Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae’r dudalen hon yn cynnwys dolenni at adrannau o lyfryn ‘Know your traffic signs’ yr Adran Drafnidiaeth. Gallwch lwytho’r ffeiliau PDF sy’n cael eu rhestru isod i gael delweddau a gwybodaeth yn ymwneud ag arwyddion traffig y byddwch yn eu gweld ar y draffordd, arwyddion gwybodaeth, cyfeirio a pharcio a marciau ar y ffordd.
Ceir rheolau arbennig ar gyfer gyrru ar y draffordd. Mae gan y rhan fwyaf o arwyddion ar y draffordd gefndir glas ac ysgrifen wen. Mae’r adran hon yn cynnwys yr arwyddion y byddwch yn eu gweld pan fydd rheolau’r draffordd yn dechrau ac yn dod i ben wrth i chi ymuno â’r draffordd, neu ei gadael.
Mae arwyddion cyfeirio ar ffyrdd at bob galw (nid traffyrdd) yn cynnwys arwyddion cyfeirio safonol siâp sgwâr neu siâp baner, ac arwyddion ar gyfer cyrchfannau i dwristiaid, cyfleusterau parcio a gwasanaethau. Caiff arwyddion ar gyfer gwyriadau eu cynnwys yn yr adran hon hefyd.
Mae arwyddion gwybodaeth yn cynnwys arwyddion sy’n rhoi gwybod i chi am y ffordd o’ch blaen ac arwyddion sy’n nodi ffiniau a dangos llefydd parcio ac ysbytai. Maent yn cynnwys arwyddion yr heddlu ac arwyddion ar gyfer arolygon traffig.
Mae ‘gostegu traffig’ yn golygu’r nodweddion hynny ar y ffordd sy’n annog gyrwyr i gymryd pwyll, megis twmpathau arafu a ffyrdd cul. Mae gostegu traffig yn aml yn cynnwys arwyddion rhybuddio ac arwyddion mynediad.
Mae marciau ar y ffordd yn amrywio o’r llinell ganol ar y ffordd i farciau cymhleth ar wahanol lonydd, croesfannau, llinellau stop a marciau bocs ar gyffordd.
Mae ystod eang o reolaethau a chyfyngiadau parcio, llwytho ac aros yn cael eu defnyddio ar y ffyrdd. Mae’r rhain yn cynnwys llinellau melyn a llwybrau coch wedi’u harwyddo a’u marcio.
Mae arwyddion parthau i gerddwyr yn nodi dechrau a diwedd parth ac yn dangos a gaiff cerbydau fynd iddo. Mewn rhai parthau, efallai y bydd mathau penodol o gerbydau yn cael mynd iddynt i lwytho, neu’n cael mynd iddynt rhwng amseroedd penodol.