Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rhyddhau gwybodaeth o gofrestrau DVLA

Mae gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) ddwy gronfa ddata ar wahân i gadw gwybodaeth. Mae’r gofrestr cerbydau’n cadw manylion y cerbyd, manylion y ceidwad a manylion trwyddedu, ac mae’r gofrestr gyrwyr yn cadw gwybodaeth am hawl.

Mynediad at wybodaeth DVLA

Dim ond staff a awdurdodir gan DVLA sy'n gallu cael mynediad at y cronfeydd gwybodaeth hyn. Fodd bynnag, mae deddfwriaeth yn caniatáu i DVLA ddatgelu gwybodaeth i’r rheini sydd â hawl gyfreithiol i’w gweld.

Achos rhesymol – pryd y caiff DVLA ryddhau gwybodaeth

Yn ôl y gyfraith, rhaid i DVLA ddiogelu eich manylion personol sy’n cael eu cadw ar y cofrestrau. Fodd bynnag, yn unol â rheoliadau’r Llywodraeth, gall DVLA ddatgelu gwybodaeth oddi ar y gofrestr cerbydau i’r rheini sy’n gallu dangos bod ganddynt ‘achos rhesymol’ dros weld yr wybodaeth. Mae’n rhaid i’r sawl sy’n gwneud yr ymholiadau roi manylion llawn pam mae arno eisiau’r wybodaeth a sut y caiff ei defnyddio.

Dyma rai o’r amgylchiadau sy’n cael eu hystyried yn ‘achosion rhesymol’:

  • materion yn ymwneud â diogelwch ar y ffordd
  • digwyddiadau sy’n digwydd o ganlyniad i ddefnyddio cerbyd
  • gorfodi deddfwriaeth traffig y ffyrdd
  • casglu trethi

Gwybodaeth o gofnodion cerbydau DVLA

Cyn datgelu’r wybodaeth, mae’n rhaid i DVLA fynd ati’n ofalus i bwyso a mesur y rhesymau dros wneud y cais, yn ogystal ag ystyried sut y defnyddir yr wybodaeth. Mae hyn yn golygu y gellir darparu’r wybodaeth ar y gofrestr cerbydau yn gyfreithlon at amrywiaeth o ddibenion, i'r cyhoedd ac i gyrff yn y sector preifat. Codir tâl i dalu am gost delio â’r ceisiadau dan y darpariaethau sy'n achosion rhesymol.

Gellir anfon gwybodaeth at:

  • yr heddlu
  • awdurdodau lleol
  • cwmnïau gorfodi yng nghyswllt parcio ceir
  • twrneiod
  • ariandai
  • rheolwyr eiddo
  • unigolion preifat sy’n gallu rhoi ‘rheswm rhesymol’ dros ddweud bod arnynt angen yr wybodaeth

Gallwch hefyd lwytho’r rhestr o sefydliadau sy’n gofyn am wybodaeth

Gwybodaeth o gofnodion gyrwyr DVLA

Ni fydd gwybodaeth am yrwyr yn cael ei rhyddhau i’r fath raddau â gwybodaeth am gerbydau.

Gall DVLA rannu gwybodaeth am yrwyr gydag adrannau eraill y Llywodraeth pan fydd deddfwriaeth yn caniatáu hynny.

Gellir rhannu gwybodaeth am yrwyr hefyd, gyda chaniatâd y gyrrwr, â sefydliadau megis:

  • cwmnïau llogi ceir
  • cyflogwyr sydd am gadarnhau hawl gyrrwr i yrru

Rhannu gwybodaeth ar draws Ewrop

Defnyddir y System Wybodaeth Ewropeaidd ar gyfer Trwyddedau Ceir a Gyrwyr (EUCARIS) i rannu gwybodaeth mewn ffordd ddiogel sy’n cael ei rheoli, ymhlith awdurdodau cofrestru yn Ewrop, gan gynnwys DVLA.

Defnyddir yr wybodaeth i wneud yn siŵr bod y trwyddedau gyrru a gyflwynir i’w cyfnewid yn ddilys. Mae’n hefyd cael ei defnyddio i sicrhau nad yw cerbyd sy’n cael ei gyflwyno i’w gofrestru yn y wlad hon wedi cael ei ddwyn neu wedi’i ddifrodi’n ddifrifol yn un o'r aelod-wladwriaethau eraill.

Gwneud cais am wybodaeth o gofnodion DVLA

Gallwch ofyn i DVLA am yr wybodaeth sy’n cael ei chadw amdanoch ar eich cofnod gyrrwr neu gofnod eich cerbyd. Gallwch hefyd ofyn am wybodaeth ynghylch ceidwaid cerbydau eraill os oes gennych ‘achos rhesymol’ dros wneud hynny.

Beth i’w wneud os gwneir cais anonest am eich manylion

Os tybiwch fod rhywun wedi gwneud cais anonest am eich manylion neu wedi’u camddefnyddio, gallwch ysgrifennu i:

Rhyddhau Gwybodaeth
Adran Ymholiadau Talu Ffioedd
DVLA
Abertawe
SA99 1AJ

Rhowch eich manylion ac esbonio sut rydych chi’n meddwl bod yr wybodaeth wedi’i chamddefnyddio. Bydd DVLA yn ystyried pob honiad lle mae cais amhriodol wedi'i wneud am wybodaeth a bydd yn cyfeirio eich ymholiad at y Comisiynydd Gwybodaeth i'w erlyn os oes angen.

Os nad ydych yn fodlon â'r ffordd y mae DVLA wedi delio â'ch cwyn, gallwch gysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
SK9 5AF

Ni all DVLA setlo anghydfodau dros amgylchiadau unigol rhwng y partïon perthnasol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU