Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gyrwyr hŷn – penderfynu pryd i roi’r gorau i yrru

Nid oes oedran cyfreithiol sy'n pennu ei bod yn rhaid i chi roi'r gorau i yrru. Chi sy’n penderfynu pryd rydych am roi’r gorau iddi, ar yr amod nad oes gennych unrhyw gyflyrau meddygol sy’n effeithio ar eich gallu i yrru. Yma cewch wybod sut gall newidiadau yn eich iechyd effeithio ar eich gallu i yrru, a sut mae ildio eich trwydded, os bydd angen i chi wneud hynny.

Beth mae angen i chi ei ystyried fel gyrrwr hŷn

Rhaid i chi adnewyddu’ch trwydded yrru bob tair blynedd ar ôl i chi droi’n 70, ond does dim deddf sy'n dweud ei bod yn rhaid i chi roi'r gorau i yrru ar ôl cyrraedd oedran penodol

Oni bai y bydd eich iechyd neu’ch golwg yn dirywio’n sydyn, gall fod yn anodd gwybod pryd ddylech chi roi’r gorau i yrru.

Eich diogelwch chi – a diogelwch defnyddwyr eraill y ffordd – yw'r peth pwysicaf i’w ystyried. Os ydych chi’n poeni nad yw eich sgiliau gyrru cystal ag oedden nhw, peidiwch ag aros i ddamwain ddigwydd i'ch darbwyllo i roi'r gorau iddi.

Er enghraifft, efallai ei bod yn bryd i chi roi’r gorau i yrru:

  • os ydych chi’n sylwi eich bod yn cymryd mwy o amser i ymateb nag oeddech chi
  • rydych yn ei chael yn fwyfwy anodd ymdopi ag amodau traffig
  • os yw eich golwg yn gwaethygu
  • os oes gennych gyflwr meddygol a allai effeithio ar eich gallu i yrru’n ddiogel – gofynnwch am gyngor eich meddyg

Y ddeddf ynghylch cyflyrau meddygol a gyrru

Rhaid i chi roi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) am unrhyw gyflyrau meddygol a allai effeithio ar eich gallu i yrru’n ddiogel. Gallai hyn gynnwys cyflyrau iechyd blaenorol sydd wedi gwaethygu, neu gyflyrau iechyd newydd.

Os byddwch chi’n rhan o ddamwain lle mae'n bosib bod cyflwr eich iechyd wedi bod yn ffactor, gallech gael eich erlyn. Hefyd, mae’n bosib na fydd eich yswiriant yn eich gwarchod.

Effaith meddyginiaeth ar bresgripsiwn ar eich gallu i yrru

Os ydych chi’n cael meddyginiaeth ar bresgripsiwn, gofynnwch i’ch meddyg a allai effeithio ar eich gallu i yrru. Gall rhai meddyginiaethau wneud i chi deimlo’n swrth neu'n benysgafn, neu efallai y byddwch yn cael trafferth canolbwyntio.

Gall hyd yn oed meddyginiaethau sydd ar gael dros y cownter, megis meddyginiaethau ar gyfer lladd poen neu annwyd a ffliw, effeithio ar eich gallu i yrru. Dylech bob amser ddarllen label y presgripsiwn neu holi eich fferyllydd am unrhyw feddyginiaethau y byddwch chi’n eu prynu dros y cownter.

Y ddeddf ynghylch golwg a gyrru

Os na allwch chi ddarllen plât rhif sydd 20.5 metr oddi wrthych chi, mae'n anghyfreithlon i chi yrru. Os oes angen sbectol neu lensys cyffwrdd arnoch i weld mor bell â hyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn eu gwisgo bob tro rydych chi’n gyrru.

Wrth i chi fynd yn hŷn, gall eich llygaid newid heb i chi sylweddoli. Drwy gael profion golwg rheolaidd, gall eich optegydd weld arwyddion cynnar o rai cyflyrau sy’n gallu effeithio ar eich gallu i yrru. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • cataracts
  • glawcoma
  • diabetes

Os ydych chi’n meddwl bod eich golwg yn newid, siaradwch â’ch optegydd, eich meddyg neu arbenigwr. Byddant yn gallu dweud wrthych a oes angen i chi roi gwybod i DVLA am unrhyw gyflwr.

Gyrru os oes gennych chi gataract

Os oes gennych chi gataract ond eich bod yn dal i fodloni’r safon gweld ar gyfer gyrru, dylech geisio osgoi gyrru yn ystod y nos neu pan fydd golau'r haul yn llachar iawn.

Help gydag anableddau a gyrru

Os yw’n anodd i chi yrru oherwydd nad ydych chi’n gallu symud cystal, efallai y bydd modd addasu eich cerbyd. Gallai hyn gynnwys gosod ramp neu lifft i’ch helpu i fynd i mewn ac allan o’ch cerbyd.

I gael rhagor o wybodaeth am addasu eich cerbyd, dilynwch y ddolen isod.

Sut mae cael asesiad o’ch sgiliau gyrru

Os ydych chi’n poeni a ydych chi’n ddigon iach i yrru, siaradwch â’ch meddyg neu weithiwr iechyd proffesiynol. Gallech hefyd holi arholwr gyrru neu gael asesiad gyrrwr profiadol i gael asesiad gwrthrychol (a chyfrinachol) o’ch sgiliau gyrru. Gallwch drefnu prawf drwy’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA).

Beth ddylech chi ei wneud os ydych chi’n bwriadu rhoi’r gorau i yrru

Os byddwch chi’n penderfynu rhoi’r gorau i yrru, dylech gysylltu â DVLA a dweud wrthynt eich bod yn ildio eich trwydded yrru. Os oes gennych gyflwr meddygol, bydd angen i chi lenwi ffurflen a'i dychwelyd i’r DVLA gyda’ch trwydded. Defnyddiwch y ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth.

Teithio ar ôl ildio eich trwydded

Os byddwch chi’n rhoi’r gorau i yrru, nid yw hynny'n golygu na allwch chi fod yn annibynnol mwyach – gallech ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na gyrru. Wrth i chi fynd yn hŷn, byddwch yn gymwys i deithio am ddim ar fysiau ac i gael tocynnau trên gostyngol unrhyw le yn Lloegr.

Allweddumynediad llywodraeth y DU