Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut mae cael gwybodaeth o gofnodion DVLA

Ceir adegau pryd y gall yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) ddarparu gwybodaeth o'i gofnodion. Gallwch gael gwybodaeth ar-lein, dros y ffôn neu’n ysgrifenedig, gan ddibynnu ar beth y mae arnoch angen ei wybod.

Y gwasanaeth ymholiadau am fanylion cerbydau ar-lein

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth megis cost treth y cerbyd, pryd fydd y dreth yn dod i ben a gollyngiadau CO2 y cerbyd. Ni roddir manylion personol drwy’r gwasanaeth hwn.

Ymholiadau dros y ffôn

Mae gan y DVLA ddau wasanaeth ffôn ac mae’r llinellau ar agor yn ystod yr amseroedd canlynol:

Llinellau Cyffredinol Gyrwyr a Cherbydau – o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 7.00 pm; dydd Sadwrn rhwng 8.00 am a 2.00 pm.

Trwyddedu Electronig ar-lein i Yrwyr – o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am ac 8.30 pm; dydd Sadwrn 8.00 am a 5.30 pm.

Gwasanaeth gwirio cerbydau

Gydag unrhyw gerbyd, gallwch wirio’r canlynol:

  • dyddiad cofrestru cyntaf
  • blwyddyn ei wneuthuriad
  • maint yr injan (cc)
  • gollyngiadau CO2
  • lliw

Y rhif ffôn yw 0906 185 8585. Mae hyn ar y gyfradd uwch a chodir tâl o 51c y funud - mae'n bosib y bydd costau gan ddarparwyr eraill y gwasanaeth yn amrywio.

Llinell dyddiad dyledus (dyddiad treth cerbyd yn dod i ben)

Mae’r gwasanaeth hwn yn rhoi gwybodaeth am y dyddiad y mae’r ddisg treth bresennol yn dod i ben neu HOS (Hysbysiad Oddi-ar-y-ffordd Statudol). Y rhif ffôn yw 0906 765 7585. Mae hyn ar y gyfradd uwch a chodir tâl o 51c y funud - mae'n bosib y bydd costau gan ddarparwyr eraill y gwasanaeth yn amrywio.

Ni roddir manylion personol drwy’r gwasanaethau hyn.

Ymholiadau drwy'r post

Bydd angen i chi lenwi ffurflen ‘Cais am wybodaeth’ (V888) os oes arnoch eisiau gwybodaeth ynglŷn â:

  • manylion ceidwad cerbyd arall - y ffi ar gyfer hyn yw £2.50
  • ceidwaid blaenorol cerbyd sydd nawr wedi’i gofrestru yn eich enw chi - y ffi ar gyfer hyn yw £5.00

Sut mae cael gwybod am fanylion ceidwad cerbyd arall

Dim ond os allwch chi ddangos 'achos rhesymol' dros fod angen yr wybodaeth y cewch chi enw a chyfeiriad ceidwad cofrestredig cerbyd arall. Mae’n rhaid i’r DVLA bwyso a mesur y rhesymau pam fod arnoch angen yr wybodaeth a sut y caiff ei defnyddio cyn ei rhoi i chi.

Mae’n drosedd o dan Adran 55 o Ddeddf Diogelu Data 1998 i werthu neu i gael manylion personol yn anghyfreithlon. Gellir rhoi dirwyon diderfyn yn Llys y Goron (neu hyd at uchafswm o £5,000 yn y Llys Ynadon) fel cosbau am gyflawni’r troseddau hyn.

I wirio’r amgylchiadau y cewch ofyn am wybodaeth, pa dystiolaeth y bydd angen i chi ei darparu a pha wybodaeth a ddarperir, ewch i:

Allweddumynediad llywodraeth y DU