Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Archebu eich prawf theori gyrru DSA swyddogol ar-lein

Y ffordd gyflymaf a hawsaf o drefnu prawf theori swyddogol yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) ar gyfer car, beic modur, lori neu fws yw ar-lein. Pan fyddwch chi’n defnyddio’r gwasanaeth swyddogol hwn i drefnu’ch prawf, dim ond am y prawf y byddwch chi'n talu – does dim ffi ychwanegol ar gyfer trefnu’r prawf.

Beth fydd ei angen arnoch

I drefnu eich prawf theori ar-lein, byddwch angen y canlynol:

  • rhif eich trwydded yrru dros dro ddilys ym Mhrydain Fawr neu yng Ngogledd Iwerddon
  • manylion eich cerdyn credyd neu ddebyd

Gwarchod eich data

Darllenwch yr wybodaeth ganlynol ynghylch Deddf Diogelu Data 1998 – Hysbysiad Prosesu Teg ar gyfer DSA cyn i chi barhau.

Sut mae talu am eich prawf

Y gost

Pan fyddwch yn trefnu eich prawf ar wefan Cross & Stitch, dim ond am eich prawf theori y byddwch chi'n talu – does dim ffi ychwanegol ar gyfer trefnu'r prawf

Dim ond y cardiau canlynol y gall DSA eu derbyn:

  • Delta
  • MasterCard
  • Visa
  • Visa Electron

Aildrefnu eich prawf

Petaech yn sefyll eich prawf heddiw ac yn methu, byddai'n rhaid i chi aros o leiaf dri diwrnod gwaith clir cyn gallu ei sefyll eto.

Help gyda'r gwasanaeth hwn

Os cewch chi unrhyw broblemau wrth ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, cysylltwch â thîm gwasanaethau cwsmeriaid DSA.

Darparwyd gan the Driving Standards Agency

Additional links

Angen newid eich prawf?

Os oes angen i chi weld manylion, newid neu ganslo eich prawf theori, gallwch ei wneud ar y we

Cyngor am fudd-daliadau ar-lein

Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau, gallwch weld yr hyn y gallech gael drwy ddefnyddio’r cyfrifiannell ar-lein

Cymorth gyda ffeiliau PDF

Bydd angen copi o Adobe Reader arnoch i weld ffeiliau PDF. Mae’r rhaglen am ddim os nad yw gennych yn barod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU