Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd cyflogwyr yn defnyddio eich curriculum vitae (CV) i benderfynu a ydych yn addas ar gyfer swydd wag. Mae'n gofnod o'ch cymwysterau a'ch sgiliau, felly gwnewch yn siŵr ei fod mor ddiweddar ag y bo modd pryd bynnag y byddwch yn gwneud cais am swydd newydd.
Bydd cyflogwyr yn dewis pwy maent yn dymuno'u cyfweld ar ôl gweld beth a gynhwysir ar eich CV, felly mae'n bwysig iawn ei fod yn hawdd ei ddeall a'i fod yn nodi eich nodweddion gorau.
Gall gwallau sillafu, gramadeg gwael a gwybodaeth sydd ar goll edrych yn ddrwg iawn ar CV ac, os nad yw'n gyflawn, mae'n ddigon posib y bydd cyflogwyr yn ei luchio i'r bin.
Does dim ffordd iawn na ffordd anghywir o lunio CV, ond mae rhai adrannau safonol y dylid eu cynnwys ynddynt. Y rhain yw:
Dylai'r geirdaon fod gan bobl sy'n eich adnabod yn dda - pobl a all roi gwybod i gyflogwr beth yr ydych wedi ei wneud yn y gorffennol. Eich dau gyflogwr diwethaf fydd y rhain fel arfer, ond os nad ydych wedi gweithio o'r blaen, gallwch ddefnyddio athro/athrawes neu diwtor o'r ysgol neu'r coleg.
Pan fyddwch yn disgrifio eich diddordebau, tynnwch sylw at y pethau sy'n dangos y sgiliau y bydd cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Dyma rai pethau da iawn i'w cynnwys:
Cadwch eich CV i ddim mwy na dwy ochr o bapur A4. Bydd cyflogwyr yn derbyn llawer o CVs, felly mae'n annhebygol y byddant yn darllen pob un o'i ddechrau i'w ddiwedd. Mewn gwirionedd, bydd y rhan fwyaf yn barnu CV ar ôl ychydig eiliadau'n unig, felly cadwch ef mor fyr ag y gallwch.
Yn olaf, byddwch yn onest. Os byddwch yn dweud celwydd ynghylch lefel eich profiad neu'r sgiliau sydd gennych a bod eich cyflogwr yn canfod hyn, gallech gael eich diswyddo.
Mae hefyd yn bwysig cynnwys adran sy'n canolbwyntio'n arbennig ar eich sgiliau. Bydd y rhai y dylech eu cynnwys yn dibynnu ar y swydd yr ydych yn gwneud cais amdani, ond gall rhai enghreifftiau o sgiliau allweddol wneud i chi sefyll allan o ddifrif.
Mae sgiliau allweddol yn cynnwys:
Gan fod angen sgiliau gwahanol ar gyfer swyddi gwahanol, dylech wneud newidiadau i'ch CV fel ei fod yn cyfateb yn agos i beth bynnag yr ydych yn gwneud cais amdano.
Does dim rhaid i chi ei ailysgrifennu'n llwyr, ond efallai y byddwch yn dymuno ail-ddrafftio neu ail-drefnu rhai o'ch diddordebau a'ch sgiliau fel bod y rhai pwysicaf yn nes at ddechrau'r ddogfen.
Efallai y byddwch hefyd yn dymuno diddymu pethau nad oes angen i chi eu crybwyll ar gyfer swydd benodol.
Mae'n bwysig iawn eich bod yn adolygu'ch CV yn rheolaidd, fel bod eich holl sgiliau a'ch profiadau'n cael eu cynnwys ynddo, a'i fod yn adlewyrchiad cywir a chadarnhaol ohonoch chi.
Os ydych chi wedi cwblhau lleoliad gwaith neu wedi dechrau gwirfoddoli'n ddiweddar, gwnewch yn siŵr eich bod yn cofnodi hyn ar eich CV, yn ogystal ag yn rhoi disgrifiad byr o'ch prif ddyletswyddau a pha sgiliau y gwnaethoch eu defnyddio. Dylech hefyd ychwanegu unrhyw gymwysterau newydd at eich CV cyn gynted ag y cewch hwy.