Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Pan fyddwch yn trefnu eich prawf theori, dylech ddweud os oes gennych unrhyw anghenion arbennig. Os byddwch yn gwneud hyn, gall yr Asiantaeth Safonau Gyrru addasu eich prawf yn rhesymol. Yn y fan hon, cewch wybod beth fydd angen i chi ei ddweud wrth yr Asiantaeth Safonau Gyrru os oes gennych chi anghenion arbennig.
Mae’r Asiantaeth yn darparu nifer o gyfleusterau i chi os oes gennych chi anghenion arbennig.
Dylech roi gwybod i’r Asiantaeth am eich anghenion arbennig pan fyddwch chi'n trefnu'r prawf theori.
Gallwch ofyn am gyfleuster trosleisio mewn un o 21 iaith:
Bydd y cyfleuster trosleisio yn eich galluogi i glywed cyfarwyddiadau a chwestiynau'r prawf theori drwy glustffonau.
Bydd y cwestiynau’n cael eu darllen i chi’n awtomatig. Bydd modd i chi glywed yr atebion posib drwy glicio ar y testun ar y sgrin.
Gallwch glywed y cwestiynau cynifer o weithiau ag y dymunwch drwy glicio ar y cwestiwn unwaith eto.
Mae’r cyfleuster trosleisio ar gael yn yr ieithoedd canlynol:
Os nad oes cyfleuster trosleisio ar gael yn eich dewis iaith, gallwch ofyn am gael prawf theori gyda chymorth cyfieithydd.
Gall yr asiant yn y ganolfan alw roi enwau a manylion cyswllt cyfieithwyr cymeradwy'r Asiantaeth i chi.
Mae’n rhaid i chi drefnu dyddiad gyda’r cyfieithydd, a thalu ei ffioedd.
Os oes gennych chi ddyslecsia neu anawsterau darllen eraill, fe allwch chi ofyn am droslais Welsh neu Saesneg.
Fe allwch chi hefyd wneud cais i gael hyd at ddwywaith yr amser ar gyfer rhan amlddewis y prawf theori. Os oes arnoch angen mwy o amser na’r amser arferol, mae’n rhaid i chi anfon tystiolaeth o'ch anawsterau darllen i’r adran gwasanaethau cwsmeriaid sy’n ymdrin ag archebu profion theori.
Os ydych chi'n fyddar neu'n drwm eich clyw, fe allwch chi ofyn am gael sefyll y prawf theori yn iaith arwyddion Prydain.
Bydd y dehongliad iaith arwyddion yn cydredeg â chwestiynau ac atebion safonol y prawf.
Os nad ydych chi’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, gallwch fynd â chyfieithydd i’r ganolfan brawf gyda chi. Mae angen trefnu hyn drwy’r adran gwasanaethau cwsmeriaid sy’n ymdrin ag archebu profion theori.
Ni chodir unrhyw dâl ychwanegol am y cais hwn.
Os oes gennych anghenion arbennig, ond na fyddai’r cyfleusterau hyn yn eich helpu, cysylltwch â’r Asiantaeth Safonau Gyrru. Yna, gallwch sôn wrth yr Asiantaeth am eich anghenion a chael gwybod am y cyfleusterau eraill a allai fod ar gael i chi.
Llwythwch y cynnyrch prawf theori DSA swyddogol – y profiad agosaf at y prawf iawn
Derbyn hysbysiadau atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar a Facebook