Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Yfed a gyrru: terfynau a chosbau

Os ydych chi dros y terfyn cyfreithiol ar gyfer yfed a gyrru, mae’n anghyfreithlon i chi yrru, ac fe gewch chi eich cosbi’n llym. Yma cewch wybod beth yw’r terfynau, sut mae alcohol yn effeithio ar eich sgiliau gyrru a beth sy’n digwydd os cewch chi eich dal yn yfed a gyrru.

Y terfyn cyfreithiol ar gyfer yfed a gyrru

Y terfyn cyfreithiol ar gyfer alcohol i yrwyr ym Mhrydain Fawr yw:

  • 35 microgram o alcohol am bob 100 mililitr o anadl
  • 80 miligram o alcohol am bob 100 mililitr o waed
  • 107 microgram o alcohol am bob 100 mililitr o wrin

Mae unrhyw faint o alcohol yn effeithio ar eich gallu i yrru

Mae hyd yn oed un ddiod yn effeithio ar eich gallu i yrru. Os byddwch chi’n gyrru ar ôl bod yn yfed, byddwch:

  • yn llai effro a gofalus, ni waeth pa mor araf y byddwch chi’n gyrru
  • yn cael trafferth barnu eich cyflymder
  • yn ymateb yn arafach i beryglon ac yn cymryd mwy o amser i stopio

Does dim ffordd ddiogel o wybod faint y gallwch chi ei yfed heb groesi'r terfyn

Peidiwch byth â chynnig diod alcoholig i rywun sy’n gyrru

Does dim ffordd ddiogel o wybod faint o alcohol y gallwch chi ei yfed heb groesi'r terfyn. Mae sut y bydd alcohol yn effeithio arnoch yn dibynnu ar y canlynol:

  • eich pwysau, oedran, rhyw a metabolaeth (pa mor gyflym y mae’ch corff yn defnyddio egni)
  • eich lefelau straen ar y pryd
  • beth ydych chi wedi’i fwyta’n ddiweddar
  • y math o alcohol a faint o alcohol ydych chi’n ei yfed

Yr unig ffordd o fod yn ddiogel yw peidio ag yfed alcohol o gwbl os ydych chi'n gyrru.

Beth sy'n digwydd os cewch eich dal yn gyrru a chithau dros y terfyn

PWYLLWCH! Peidiwch ag yfed a gyrru

Mae’r cosbau am droseddau yfed a gyrru yn rhai llym a hirdymor

Fe gewch chi eich arestio a’ch tywys i orsaf heddlu os byddwch chi’n gyrru ac:

  • yn methu prawf anadl ar ochr y ffordd
  • os bydd yr heddlu’n credu nad ydych chi mewn cyflwr addas i yrru oherwydd eich bod wedi bod yn yfed

Yn yr orsaf heddlu, byddant yn gofyn i chi ddarparu dau sampl anadl mewn offer prawf anadl priodol. Bydd yr heddlu’n defnyddio'r darlleniad isaf o’r ddau i benderfynu a ydych chi dros y terfyn ac wedi cyflawni trosedd.

Os cewch chi eich cyhuddo o drosedd, mae’n bosib y byddant yn tynnu llun ohonoch ac yn cymryd sampl DNA ac olion bysedd gennych. Yna byddwch naill ai yn cael:

  • eich rhyddhau ar fechnïaeth ac yn mynd i'r llys
  • eich cadw gan yr heddlu – os byddant yn meddwl y gallech gyflawni trosedd arall

Ni fydd yr heddlu’n eich rhyddhau os byddant yn meddwl y byddwch chi'n gyrru a chithau'n dal dros y terfyn.

Os nad oedd darlleniad eich prawf anadl yn dangos mwy na 50 microgram am bob 100 mililitr, byddwch yn cael cyfle i wneud prawf gwaed neu wrin. Yr heddlu fydd yn penderfynu pa un. Fe gewch chi eich rhyddhau ar fechnïaeth nes bydd yr heddlu wedi dadansoddi'r samplau. Os bydd y canlyniadau’n dangos eich bod dros y terfyn cyfreithiol ar gyfer yfed a gyrru, byddwch yn cael eich cyhuddo.

Y cosbau am yrru a chithau dros y terfyn cyfreithiol ar gyfer yfed a gyrru

Os cewch chi eich cyhuddo o drosedd yfed a gyrru, byddwch yn mynd i'r llys. Os byddwch yn cael eich dyfarnu’n euog, bydd y cosbau canlynol yn berthnasol.

Trosedd yfed a gyrru

Y gosb fwyaf

Bod yn gyfrifol am gerbyd a chithau dros y terfyn cyfreithiol neu mewn cyflwr anaddas oherwydd diod

  • 3 mis o garchar
  • hyd at £2,500 o ddirwy
  • gwaharddiad rhag gyrru o bosib

Gyrru neu geisio gyrru a chithau dros y terfyn cyfreithiol neu mewn cyflwr anaddas oherwydd diod

  • 6 mis o garchar
  • hyd at £5,000 o ddirwy
  • gwaharddiad rhag gyrru am o leiaf flwyddyn (tair blynedd os cewch eich dyfarnu'n euog ddwywaith o fewn deg mlynedd)

Gwrthod darparu sampl anadl, gwaed neu wrin i’w ddadansoddi

  • carchar am 6 mis
  • hyd at £5,000 o ddirwy
  • gwaharddiad rhag gyrru am o leiaf flwyddyn

Achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal o dan ddylanwad diod

  • 14 mlynedd o garchar
  • dirwy ddiderfyn
  • gwaharddiad rhag gyrru am o leiaf ddwy flynedd
  • prawf gyrru estynedig cyn cael eich trwydded yn ôl

Mae euogfarn am yfed a gyrru hefyd yn golygu:

  • bydd cost eich yswiriant cerbyd yn cynyddu’n sylweddol
  • os ydych chi’n gyrru fel rhan o’ch gwaith, bydd eich cyflogwr yn gweld eich euogfarn pan fydd rhaid i chi gyflwyno'ch trwydded
  • efallai y cewch chi drafferth cael caniatâd i deithio i rai gwledydd, megis UDA

Cyrsiau adsefydlu ar gyfer troseddwyr yfed a gyrru

Os cewch chi eich dyfarnu’n euog o drosedd yfed a gyrru, mae’n bosib y cewch chi gynnig lle ar gwrs adsefydlu. Mae’r cwrs yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am sut mae alcohol yn effeithio ar yrru. Bydd yn rhaid i chi dalu am y cwrs, a chi fydd yn penderfynu a ydych chi am ddilyn y cwrs.

Os byddwch chi’n cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, bydd cyfnod eich gwaharddiad rhag gyrru yn cael ei leihau hyd at chwarter.

Y Cynllun Troseddwyr Risg Uchel

Os ydych chi’n ‘droseddwr risg uchel’, ni fydd eich trwydded yrru yn cael ei dychwelyd i chi'n awtomatig ar ddiwedd eich gwaharddiad rhag gyrru. Byddwch yn cael eich ystyried yn droseddwr risg uchel:

  • os cawsoch eich dyfarnu'n euog o ddau drosedd yfed a gyrru o fewn deng mlynedd
  • os gwnaethoch chi yrru a chithau ddwywaith a hanner dros y terfyn cyfreithiol ar gyfer alcohol
  • os gwnaethoch chi wrthod rhoi sampl anadl, gwaed neu wrin i’r heddlu i brofi am alcohol

Os ydych chi’n droseddwr risg uchel, bydd yn rhaid i chi basio archwiliad meddygol gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau er mwyn cael eich trwydded yn ôl.

Gweler ‘Sut i gael eich trwydded yrru yn ôl ar ôl cael eich gwahardd am yfed a gyrru’ i gael rhagor o wybodaeth.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU