Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae dewis llwybr gyrfa ar ôl i'ch addysg ddod i ben yn golygu meddwl am lawer mwy na'r swydd ei hun. Mae swyddi'n fwy hyblyg nag erioed ac mae diwrnod gwaith cyffredin yn rhywbeth o'r oes a fu.
Gall cynllunio gyrfa fod yn dipyn o her mewn marchnad swyddi sy'n newid o hyd. Mae'n rhaid i chi ystyried mwy na'r swydd ei hun; rhaid i chi feddwl am yr oriau gwaith, yr amgylchedd gwaith, cyflog a chyfleoedd hyfforddi hefyd.
Er enghraifft, nid yw pob gweithiwr yn syml yn cael ei gyflogi gan gwmni. Ceir llawer mwy o bobl sy'n gweithio ar gytundebau byr a chytundebau cyfnod penodol, yn hytrach na chytundebau amser llawn, parhaol.
Bydd rhai pobl yn dewis cael swyddi dros dro drwy asiantaeth gyflogi. Mae hyn yn golygu eu bod yn gweithio i gwmnïau gwahanol am amseroedd penodedig. Bydd pobl eraill yn gweithio'n llawrydd, sy'n golygu y byddant yn gweithio iddyn nhw eu hunain, ond yn ymgymryd â chontractau tymor byr i gwmnïau. Bydd gan weithwyr llawrydd yn aml lawer iawn o brofiad mewn maes arbennig.
Erbyn hyn, mae'r gweithlu'n meddu ar fwy o sgiliau, ac yn fwy cymwysedig nag erioed. Gan fod gan gyflogwyr grŵp mwy o ymgeiswyr i ddewis ohonynt, gall fod yn anodd cael troed i mewn i waith os na allwch ddangos bod gennych rywfaint o gymwysterau neu sgiliau. Mae llawer o ffyrdd o wella'r ystod sgiliau sydd gennych, felly siaradwch â chynghorydd Connexions i gael gwybod sut.
Efallai bod cychwyn am 9.00 am, gorffen am 5.00 pm a chael awr ginio rhywle yn y canol yn cael ei ystyried yn ddiwrnod gwaith o hyd, ond, i fwy a mwy o bobl, nid fel yna y mae hi go iawn. Mae rhai swyddi, fel nyrsio neu weithgynhyrchu yn dibynnu ar ddefnyddio patrymau sifftiau, sy'n golygu gweithio yn ystod y nos ac yn fuan yn y bore.
Bydd rhai swyddi'n cael eu gwneud yn yr awyr agored, bydd rhai'n cael eu gwneud mewn gweithdy neu mewn amgylchedd diwydiannol a bydd rhai yn cynnwys mwy o waith corfforol nag eraill.
Pan fyddwch yn gwneud cais am swydd neu'n cynllunio gyrfa, efallai y byddai'n fanteisiol ystyried pa fath o amgylchedd y byddwch yn gweithio orau ynddo, ac a oes gennych ymrwymiadau neu gyfrifoldebau eraill a allai'ch rhwystro rhag cael oriau gwaith gwahanol. Bydd hyn yn gwneud yn siŵr bod eich amserlen waith yn cyd-fynd â gweddill eich bywyd
Mae patrymau gweithio yn fwy hyblyg erbyn hyn fel y gall gweithwyr gydbwyso eu gyrfa a'u hymrwymiadau personol. Mae llawer o gwmnïau a sefydliadau'n gweld manteision rhoi rhywfaint o hyblygrwydd i'w staff o ran oriau gwaith.
Mae gan rai pobl hawl i ofyn am gael gweithio oriau hyblyg, ond mae llawer o gyflogwyr erbyn hyn yn gadael i'w gweithwyr drefnu eu gwaith o amgylch bywyd eu cartrefi. Dyma fathau o hyblygrwydd:
Efallai y byddwch yn dymuno cael gwybod pa fathau o gyfleoedd gweithio y mae cwmni'n eu cynnig cyn gwneud cais am swydd â nhw, yn enwedig os ydych yn gyfrifol am blentyn neu'n astudio ar gyfer cymwysterau y tu allan i oriau gwaith.
Yn hytrach na bod yn weithiwr mewn cwmni neu sefydliad, bydd yn well gan rai pobl weithio iddyn nhw eu hunain neu gychwyn busnes eu hunain. Er bod gan y rhan fwyaf o bobl sy'n gweithio iddyn nhw eu hunain fel arfer sawl blwyddyn o brofiad mewn maes gyrfa penodol, mae mwy a mwy o bobl ifanc yn mynd yn hunangyflogedig yn syth ar ôl gorffen astudio.
Gall cychwyn eich busnes eich hun fod yn galed; bydd angen i chi gael cynllun busnes ac, yn dibynnu ar y math o fusnes yr ydych yn ceisio ei sefydlu, digon o arian i dalu am adeilad, trydan, ynni a hyd yn oed pethau llai fel offer a nwyddau swyddfa. Gall hyn oll gostio cryn dipyn.
Os ydych chi'n gweithio, nid yw hynny'n golygu eich bod yn rhoi'r gorau i ddysgu. Bydd llawer o gyfleoedd i chi ddysgu pethau newydd, felly manteisiwch i'r eithaf ar unrhyw gyfleoedd a gewch. Cofiwch y gall sgiliau nad ydynt yn ymddangos yn berthnasol ar hyn o bryd fod yn ddefnyddiol yn y dyfodol.
Mae'n bosib y bydd rhai cyflogwyr yn talu costau cyrsiau hyfforddi y byddwch chi, efallai, yn dymuno eu gwneud, os teimlant y byddai'r cyrsiau hynny'n fanteisiol i chi ar gyfer eich swyddogaeth bresennol.
Os ydych chi mewn swydd nad yw'n cynnig cyfleoedd hyfforddi, efallai bod gennych hawl i gael amser i ffwrdd os ydych chi'n dymuno astudio ar gyfer cymwysterau penodol.