Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwasanaeth trefnu prawf theori’r Asiantaeth Safonau Gyrru: Deddf Diogelu Data 1998

Mae’r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) yn gwybod pa mor bwysig yw gwarchod eich preifatrwydd a chydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data. Yma cewch wybod sut mae eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio i drefnu ac i reoli eich prawf theori.

Hysbysiad prosesu teg rhwng yr Asiantaeth Safonau Gyrru a Pearson VUE

Yr Adran Drafnidiaeth (DfT) yw’r rheolydd data ar gyfer gwybodaeth bersonol a gesglir gan DSA. Mae DSA yn un o asiantaethau gweithredol yr Adran Drafnidiaeth, ac felly mae'n rheoli'n uniongyrchol yr holl wybodaeth bersonol y mae'n ei chasglu a'i phrosesu.

At ddibenion gweinyddu a chynnal amrywiaeth o brofion theori, Pearson yw prosesydd data DSA. Mae Pearson wedi’i awdurdodi i gasglu ac i brosesu gwybodaeth bersonol ar ran DSA.

Prosesu eich data personol

Yn bennaf, bydd yr wybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu er mwyn:

  • cofrestru ymgeiswyr
  • cadarnhau pwy ydych chi a’ch hawliau
  • darparu profion (gan gynnwys y canlyniadau)
  • creu gwybodaeth rheoli, gan gynnwys dadansoddiadau ac ymchwil i wella diogelwch ar y ffyrdd, gwasanaeth i gwsmeriaid a boddhad cwsmeriaid

Mae’n rhaid i DSA wneud yn siŵr bod y prawf gyrru a’r gofrestr o hyfforddwyr gyrru cymeradwy yn gywir. Mae’n bosib y caiff eich data personol ei brosesu yn ystod ymchwiliadau DSA i dwyll a gonestrwydd. Gall DSA ddefnyddio’r data personol y byddwch yn ei ddarparu at ddibenion atal neu ganfod troseddau, ac arestio neu erlyn troseddwyr.

Defnyddir gwybodaeth bersonol hefyd ar gyfer dilysu trwyddedau gyrru a'u darparu'n gyfreithlon. Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) y DU sy’n gwneud hyn.

Trosglwyddo a phrosesu eich data

Bydd yr wybodaeth bersonol yn cael ei throsglwyddo a’i phrosesu gan Pearson yn Unol Daleithiau’r America. Caiff trefniadau cydymffurfio â gofynion Deddf Diogelu Data 1998 eu sefydlu'n unol â fframwaith 'Safe Harbor' Adran Fasnach yr Unol Daleithiau.

Trydydd Partïon

Ni fydd DSA na Pearson yn datgelu unrhyw wybodaeth arall ac eithrio pan wneir hynny:

  • yn unol â’r gyfraith
  • i gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol
  • yn unol â Deddf Diogelu Data 1998

Mae datgeliadau o’r fath wedi’u rhestru yng nghofnod yr Adran Drafnidiaeth, a gellir eu gweld yng Nghofrestr Gyhoeddus Rheolyddion Data Comisiynydd Gwybodaeth y DU.

Cofrestr Gyhoeddus o Reolwyr Data'r Adran Drafnidiaeth

Rhif cofrestru'r Adran Drafnidiaeth yw Z7122992. Os hoffech chi gael copi o’r hysbysiad hwn, neu ragor o wybodaeth ynghylch y modd y bydd Pearson yn prosesu gwybodaeth bersonol ar ran DSA, ysgrifennwch i'r cyfeiriad canlynol:

Data Protection Compliance Manager (Information Security Team)
Yr Asiantaeth Safonau Gyrru / Driving Standards Agency
The Axis Building
112 Upper Parliament Street
Nottingham
NG1 6LP

E-bost:
dataprotection@dsa.gsi.gov.uk

Darparwyd gan the Driving Standards Agency

Additional links

Cyngor am fudd-daliadau ar-lein

Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau, gallwch weld yr hyn y gallech gael drwy ddefnyddio’r cyfrifiannell ar-lein

Cymorth gyda ffeiliau PDF

Bydd angen copi o Adobe Reader arnoch i weld ffeiliau PDF. Mae’r rhaglen am ddim os nad yw gennych yn barod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU