Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut mae trefnu a rheoli eich apwyntiad prawf theori

Os hoffech chi drefnu, gweld manylion, newid neu ganslo eich prawf theori, y ffordd gyflymaf a hawsaf o wneud hyn yw ar-lein. Mae’r Asiantaeth Safonau Gyrru yn argymell i chi drefnu eich prawf ar wefan Cross & Stitch. Gallwch drefnu prawf dros y ffôn neu drwy’r post hefyd. Yma cewch wybod sut mae trefnu a rheoli eich prawf theori.

Trefnu eich prawf theori ar-lein

Y ffordd gyflymaf a hawsaf o drefnu eich prawf theori yw ar-lein. Pan fyddwch yn trefnu eich prawf ar-lein byddwch yn gweld yr holl apwyntiadau sydd ar gael.

Trefnu prawf theori i hyfforddwr gyrru neu hyfforddwr reidio ar-lein

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth i hyfforddwyr gyrru i drefnu’r mathau canlynol o brofion theori:

  • prawf cymhwyso hyfforddwyr gyrru cymeradwy (ADI) – rhan un
  • prawf cymhwyso ar gyfer y gofrestr cerbydau nwyddau mawr (LGV)
  • cofrestr o hyfforddwyr gyrru beiciau modur sydd wedi pasio'u prawf (RPMT)

Cyn trefnu eich prawf theori

Gallwch ddefnyddio’r ddolen isod i ddod o hyd i’ch canolfan prawf theori agosaf ar-lein cyn i chi drefnu eich prawf.

Faint o amser mae'n ei gymryd i drefnu apwyntiad prawf theori


Bydd yr Asiantaeth Safonau Gyrru yn ceisio rhoi apwyntiad prawf theori i chi o fewn pythefnos i’r dyddiad a’r amser rydych chi wedi’u nodi. Er hynny, efallai y bydd eich amser aros yn llai neu’n fwy, yn dibynnu ar ble a phryd y byddwch chi’n sefyll eich prawf.

Sefyll eich prawf theori os oes gennych chi anghenion arbennig


Pan fyddwch yn trefnu eich prawf theori, dylech ddweud os oes gennych unrhyw anghenion arbennig. Mae hyn er mwyn i’r Asiantaeth Safonau Gyrru allu gwneud addasiadau rhesymol i’ch prawf. Gallwch gael gwybod beth fydd angen i chi ei ddweud wrth yr Asiantaeth Safonau Gyrru os oes gennych chi anghenion arbennig drwy ddilyn y ddolen isod.

Sut mae trefnu eich prawf theori dros y ffôn

Gwylio canllaw i drefnu eich prawf ar-lein

I drefnu prawf theori dros y ffôn bydd arnoch angen:

  • trwydded yrru ddilys y DU
  • cerdyn credyd neu ddebyd dilys ar gyfer talu (derbynnir cardiau Visa, MasterCard, Delta a Visa Electron)

Gallwch ddod o hyd i'r rhifau cyswllt a’r amseroedd agor ar gyfer trefnu eich prawf theori dros y ffôn drwy glicio ar y ddolen isod.

Sut mae trefnu eich prawf theori drwy'r post

Gallwch lwytho ffurflen gais am brawf theori drwy ddilyn y ddolen isod.

Ei wneud ar y we

Mae’n gyflymach ac yn haws trefnu eich prawf theori ar-lein

Sut gallwch chi dalu wrth drefnu drwy'r post

Gallwch dalu gyda siec neu archeb bost, ond ni dderbynnir arian parod.
Nid yw’r Asiantaeth Safonau Gyrru yn darparu tocynnau rhodd fel ffordd o dalu am brofion theori.

Sut mae gweld manylion, newid neu ganslo eich apwyntiad prawf theori

Y ffordd gyflymaf a hawsaf o reoli eich apwyntiad prawf theori yw ar-lein. Ond os na allwch chi ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, gallwch wneud hynny dros y ffôn.

Rhowch ddigon o rybudd

Os hoffech chi newid neu ganslo eich apwyntiad, mae angen i chi roi o leiaf dri diwrnod gwaith o rybudd i osgoi colli eich ffi

Gweld manylion apwyntiad eich prawf theori
Gallwch weld manylion eich apwyntiad, gan gynnwys ar gyfer ble a phryd mae wedi cael ei drefnu.


Newid apwyntiad eich prawf theori
Gallwch symud eich apwyntiad i ddyddiad cynharach neu hwyrach, os oes un ar gael.
Bydd angen i chi roi o leiaf dri diwrnod gwaith clir o rybudd cyn dyddiad eich prawf er mwyn osgoi colli eich ffi. Mae dydd Sadwrn yn cyfrif fel diwrnod gwaith.


Canslo apwyntiad eich prawf theori
Gallwch ganslo apwyntiad eich prawf theori os ydych chi wedi trefnu un.
Bydd angen i chi roi o leiaf dri diwrnod gwaith clir o rybudd cyn eich prawf er mwyn osgoi colli eich ffi. Mae dydd Sadwrn yn cyfrif fel diwrnod gwaith.

Gweld y manylion, newid neu ganslo dros y ffôn
Os na allwch chi ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, gallwch weld y manylion, newid neu ganslo dros y ffôn.

Additional links

Dechreuwch adolygu ar gyfer eich prawf theori nawr

Llwythwch y cynnyrch prawf theori DSA swyddogol – y profiad agosaf at y prawf iawn

Derbyn hysbysiadau atgoffa Rheolau’r Ffordd Fawr

Derbyn hysbysiadau atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar a Facebook

Ffioedd profion gyrru

Cael gwybod y gost o brofion gyrru theori ac ymarferol pan fyddwch yn archebu ar Cross & Stitch

Allweddumynediad llywodraeth y DU