Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Trawsgrif o ffilm fer ar achosion ac effeithiau newid yn yr hinsawdd

Bydd y ffilm fer hon, sy'n ddwy funud o hyd, yn esbonio pam fod yr hinsawdd yn newid, beth mae hyn yn ei olygu a sut y gall pawb gymryd rhan wrth ddatrys y broblem. Diolch i Wayne Grundy am gael defnyddio'r lluniau o Boscastle.

Disgrifiad o'r ffilm (trawsgrif)

Llais:

Mae bywyd yn dibynnu ar wres yr haul sy'n cael ei ddal gan haen o nwyon o amgylch y ddaear.

Bellach rydym ni'n cynhyrchu cymaint o'r nwyon hyn sy'n dal gwres nes bod yr haen yn mynd yn fwy trwchus, gan gynhesu'r byd, newid ein hinsawdd a bygwth ein ffordd o fyw.

Wrth i'r byd gynhesu, bydd yr hinsawdd yn newid a bydd rhai o'r effeithiau eithafol yr ydym eisoes wedi eu profi yn digwydd yn amlach, gan wneud ein planed yn lle mwy bygythiol i fyw ynddo.

Pe gallem weld y nwyon, byddai'r hyn sy'n achosi'r broblem yn amlwg i bawb. Ac os gallech weld yr effaith yr ydym yn ei gael ar ein planed, byddech yn gwneud rhywbeth yn ei gylch.

Mae modd datrys y problemau hyn ac nid yw'n rhy hwyr i wneud gwahaniaeth. Ond mae'n rhaid i ni weithredu. Nawr. Heddiw!

Llywodraeth, diwydiant ac unigolion yn gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â'r broblem.

Hinsawdd yfory yw her heddiw.

Additional links

Ei wneud ar y we

Allweddumynediad llywodraeth y DU