar-lein:

  • os oes gennych drwydded Brydeinig sydd eisoes wedi dod i ben neu a fydd yn dod i ben o fewn 90 diwrnod
  • os ydych chi'n byw yng Ngwledydd Prydain
  • os ydy eich golwg yn ddigon da i fodloni'r gofyniad sylfaenol
  • os nad ydych wedi’ch rhwystro rhag gyrru ar hyn o bryd am unrhyw reswm
  • os oes gennych basbort dilys y DU neu brawf arall o bwy ydych chi (os ydych yn cyfnewid trwydded bapur)
  • os gallwch ddweud lle rydych chi wedi byw dros y tair blynedd diwethaf

Ni fyddwch yn gallu gwneud cais ar-lein os yw’ch enw wedi newid. I wneud cais i newid eich enw mae angen i chi wneud cais drwy’r post gan ddefnyddio ffurflen gais D1. Am ragor o wybodaeth ar sut i newid eich enw ar eich trwydded yrru, defnyddiwch y ddolen isod.

Os ydych am adnewyddu’r llun ar eich trwydded fel rhan o’ch cais rhaid i chi ddarparu pasbort a gyhoeddwyd o fewn y pum mlynedd diwethaf. Nid yw'n bosib defnyddio'r gwasanaeth ar-lein os ydych am adnewyddu:

  • eich hawl i yrru cerbydau maint canolig (C1)
  • eich hawl i yrru bws mini (D1) ar eich trwydded

I gael gwybod mwy, gweler y cymorth cyferbyn.

Ei wneud ar y we – ei wneud yn gyflymach

Sicrhewch fod y canlynol gennych wrth law cyn i chi barhau:

  • eich trwydded yrru
  • eich pasbort y DU os oes gennych un
  • eich rhif Yswiriant Gwladol os oes gennych un
  • manylion cyfeiriadau blaenorol

Bydd DVLA yn ceisio anfon eich trwydded yrru atoch o fewn dwy wythnos ar ôl i chi gyflwyno eich cais.

* Nodwch: Os byddwch yn gwneud cais ar-lein does dim rhaid i chi lenwi a dychwelyd eich ffurflen atgoffa D46.

Darparwyd gan DVLA

Allweddumynediad llywodraeth y DU