Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dywedwch eich barn wrth y Ganolfan Byd Gwaith

Oes gennych sylwadau neu gŵyn am y gwasanaeth a gawsoch gan y Ganolfan Byd Gwaith? Croesawir eich adborth gan ei fod yn ein helpu i wella gwasanaethau i bob cwsmer. Dewch i gael gwybod sut i gysylltu â'r Ganolfan Byd Gwaith gyda’ch sylwadau.

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gan y Ganolfan Byd Gwaith

Mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn rhan o’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ymroi i set o safonau gwasanaeth i’w holl gwsmeriaid. Mae’r safonau hyn yn gosod yr hyn y gallwch ei ddisgwyl pan fyddwch yn cysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith.

Pan fyddwch yn cysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith, gallwch ddisgwyl:

  • cael eich trin â pharch
  • cael y wybodaeth gywir
  • cael eich trin yn brydlon
  • cael mynediad at wasanaethau yn hawdd

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn Siarter Cwsmeriaid yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Rhannu eich profiadau

Os ydych yn fodlon gyda'r gwasanaeth a gawsoch gan y Ganolfan Byd Gwaith, pam na wnewch chi roi gwybod iddynt? Efallai y gall rhoi gwybod bod rhywbeth yn gweithio i chi helpu’r Ganolfan Byd Gwaith i wella eu gwasanaeth i’w holl gwsmeriaid.

Fel arall, efallai y bydd gennych syniad am ffordd i wella gwasanaethau. Os oes gennych awgrym am sut i wella pethau, rhowch wybod i’r Ganolfan Byd Gwaith.

Gwneud cwyn

Yn anffodus, gall fod adegau lle nad ydych yn fodlon gyda’r gwasanaeth a gawsoch gan y Ganolfan Byd Gwaith.

Yn yr achos cyntaf, dylech:

  • cysylltu â’r person rydych wedi bod yn delio â hwy
  • rhoi gwybod iddynt, neu’r rheolwr, am eich cwyn

Dylech ddisgwyl cael ymateb llawn o fewn 15 diwrnod gwaith o ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith am eich cwyn. Gobeithio y byddwch yn fodlon gyda’ch ateb.

Os ydych yn dal i fod yn anfodlon ar ôl derbyn eich ateb, cewch gyfle i fynd â’ch cwyn ymhellach. Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach am gamau nesaf y broses cwyno yn nhaflen y Ganolfan Byd Gwaith 'Ein safonau gwasanaeth'.

Yn ystod 2012 mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn gwneud gwelliannau i'r ffordd y mae'n ymdrin â chwynion am y gwasanaeth y mae'n ei ddarparu. Mae hyn yn cynnwys sefydlu timau ymroddedig er mwyn ymdrin â chwynion. Bydd y tîm ymdrin â chwynion yn delio â'ch cwyn os na ellir ei datrys pan fyddwch yn cysylltu â'r Ganolfan Byd Gwaith. Byddant fel arfer yn ceisio datrys eich problemau dros y ffôn. Os byddai'n well gennych i ni gysylltu â chi drwy ddull arall, mae croeso i chi roi gwybod i’r Ganolfan Byd Gwaith pan fyddwch yn cysylltu â hwy.

Anfodlon gyda’r gwasanaeth a gawsoch gan gontractwr yr Adran Gwaith a Phensiynau?

Os ydych yn anfodlon gyda’r gwasanaeth a gawsoch gan gontractwr yr Adran Gwaith a Phensiynau, fel darparwr Rhaglen Waith, dylech gwyno iddynt hwy yn gyntaf. Bydd hyn yn rhoi cyfle iddynt unioni pethau.

Os byddwch yn dal i fod yn anfodlon gydag ymateb terfynol y darparwr i’ch cwyn, gallwch ofyn i’r Archwilydd Achosion Annibynnol ymchwilio i’ch cwyn.

Cysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith

Gallwch gysylltu â’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith:

  • dros y ffôn
  • drwy ffôn testun
  • drwy’r post
  • drwy anfon neges e-bost
  • drwy ffacs
  • mewn person

Gallwch wneud sylwad i ganolfan gyswllt neu ganolfan trafod budd-daliadau. Dylai’r manylion cysywllt fod ar unrhyw ddogfennau y maent wedi’u hanfon atoch.

Allweddumynediad llywodraeth y DU