Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Isafswm Cyflog Amaethyddol a thâl

Mae’r swm y mae gennych hawl i’w gael fel gweithiwr amaethyddol yn dibynnu ar eich categori a’ch graddfa. Yn ogystal â'r raddfa isafswm cyflog, mae'n bosib bod gennych hawl i fathau eraill o dâl, er enghraifft, lwfans bod ar ddyletswydd wrth gefn neu lwfans ci.

Isafswm Cyflog Amaethyddol

Os ydych yn cael eich cyflogi ym maes amaethyddiaeth, mae gennych hawl i gael y gyfradd Isafswm Cyflog Amaethyddol ar gyfer eich graddfa chi.

Os yw cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn uwch na’r Isafswm Cyflog Amaethyddol, dylech gael y gyfradd Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

I gael arweiniad ar beth sy’n cyfri fel gweithio, darllenwch yr erthygl ar ‘Terfynau amser gweithio (yr wythnos 48 awr)’.

Cyfraddau Goramser

Mae gan bob gweithiwr amaethyddol hawl i gael eu talu am waith goramser. Dylech gael eich talu am waith goramser os byddwch yn gweithio:

  • mwy na 39 awr sylfaenol yn ystod unrhyw wythnos
  • mwy nag wyth awr mewn unrhyw ddiwrnod
  • unrhyw oriau dros yr oriau gweithio arferol yn eich contract cyflogaeth
  • ar ddiwrnod sy’n ŵyl y banc neu ŵyl gyhoeddus
  • ar ddiwrnod o wyliau a gewch gan eich cyflogwr yn ychwanegol at eich hawl gwyliau sylfaenol (e.e. gwyliau blynyddol)

Os cychwynnodd eich contract cyflogaeth cyn 1 Hydref 2006, mae goramser hefyd yn cynnwys unrhyw waith naill ai:

  • ar ddydd Sul
  • neu ar ddydd Llun cyn yr amser y byddech yn dechrau gweithio fel arfer, os gwnaethoch ddechrau gweithio ar y dydd Sul blaenorol a chario ymlaen i weithio tan y dydd Llun canlynol

Er enghraifft: fe gychwynnodd eich contract cyflogaeth cyn 1 Hydref 2006 ac rydych fel arfer yn dechrau gweithio am 3.00 pm ar ddydd Llun. Os byddwch yn gweithio o 11.00 pm ar ddydd Sul tan 2.00 am ddydd Llun, byddai gennych hawl i gael tâl goramser ar gyfer y cyfnod hwnnw’n llawn.

Mae’r gyfradd goramser sylfaenol y dylech ei chael yn dibynnu ar eich graddfa. Os ydych yn hyfforddai, dylech edrych pa raddfa sy'n cyfateb orau i'ch cymwysterau, eich dyletswyddau a'ch cyfrifoldebau.

Graddfeydd gweithwyr - 1–6

Os yw’ch contract cyflogaeth yn dweud y dylech weithio 39 awr sylfaenol yr wythnos (heb gynnwys goramser), mae’r cyfraddau Isafswm Cyflog Amaethyddol wythnosol yn berthnasol.

Os yw'ch contract cyflogaeth yn dweud y dylech weithio llai na 39 awr sylfaenol yr wythnos bob wythnos, mae’r gyfradd fesul awr yn berthnasol.

Darllenwch eich contract cyflogaeth i weld a yw eich cyflogwr yn cynnig cyfraddau cyflog sy’n uwch na’r isafswm.

Isafswm cyflog wythnosol £/wythnos

Cyflog fesul awr £/awr

Tâl goramser £/awr

Graddfa un – oedran ysgol gorfodol

3.05 4.58

Graddfa un – hŷn nag oedran ysgol gorfodol

237.90 610 9.15

Graddfa dau

264.03 6.77 10.16

Graddfa tri

290.55 7.45 11.18

Graddfa pedwar

311.61 7.99 11.99

Graddfa pump

329.94 8.46 12.69

Graddfa chwech

356.46 9.14 13.71

Gweithwyr hyblyg amser llawn a rhan-amser

Os ydych yn weithiwr hyblyg amser llawn sydd dan gontract i weithio 39 awr sylfaenol yr wythnos, mae’r cyfraddau wythnosol yn berthnasol. Gall hyn fod ar gyfartaledd dros gyfnod o ddwy neu dair wythnos.

Os ydych yn weithiwr hyblyg rhan-amser, mae'r cyfraddau fesul awr yn berthnasol i'r oriau sylfaenol rydych chi'n eu gweithio.

Mae’r cyfraddau goramser yn berthnasol i’r holl oriau goramser y byddwch yn eu gweithio.

Nifer y diwrnodau oriau sylfaenol a weithiwyd

Cyfradd fesul awr £/awr

Cyfradd wythnosol £/wythnos

Cyfradd goramser £/awr

Graddfa un

4 i 5 6.41 249.99 9.15
6 6.53 254.67 9.15

Graddfa dau

4 i 5 7.11 277.29 10.16
6 7.24 282.36 10.16

Graddfa tri

4 i 5 7.82 304.98 11.18
6 7.97 310.83 11.18

Graddfa pedwar

4 i 5 8.39 327.21 11.99
6 8.55 333.45 11.99

Graddfa pedwar

4 i 5 8.88 346.32 12.69
6 9.05 352.95 12.69

Graddfa pedwar

4 i 5 9.60 374.40 13.71
6 9.78 381.42 13.71

Prentisiaid

Os ydych yn brentis, dylech gael yr Isafswm Cyflog Amaethyddol yn eich blwyddyn gyntaf a’ch ail flwyddyn. Yn eich trydedd flwyddyn ac ar ôl hynny dylech gael y gyfradd Isafswm Cyflog Amaethyddol ar gyfer gweithiwr sylfaenol graddfa dau.

Oed

Cyflog wythnosol £/wythnos

Cyflog fesul awr £/awr

Tâl goramser £/awr

Blwyddyn gyntaf prentisiaeth/uwch brentisiaeth

Unrhyw oed

139.23 3.57 5.36

Ail flwyddyn ac uwch y brentisiaeth/uwch brentisiaeth

16-17 143.52 3.68 5.52
18-20 194.22 4.98 7.47
21+ 237.12 6.08 9.12

Mae gan brentisiaid hawl i’r canlynol hefyd:

  • cyfraddau goramser
  • cyfraddau gwaith nos
  • tâl gwyliau
  • grantiau genedigaeth a mabwysiadu
  • lwfans ci
  • Tâl Salwch – Cyflogau Amaethyddol (ar ôl i chi fod yn ddi-waith am gyfnod di-dor o 52 wythnos o leiaf)

Cyfraddau gwaith nos

Rhaid i’ch cyflogwr dalu’r gyfradd gwaith nos i chi am unrhyw waith a wnewch rhwng 7.00 pm a 6.00 am.

Os byddwch yn gweithio yn y nos, mae gennych hawl i gael £1.33 yr awr yn fwy na’ch cyfradd cyflog sylfaenol.

Lwfans bod ar ddyletswydd wrth gefn

Dylech gael lwfans bod ar ddyletswydd wrth gefn os ydych wedi cytuno â’ch cyflogwr y byddwch naill ai:

  • yn gallu cyrraedd eich gwaith o fewn amser y cytunir arno (e.e. ar gael o fewn awr i'r alwad) a’i bod yn hawdd cysylltu â chi
  • neu'n aros yn eich cartref neu gerllaw nes bydd eich cyflogwr yn penderfynu a oes eich angen

Os bydd yn rhaid i chi weithio pan fyddwch ar ddyletswydd wrth gefn, dylech naill ai gael:

  • eich talu at y gyfradd goramser briodol am eich gradd ar gyfer yr oriau y gwnaethoch eu gweithio
  • dwy awr at y gyfradd goramser briodol am eich gradd

Dylech gael pa un bynnag yw’r swm uchaf.

Lwfans ci

Os yw eich cyflogwr angen i chi gael un ci neu fwy ar gyfer eich swydd, mae gennych hawl i gael £7.42 yr wythnos yn ychwanegol am bob ci.

Tâl tywydd gwael

Os bydd tywydd gwael neu unrhyw beth arall yn atal eich cyflogwr rhag rhoi gwaith i chi, mae gennych hawl i gael eich talu. Dylech gael eich talu am unrhyw oriau y dylech fod wedi’u gweithio yn ôl eich contract cyflogaeth.

Gwaith fesul tasg

Os cewch eich talu fesul tasg, rydych yn weithiwr 'fesul tasg', er enghraifft, os cewch eich talu am bob carton o ffrwythau rydych wedi'u casglu. Ni ddylai eich cyflog fesul tasg fod yn llai na’r Isafswm Cyflog Amaethyddol (gan gynnwys goramser) ar gyfer yr oriau y byddwch yn eu gweithio.

Grantiau genedigaeth a mabwysiadu

Mae gan bob gweithiwr hawl i gael grant genedigaeth gan eu cyflogwr adeg genedigaeth eu plentyn, neu grant mabwysiadu os byddant yn mabwysiadu plentyn. I fod yn gymwys ar gyfer y grant hwn, rhaid i chi:

  • fod yn rhiant i'r plentyn, neu'n rhiant mabwysiedig iddo
  • rhoi copi i’ch cyflogwr o dystysgrif geni’r plentyn neu’r Gorchymyn Mabwysiadu cyn pen tri mis i ddyddiad geni neu fabwysiadu’r plentyn

Os yw’r ddau riant yn gweithio i’r un cyflogwr, mae gan y ddau ohonoch hawl i gael y grant. Dylai’ch cyflogwr dalu'r grant hwn i chi ar y diwrnod cyflog nesaf ar ôl yr wythnos i chi wneud eich cais.

Ble mae cael cymorth

Os oes angen rhagor o gyngor arnoch am eich hawliau fel gweithiwr amaethyddol gallwch gysylltu â'r llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio, neu lenwi eu ffurflen ymholiadau ar-lein.

Os ydych chi'n teimlo nad ydych chi'n cael yr Isafswm Cyflog Amaethyddol, dylech siarad â’ch cyflogwr a cheisio datrys y broblem mewn ffordd anffurfiol. Mae’n bosib mai camsyniad neu gamddealltwriaeth ydyw.

Os na allwch ddatrys y broblem gyda’ch cyflogwr, gallwch wneud cwyn i Defra (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig) gan ddefnyddio Ffurflen 54.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU