Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae’r dudalen hon yn cynnwys dolenni at adrannau o lyfryn ‘Know your traffic signs’ yr Adran Drafnidiaeth. Gallwch lwytho’r ffeiliau PDF sy’n cael eu rhestru isod i gael delweddau a gwybodaeth yn ymwneud â goleuadau ac arwyddion traffig, goleuadau a marciau ar gyfer croesfannau, bysiau, tramiau, beiciau a cherddwyr.
Yn ogystal â goleuadau traffig safonol, ceir goleuadau ar gyfer gyrwyr tramiau a beicwyr. Defnyddir goleuadau traffig sy’n rhybuddio drwy fflachio ar groesfannau rheilffordd, pontydd sy’n codi a gorsafoedd tân.
Ar rhai ffyrdd prysur, defnyddir goleuadau rheoli lonydd i newid nifer y lonydd sydd ar agor ac i roi blaenoriaeth i brif lif y traffig.
Ceir croesfannau ar gyfer cerddwyr yn unig (croesfannau pyffin a phelican), ar gyfer cerddwyr a beicwyr (croesfannau twcan) ac ar gyfer y sawl sy’n marchogaeth ceffylau (croesfannau ceffylau).
Mae arwyddion sy’n rhybuddio yn rhoi gwybodaeth ymlaen llaw i chi am groesfannau rheilffordd. Wrth groesfannau, ceir hefyd arwyddion a goleuadau y mae’n rhaid i ddefnyddwyr y ffordd a cherddwyr ufuddhau iddynt.
Gall tramiau redeg ar ffyrdd a ddefnyddir gan gerbydau a cherddwyr eraill. Bydd arwyddion a marciau ar y ffordd yn dangos llwybr y tram, yn rhybuddio, ac yn rhoi cyfarwyddiadau a chyfyngiadau cyflymder i yrrwr y tram ac i ddefnyddwyr eraill y ffordd.
Mae gan lonydd bysiau, safleoedd bysiau a meysydd parcio bysiau eu harwyddion a’u marciau ar y ffordd eu hunain. Gall beicwyr rannu lonydd bysiau neu efallai y bydd lonydd wedi cael eu harwyddo a’u marcio’n arbennig ar eu cyfer.
Bydd gan arwyddion yn dangos llwybrau beicio gefndir glas a byddant yn cynnwys symbol beicio gwyn. Mae’n bosib y byddant yn ffurfio rhan o arwydd cyfeirio mwy. Bydd arwyddion ar gyfer llwybrau cerdded yn dangos person yn cerdded.