Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Cyn i chi gymryd eich cam gyntaf ar yr ysgol yrfa, rhaid i chi ddeall beth sy'n gwneud CV da, sut i berfformio'n dda mewn cyfweliad a beth ddylech chi ei ddisgwyl gan un. Bydd bod yn barod i weithio'n galed a dysgu sgiliau newydd yn eich helpu i gamu tuag at eich swydd ddelfrydol.
Pa fath bynnag o swydd yr ydych yn chwilio amdani, bydd angen i chi wybod ym mhle i chwilio. Gellir hysbysebu swyddi gwag mewn amryw o wahanol lefydd, gan gynnwys y canlynol:
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod o hyd i swydd mewn maes penodol, mae'n werth ymchwilio pa wefannau ac asiantaethau cyflogi sy'n arbenigo yn y maes hwnnw. Bydd hyn yn eich arbed rhag gorfod chwilio'n ddiangen.
Os ydych chi dros 16 oed, gall eich canolfan Connexions leol eich helpu i ddod o hyd i waith yn eich ardal chi, a gallwch ddod o hyd i fanylion am fathau o swyddi ac am y sgiliau sydd eu hangen i'w gwneud yng nghronfa ddata gyrfaoedd Jobs 4U.
Pan fyddwch yn gwneud cais am swydd, byddwch fel arfer yn gorfod disgrifio pa mor dda y mae eich sgiliau a'ch profiad gwaith blaenorol yn cyd-fynd â disgrifiad y swydd. Hyd yn oed os nad oes gennych lawer o brofiad o fod mewn gweithle, ceir sgiliau allweddol y bydd cyflogwyr yn chwilio amdanynt y gall unrhyw un eu harddangos. Ymhlith y rhain, mae:
Meddyliwch am yr hyn y mae'r ysgol a'r coleg wedi ei ddysgu i chi ac am unrhyw sgiliau sydd gennych ar ôl cymryd rhan mewn gweithgareddau. Er enghraifft, efallai eich bod wedi gwneud un o'r canlynol:
Mae pob un o'r enghreifftiau hyn yn defnyddio sgiliau y bydd cyflogwyr yn chwilio amdanynt, yn ogystal â sgiliau cyffredinol fel dangos blaengaredd ac ymrwymiad.
Pan fyddwch wedi dod o hyd i swydd yr ydych chi'n meddwl y gallech ei gwneud, mae gwahanol ffyrdd y gallai cwmnïau ofyn i chi wneud cais amdani.
Curriculum vitae (CV)
Dogfen fer sy'n rhestru'ch manylion personol, eich sgiliau a'ch profiadau yw curriculum vitae neu CV. Bydd cyflogwyr yn penderfynu a ydynt am eich gwahodd i gyfweliad ar sail y CV hwn yn unig, felly mae'n bwysig ei fod yn gywir, yn eich disgrifio mewn ffordd bositif ac yn cyd-fynd â'r disgrifiad swydd.
Llythyr eglurhaol
Pan fyddwch yn anfon CV, gofynnir yn aml i chi gyflwyno llythyr eglurhaol gydag ef.
Dylech ddefnyddio'r llythyr i werthu eich hun, i egluro pan eich bod yn addas ar gyfer y swydd ac i ddisgrifio sut mae'r wybodaeth yn eich CV yn berthnasol i'r swydd yr ydych yn ymgeisio amdani.
Pan fyddwch yn ysgrifennu'r llythyr, dylech wneud y canlynol:
Ffurflenni cais
Bydd rhai cwmnïau'n gofyn i chi lenwi ffurflen gais yn hytrach nag anfon CV. Os gofynnir i chi lenwi ffurflen:
Os yw cyflogwr yn hoffi'r hyn y mae'n ei weld ar eich ffurflen gais neu'ch CV, gallech dderbyn gwahoddiad i fynd i gyfweliad. Yn ogystal â bod yn gyfle i gyflogwr gael gwybod mwy amdanoch chi ac i benderfynu a fyddech chi'n addas ar gyfer y swydd, mae'n gyfle i chi ofyn cwestiynau am y swydd i weld ai dyma beth rydych chi'n chwilio amdano.
Cyn mynd i'r un cyfweliad, gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwneud rhywfaint o waith ymchwil am y cwmni. Edrychwch ar wefan y cwmni i weld pa waith y mae'n ei wneud ar hyn o bryd ac i gael gwybod am unrhyw ddatblygiadau diweddar. Bydd dangos bod gennych ddealltwriaeth o'r diwydiant ehangach yn gyffredinol yn gwneud i chi sefyll allan oddi wrth y rhai eraill a fydd yn cael eu cyfweld.
Megis gyda chyfweliadau ar gyfer mynd i goleg neu brifysgol, ceir rhai rheolau synnwyr cyffredin y dylech eu dilyn:
Os ydych chi’n 18 neu drosodd ac yn chwilio am waith, mae’n bosib y byddwch yn gallu hawlio Lwfans Chwilio Gwaith.
Nid yw’n bosib fel arfer i hawlio Lwfans Chwilio Gwaith os ydych o dan 18, ond os ydych chi’n 16 neu 17, mae’n bosib y byddwch yn gallu hawlio mewn amgylchiadau penodol.