Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gostyngiad Treth Cyngor i bobl anabl - sut i wneud cais

Os ydych yn credu eich bod yn gymwys am ostyngiad ar y Dreth Cyngor i bobl anabl, dylech wneud cais i’ch cyngor lleol.

Sut i wneud cais am ostyngiad

Dylech ffonio neu ysgrifennu at eich cyngor os ydych yn meddwl y dylech gael gostyngiad yn eich Treth Cyngor. Bydd yn rhaid i chi wneud cais am ostyngiad; ni fydd eich cyngor yn ei roi yn awtomatig, hyd yn oed os ydych yn derbyn gofal a chefnogaeth gan y gwasanaethau cymdeithasol.

Bydd y cyngor yn anfon ffurflen i chi ei llenwi a'i dychwelyd. Gallwch hefyd gael gwybodaeth am ostyngiadau Treth Cyngor ar wefan eich cyngor lleol, a gwneud cais amdanynt mewn rhai achosion. Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi deipio ble'r ydych chi'n byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich cyngor lleol. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i gynghorau yn Lloegr yn unig.

Beth sy'n digwydd nesaf

Mae’n bosib y bydd swyddog y cyngor yn gwneud apwyntiad i ddod i'ch gweld yn eich cartref. Bydd gan bob swyddog y cyngor fathodyn adnabod; gofynnwch am ei weld cyn i chi eu gadael i mewn. Bydd swyddog y cyngor yn gwneud nodiadau am yr addasiadau yr ydych wedi'u gwneud i'ch cartref (os yn gymwys), ac efallai y bydd am weld tystiolaeth o unrhyw fudd-daliadau yr ydych yn eu derbyn.

Os na fyddwch yn cael ymweliad, efallai y bydd angen i chi brofi eich bod yn anabl. Efallai y bydd angen i chi ddweud wrth eich cyngor beth yw enw eich gweithiwr/wraig cymdeithasol, neu gyflwyno gwaith papur.

Os nad ydych yn derbyn gofal gan y gwasanaethau cymdeithasol, efallai y gall eich meddyg gadarnhau (yn ysgrifenedig) eich bod yn anabl. Fel arfer y bydd y cyngor yn cysylltu â'ch meddyg a gofyn am wybodaeth ar ôl iddynt dderbyn eich cais.

Os caiff eich cais ei gymeradwyo

Fe welwch eich gostyngiad ar frig eich bil Treth Cyngor nesaf. Fel arfer, bydd y gostyngiad yn cael ei ôl-ddyddio i'r dyddiad gwneud cais. Efallai y bydd y cyngor yn ôl-ddyddio gostyngiad os gallwch ddangos bod gennych hawl iddo cyn i chi wneud cais.

Os gwrthodir eich cais

Os byddwch chi'n anghytuno â phenderfyniad y cyngor, dylech ysgrifennu atynt eto gan nodi pam eich bod yn meddwl y dylech gael gostyngiad. Mae gan y cyngor ddau fis i newid neu gadarnhau ei benderfyniad.

Os ydych yn dal i anghytuno â'r penderfyniad, neu os na fyddwch yn cael ymateb cyn pen dau fis, gallwch apelio i'r Tribiwnlys Prisio, sy'n annibynnol ar y cyngor. Dylech barhau i dalu eich bil gwreiddiol tra rhoddir sylw i'ch apêl.

Rhoddir esboniad manylach o'r broses apelio yn y daflen 'Treth Cyngor - arweiniad i'ch bil', sydd ar gael ar wefan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol.

Prisio eiddo sydd wedi cael eu haddasu ar gyfer pobl anabl

Mae'r rheolau sy'n gysylltiedig â phrisio eiddo at ddiben Treth Gyngor yn cynnig darpariaethau arbennig ar gyfer eiddo a addasir i bobl sy'n anabl yn gorfforol - mae hyn ar wahân i'r gostyngiadau yn y Dreth Gyngor ar gyfer pobl anabl.

Wrth brisio eiddo at ddiben penderfynu ei fand Treth Gyngor, rhoddir ystyriaeth i unrhyw osodion y mae eu hangen ar berson sy'n anabl yn gorfforol, sy'n gostwng gwerth yr eiddo, ond caiff unrhyw beth sy'n codi gwerth yr eiddo ei ddiystyru.

Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy'n gwneud y gwaith prisio. Os ydych chi'n meddwl nad ydyn nhw wedi ystyried unrhyw osodion arbennig a gynlluniwyd i wneud eich cartref yn addas i fyw'n annibynnol ynddo wrth osod yr eiddo mewn band prisio, dylech gysylltu â swyddfa leol Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Mae manylion cyswllt i'w gweld ar wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Allweddumynediad llywodraeth y DU