Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Tâl gwyliau gweithwyr amaethyddol

Mae gan bob gweithiwr amaethyddol, ar wahân i hyfforddeion, hawl i gael tâl gwyliau am eu gwyliau neu eu gwyliau ‘blynyddol’. Mae faint o dâl gwyliau gewch chi yn dibynnu ar eich cyflog arferol. Yma cewch wybod sut mae cyfrifo eich tâl gwyliau.

Tâl gwyliau – cyfrifiadau sylfaenol

Os yw'ch cyflog sylfaenol yr un faint bob wythnos (ar wahân i daliadau am oramser gwirfoddol) gallwch ddefnyddio'r camau canlynol i gyfrifo eich tâl gwyliau.

Cam un: cyfrifwch faint o gyflog rydych chi’n ei gael bob wythnos o dan eich contract cyflogaeth cyn tynnu treth a didyniadau eraill (‘eich cyflog gros wythnosol dan gontract’)

Cam dau: rhannwch y rhif hwnnw gyda nifer y diwrnodau rydych chi'n eu gweithio bob wythnos

Dyma yw eich tâl gwyliau dyddiol.

Tâl gwyliau – cyfrifiadau ar gyfer patrymau gwaith amrywiol

Os yw eich cyflog wythnosol sylfaenol yn amrywio, dylech gyfrifo cyfartaledd eich cyflog gros wythnosol dan gontract dros 12 wythnos. Eich cyflog gros yw eich cyflog cyn unrhyw d didyniadau, er enghraifft treth ac Yswiriant Gwladol.

Os ydych wedi gweithio llai na 12 wythnos, cyfrifwch gyfartaledd eich cyflog dros nifer yr wythnosau yr ydych wedi’u gweithio. Ni ddylech gynnwys goramser wrth gyfrifo, oni bai fod goramser gwarantedig.

Cam un: adiwch eich cyflog gros wythnosol dan gontract yn ystod y cyfnod 12 wythnos (neu nifer yr wythnosau yr ydych wedi’u gweithio os yw hynny’n llai) yn syth cyn dechrau’ch gwyliau

Cam dau: rhannwch y ffigwr hwnnw gyda 12 (neu gyda nifer yr wythnosau yr ydych wedi’u gweithio), a dyma yw cyfartaledd eich cyflog wythnosol

Cam tri: rhannwch gyfartaledd eich cyflog wythnosol (cam dau) gyda nifer y diwrnodau yr ydych wedi’u gweithio bob wythnos

Dyma yw eich tâl gwyliau dyddiol.

Cymryd rhan o ddiwrnod gwyliau

Os mai dim ond rhan o ddiwrnod gwyliau y byddwch chi’n ei gymryd, mae gennych hawl i'r un ganran cyflog. Er enghraifft, os ydych yn cymryd hanner diwrnod o wyliau, mae gennych hawl i hanner diwrnod o dâl gwyliau.

Ble mae cael cymorth

Os oes angen rhagor o gyngor arnoch am eich hawliau fel gweithiwr amaethyddol gallwch gysylltu â'r llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio, neu lenwi eu ffurflen ymholiadau ar-lein.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU