Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Isafswm Cyflog Amaethyddol – gosod costau llety yn erbyn cyflog

Mae’n bosib y gall eich cyflogwr ddidynnu arian o’ch cyflog er mwyn talu am lety y mae'n ei ddarparu ar eich cyfer chi. Gelwir hyn yn ‘gosod costau llety yn erbyn eich cyflog’. Yma cewch wybod ar gyfer pa fath o lety y gall eich cyflogwr ddidynnu arian o’ch cyflog, a faint y gall ei ddidynnu.

Gosod costau llety yn erbyn cyflog

Os yw'ch cyflogwr yn darparu llety i chi, gall gyfrif rhywfaint o werth y llety hwnnw tuag at eich Isafswm Cyflog Amaethyddol. Gelwir hyn yn ‘gosod costau llety yn erbyn eich cyflog’. Er mwyn i hyn fod yn berthnasol, mae’n rhaid i’ch contract cyflogaeth ddatgan bod angen i chi fyw yn y llety a ddarperir.

Uchafswm y didyniadau o’r Isafswm Cyflog Amaethyddol

Gall eich cyflogwr ddidynnu £1.50 yr wythnos o’ch Isafswm Cyflog Amaethyddol ar gyfer pob wythnos y darperir tŷ i chi.

Mae’n bosib eich bod yn byw mewn llety ar wahân i dŷ, a ddarperir gan eich cyflogwr (e.e. carafán). Os felly, gall eich cyflogwr ddidynnu £4.73 ar gyfer pob diwrnod y darperir y llety. Rhaid eich bod wedi gweithio o leiaf 15 awr yr wythnos honno cyn y gall eich cyflogwr wneud y didyniad.

Os byddwch chi’n cymryd unrhyw fath o absenoldeb yr ydych chi’n derbyn tâl amdano, mae hyn yn cyfrif tuag at yr oriau a weithiwyd yr wythnos honno.

Llety

Diffinnir 'tŷ' fel tŷ cyfan neu lety hunangynhaliol sy'n addas i bobl fyw ynddo (nid yw hyn yn cynnwys carafán na chartref symudol). Mae’n cynnwys unrhyw ardd sy’n perthyn i’r tŷ.

Diffinnir 'llety arall’ fel unrhyw lety ar wahân i dŷ sy'n addas i bobl fyw ynddo ac sy’n:

  • ddiogel
  • darparu gwely ar gyfer pob gweithiwr
  • darparu dŵr yfer
  • darparu toiledau a chyfleusterau ymolchi addas a digonol
  • bodloni’r safonau a nodir yn y Rheoliadau Iechyd, Diogelwch a Lles yn y Gweithle

Ble mae cael cymorth

Os oes angen rhagor o gyngor arnoch am eich hawliau fel gweithiwr amaethyddol gallwch gysylltu â'r llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio, neu lenwi eu ffurflen ymholiadau ar-lein.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU