Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Achos rhesymol - y rhesymau dros ryddhau gwybodaeth gan DVLA

Gall yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) ddatgelu gwybodaeth i’r cyhoedd ac i gyrff yn y sector preifat sydd ag achos rhesymol dros ei hangen. Gall datgelu gwybodaeth helpu mewn nifer o ffyrdd, o leihau troseddu a thwyll i ddiogelu cerbydau.

Ceir yn parcio ar eiddo preifat

Mae rhyddhau gwybodaeth ynghylch cerbyd i berchnogion tir neu eu hasiantau yn helpu i ddod o hyd i geidwad cerbyd sydd wedi:

  • rhwystro mynediad i dir neu i eiddo
  • cael ei adael ar eiddo preifat
  • cael ei barcio heb i’r ffioedd priodol gael eu talu
  • cael ei barcio heb fod ganddo’r hawl i wneud hynny, e.e. mewn man sydd wedi’i neilltuo ar gyfer modurwyr anabl

Rhyddhau gwybodaeth pan fo amheuaeth o dwyll

Bydd DVLA yn rhyddhau gwybodaeth i ddod o hyd i geidwad cerbyd sydd wedi gyrru ymaith heb dalu costau ffordd, twnnel neu bont.

Gall gorsafoedd petrol a modurdai ddod o hyd i geidwad cerbyd sydd wedi gadael heb dalu am danwydd, neu sydd wedi talu am danwydd neu am waith trwsio mewn modd anonest.

Gall aseswyr colledion a chwmnïau yswiriant gael gwybodaeth am geidwad cerbyd pan fyddant yn ymchwilio i ddamweiniau ar y ffordd a hawliadau twyllodrus ynghylch lladrata.

Gall gwybodaeth helpu i ddod o hyd i geidwad blaenorol cerbyd, fel rhan o ymchwiliad i droseddau ‘clocio’ cerbydau a amheuir, sy’n droseddau o dan y Ddeddf Disgrifiadau Masnach.

Gwybodaeth i helpu gyda materion ariannol

Ceir nifer o achosion lle y bydd DVLA yn rhyddhau gwybodaeth pan fo goblygiadau ariannol mawr.

Gall hyn helpu i leihau troseddu drwy helpu’r cwmnïau cyllid i ddod o hyd i geidwad cerbyd sydd wedi cael cytundeb prydlesu neu gytundeb benthyciad ar y cerbyd mewn modd twyllodrus.

Gall gwybodaeth helpu diddymwr neu dderbynnydd sydd wedi'i benodi gan y llys i gyfrifo asedau cerbydau yn ystod achosion ansolfedd.

Gellir cadarnhau ceidwad cerbyd i helpu asiantau casglu dyledion, sy’n gweithredu o dan orchymyn llys, i fynd â’r cerbyd ymaith.

Gwybodaeth a ddadlennir os bu damwain neu ddigwyddiad

Gall cwmnïau yswiriant, sy’n gweithredu dros ddeilydd y polisi, ofyn am wybodaeth i'w helpu i olrhain partïon eraill mewn digwyddiad neu ddamwain ar y ffordd.

Gellir dod o hyd i geidwad cerbyd a oedd mewn digwyddiad taro a ffoi bach nad oedd yn galw am ymchwiliad heddlu llawn. Gallai hyn gynnwys anaf personol neu ddifrod i gerbyd neu i eiddo.

Gall twrneiod, sy’n gweithredu dros gleient, ddod o hyd i geidwad cerbyd a oedd mewn damwain neu ddigwyddiad, neu lle mae'r cerbyd yn rhan o achos cyfreithiol.

Amgylchiadau eraill lle y gellir rhyddhau gwybodaeth

Ceir nifer o sefyllfaoedd eraill lle y gellir defnyddio ‘achos rhesymol’ ar gyfer rhyddhau gwybodaeth o gofrestr cerbydau DVLA. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • pan fo angen manylion cyswllt ar weithgynhyrchwyr ceir neu ddosbarthwyr ceir ar gyfer galw cerbydau yn ôl oherwydd rhesymau diogelwch
  • pan fo angen cadarnhau asedau cerbydau ar ysgutor ystâd

pan fo eisiau olrhain hanes llawn ei gerbyd ar geidwad cofrestredig presennol

Mwy o ddolenni defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU