Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gweld manylion, newid neu ganslo prawf theori’r Asiantaeth Safonau Gyrru ar-lein

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i weld manylion apwyntiad eich prawf ar-lein, neu i newid neu ganslo eich prawf. Dyma unig wasanaeth swyddogol yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) ar gyfer rheoli’ch prawf theori.

Gweld manylion eich prawf theori

Gallwch weld manylion apwyntiadau blaenorol ac apwyntiadau yn y dyfodol, gan gynnwys y dyddiad, yr amser a’r lleoliad.

Beth sydd ei angen arnoch i weld manylion eich apwyntiad

I weld manylion apwyntiad eich prawf ar-lein, bydd gofyn bod gennych chi’r tri manylyn canlynol:

  • rhif eich trwydded yrru dros dro ddilys ym Mhrydain Fawr neu yng Ngogledd Iwerddon
  • eich cyfenw
  • eich dyddiad geni

Newid eich prawf theori

Gallwch symud eich apwyntiad i ddyddiad cynharach neu hwyrach, os oes lle gwag ar gael. Byddwch yn gallu chwilio am ddyddiad newydd ar gyfer eich prawf neu newid y ganolfan prawf lle rydych yn sefyll eich prawf. Dim ond apwyntiadau sydd wedi cael eu cadarnhau y gallwch chi eu newid.

Beth sydd ei angen arnoch i newid eich apwyntiad

I newid apwyntiad eich prawf theori, bydd arnoch angen:

  • rhif eich trwydded yrru dros dro ddilys ym Mhrydain Fawr neu yng Ngogledd Iwerddon
  • rhoi o leiaf dri diwrnod gwaith clir o rybudd cyn dyddiad eich prawf er mwyn osgoi colli ffi’r prawf

Canslo eich prawf theori

Gallwch ganslo apwyntiad a chael ad-daliad o ffi’r prawf, os yw'n briodol. Dim ond apwyntiadau sydd wedi’u cadarnhau y gallwch chi eu canslo.

Beth sydd ei angen arnoch i ganslo eich apwyntiad

I ganslo apwyntiad eich prawf theori, bydd arnoch angen:

  • rhif eich trwydded yrru dros dro ddilys ym Mhrydain Fawr neu yng Ngogledd Iwerddon
  • rhoi o leiaf dri diwrnod gwaith clir o rybudd cyn dyddiad eich prawf er mwyn osgoi colli ffi’r prawf

Gwarchod eich data

Darllenwch yr wybodaeth ganlynol ynghylch Deddf Diogelu Data 1998 – Hysbysiad Prosesu Teg ar gyfer DSA cyn i chi gychwyn.

Sut mae talu am eich prawf

Y gost

Os byddwch yn trefnu eich prawf ar wefan Cross & Stitch, dim ond am eich prawf theori y byddwch chi'n talu – does dim ffi ychwanegol ar gyfer trefnu'r prawf

Dim ond y cardiau canlynol y gall DSA eu derbyn:

  • Delta
  • MasterCard
  • Visa
  • Visa Electron

Help gyda'r gwasanaeth hwn

Os cewch chi unrhyw broblemau wrth ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, cysylltwch â thîm gwasanaethau cwsmeriaid DSA.

Darparwyd gan the Driving Standards Agency

Additional links

Angen archebu prawf newydd?

Os oes angen i chi archebu prawf theori newydd, gallwch ei wneud ar y we

Cyngor am fudd-daliadau ar-lein

Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau, gallwch weld yr hyn y gallech gael drwy ddefnyddio’r cyfrifiannell ar-lein

Cymorth gyda ffeiliau PDF

Bydd angen copi o Adobe Reader arnoch i weld ffeiliau PDF. Mae’r rhaglen am ddim os nad yw gennych yn barod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU