Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Arwyddion rhybuddio, rheoleiddio, cyfyngiadau cyflymder a chroesfannau rheilffordd

Mae’r dudalen hon yn cysylltu ag adrannau o lyfryn 'Know your traffic signs' yr Adran Drafnidiaeth. Mae’n esbonio’r system arwyddion ac yn rhoi sylw i’r prif fathau o arwyddion, yn cynnwys arwyddion rheoleiddio sy’n rhaid i chi ufuddhau iddynt yn ôl y gyfraith. Llwythwch y dogfennau PDF isod oddi ar y we i weld lluniau a gwybodaeth am arwyddion traffig, signalau traffig a marciau ar y ffordd.

Y system arwyddion

Ceir tri math sylfaenol o arwyddion traffig: arwyddion sy’n rhoi gorchmynion, arwyddion sy’n eich rhybuddio, ac arwyddion sy’n rhoi gwybodaeth.

Mae’r system arwyddion yn egluro siapau a lliwiau’r arwyddion a’u hystyr.

Arwyddion rhybuddio

Crossroads sign

Bydd arwyddion rhybuddio yn eich hysbysu am beryglon ar y ffordd o’ch blaen fel eich bod yn barod ar eu cyfer.

Arwyddion rheoleiddio

No entry sign

Mae arwyddion rheoleiddio yn dweud wrthych beth i’w wneud a beth i beidio â gwneud. Siâp cylch yw rhan fwyaf yr arwyddion rheoleiddio ar gyfer cerbydau. Yr eithriadau yw’r arwyddion 'stop' ac 'ildio'.

Arwyddion cyfyngiadau cyflymder

Speed limit sign

Fel arfer, mae arwyddion cyfyngiad cyflymder yn arwyddion syml, siâp cylch, ond efallai byddant yn ymddangos fel rhan o arwydd parth neu ffin arbennig.

Arwyddion pont isel

Fel arfer, ceir arwyddion ar gyfer pontydd isel os ydynt yn is nag 16 troedfedd 6 modfedd (5 metr). Mae’r math o arwydd a osodir yn dibynnu ar y bont.

Arwyddion ar gyfer gwaith ar y ffordd a sefyllfaoedd dros dro

Stay in lane sign

Defnyddir ystod eang o arwyddion ar gyfer gwaith ffordd a sefyllfaoedd dros dro. Mae rhain yn cynnwys hysbysu bod lonydd wedi cau, cyfyngiadau cyflymder dros dro, cyfarwyddiadau ar gyfer traffig gwaith ffordd a mwy.

Arwyddion eraill

Rising bollards sign

Mae arwyddion eraill yn cynnwys lonydd ar gyfer Cerbydau gyda mwy nag un person ynddynt (High Occupancy Vehicle), arwyddion talu am ddefnyddio ffyrdd (tâl tagfeydd), ac arwyddion bolardiau sy’n codi. Mae’r adran hon hefyd yn cynnwys arwyddion lleoliad i yrwyr ac arwyddion negeseuon electronig.

Allweddumynediad llywodraeth y DU