Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut i gael eich trwydded yrru yn ôl ar ôl cael eich gwahardd am yfed a gyrru

I gael eich trwydded yrru’n ôl ar ôl cael eich gwahardd am yfed a gyrru, bydd rhaid i chi wneud cais am eich trwydded newydd cyn i’ch gwaharddiad ddod i ben. Mae sut y byddwch chi’n gwneud cais yn dibynnu ar a ydych chi’n Droseddwr Risg Uchel ai peidio. Yma cewch wybodaeth am y categori Troseddwr Risg Uchel, a sut mae cael eich trwydded yn ôl.

Troseddau gyrru sydd wedi’u cynnwys yn y categori Troseddwr Risg Uchel

Byddwch chi’n perthyn i’r categori Troseddwr Risg Uchel os ydych chi:

  • wedi cael eich gwahardd rhag gyrru unwaith, neu am fod yn gyfrifol am gerbyd pan oedd lefel yr alcohol yn eich corff yn fwy na 200 miligram mewn 100 mililitr o waed neu’n cyfateb i hynny; 87.5 microgram mewn 100 mililitr o anadl; neu 267.5 miligram mewn 100 mililitr o wrin
  • wedi cael eich gwahardd ddwywaith o fewn cyfnod o 10 mlynedd am yrru a chithau dros y terfyn cyfreithiol, neu am fod mewn cyflwr anaddas i yrru oherwydd diod
  • wedi cael eich gwahardd unwaith am wrthod neu beidio â rhoi sampl anadl, gwaed neu wrin er mwyn cynnal profion arno

Ni fydd llysoedd yn dweud wrthych yn awtomatig os ydych chi'n Droseddwr Risg Uchel o ganlyniad i drosedd yfed a gyrru.

Dydych chi ddim yn y categori Troseddwr Risg Uchel – cael eich trwydded yn ôl

Os nad ydych chi'n perthyn i'r categori Troseddwr Risg Uchel, bydd yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn anfon ffurflen gais D27 atoch i chi adnewyddu eich trwydded yrru. Byddwch yn cael y ffurflen hon 56 diwrnod cyn i’ch gwaharddiad ddod i ben. I gael mwy o wybodaeth am gael eich trwydded yrru’n ôl, dilynwch y ddolen isod.

Rydych chi yn y categori Troseddwr Risg Uchel – cael eich trwydded yn ôl

Os ydych chi yn y categori Troseddwr Risg Uchel, bydd rhaid i chi ddangos i gynghorydd meddygol DVLA eich bod yn ffit i yrru cyn y cewch chi’ch trwydded yn ôl. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi gael archwiliad meddygol gan un o feddygon penodedig DVLA yn eich ardal chi.

Bydd DVLA yn anfon ‘Ffurflen gais am drwydded yrru’ D1 atoch 90 diwrnod gwaith cyn i’ch gwaharddiad ddod i ben. Os byddwch chi’n newid cyfeiriad tra byddwch wedi eich gwahardd, bydd rhaid i chi ddweud wrth DVLA neu ni fyddwch chi'n cael ffurflen gais D1.

Sut mae cael ffurflen gais D1 – ceir a beiciau modur

Os na chewch chi ffurflen D1 yn y post, bydd angen i chi gael un gan wasanaeth archebu ffurflenni ar-lein DVLA neu yn un o ganghennau Swyddfa’r Post. Ar ôl llenwi'r ffurflen gais, dylech ei hanfon i DVLA, Abertawe SA99 1DL.

Sut mae cael ffurflen gais D2 – lorïau a beiciau modur

Os na chewch chi ffurflen D2 yn y post, bydd angen i chi gael un gan wasanaeth archebu ffurflenni ar-lein DVLA neu yn un o ganghennau Swyddfa’r Post. Os yw’ch ‘Adroddiad archwiliad meddygol D4’ wedi dod i ben, bydd angen i chi lenwi un arall. Ar ôl llenwi'r ffurflen gais, dylech ei hanfon i DVLA, Abertawe SA99 1DL.

Mae eich hawl i yrru lorïau, bysiau mini neu fysiau yn ddilys tan eich pen-blwydd yn 45 oed. Ar ôl i chi gyrraedd 45 oed, bydd angen i chi adnewyddu'ch hawl bob pum mlynedd nes byddwch chi’n 65 oed. I adnewyddu'ch hawl, bydd angen i chi ofyn i feddyg lenwi adroddiad archwiliad meddygol D4 ar eich cyfer. Ar ôl cyrraedd 65 oed, bydd arnoch angen adroddiad archwiliad meddygol bob blwyddyn.

Eich archwiliad meddygol gyda meddyg a benodwyd gan DVLA

Ar ôl i DVLA gael eich ffurflen gais am drwydded yrru, bydd DVLA yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych pa feddyg y dylech gysylltu ag ef ynghylch eich archwiliad meddygol.

Bydd yr archwiliad meddygol yn cynnwys:

  • llenwi holiaduron meddygol am eich hanes meddygol a’ch defnydd o alcohol
  • archwiliad corfforol
  • prawf gwaed

Cost eich archwiliad meddygol

Bydd yn rhaid i chi dalu'r meddyg am eich archwiliad meddygol. Bydd meddygon sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW hefyd yn codi TAW yn ychwanegol at ffi’r archwiliad. Bydd DVLA yn dweud wrthych faint mae’r archwiliad yn ei gostio pan anfonir ffurflen gais D1 atoch.

Cost eich trwydded yrru newydd

Wrth wneud cais am eich trwydded yrru newydd gyda DVLA, bydd angen i chi gynnwys y ffi gywir. I weld rhestr ddiweddar o’r ffioedd sydd ynghlwm wrth drwydded yrru, dilynwch y ddolen isod.

Cyflyrau meddygol presennol a allai effeithio ar eich gallu i yrru

Os oes gennych chi gyflwr meddygol a allai effeithio ar eich gallu i yrru’n ddiogel, bydd angen i chi ddweud wrth DVLA wrth ail-wneud cais am eich trwydded yrru. Gallwch chwilio drwy restr A-Z DVLA i ddod o hyd i'ch cyflwr iechyd a'r holiadur priodol y bydd angen i chi ei lenwi.

Dylech lenwi’r holiadur meddygol a'r ffurflen gais berthnasol a'u hanfon i DVLA, Grŵp Meddygol y Gyrwyr, Abertawe SA99 1DL.

Sut mae newid eich enw a'ch cyfeiriad tra byddwch wedi’ch gwahardd

Os byddwch chi’n newid eich enw neu’ch cyfeiriad tra byddwch wedi’ch gwahardd, bydd rhaid i chi ddweud wrth DVLA. I wneud hyn, ysgrifennwch i DVLA, Abertawe, SA99 1AB gan roi manylion eich:

  • hen gyfeiriad a’ch cyfeiriad newydd
  • enw (os ydych wedi’i newid)
  • rhif trwydded yrru (os ydych yn ei wybod)
  • dyddiad geni

Mwy o wybodaeth ynghylch gwneud cais am eich trwydded yrru ar ôl i chi gael eich gwahardd

I gael mwy o wybodaeth ynghylch gwneud cais am eich trwydded yrru ar ôl i chi gael eich gwahardd, llwythwch y daflen wybodaeth INF212/1 a gyhoeddwyd gan DVLA.

Additional links

Derbyn hysbysiadau atgoffa Rheolau’r Ffordd Fawr

Derbyn hysbysiadau atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar a Facebook

Allweddumynediad llywodraeth y DU