Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae Tâl Salwch Amaethyddol yn eich galluogi i gael yr Isafswm Cyflog Amaethyddol ar gyfer eich oriau gwaith arferol pan fyddwch yn absennol o'r gwaith oherwydd salwch. Mae’r taliad hwn yn cynnwys unrhyw Dâl Salwch Statudol y gallech fod â hawl iddo. Yma gallwch ganfod a oes gennych hawl i gael Tâl Salwch Amaethyddol.
I fod yn gymwys i gael Tâl Salwch Amaethyddol, rhaid eich bod yn gweithio i’r un cyflogwr ers cyfnod di-dor o 52 wythnos o leiaf cyn dechrau’r cyfnod absenoldeb.
Rhaid eich bod yn absennol o'r gwaith oherwydd:
Nid yw absenoldeb o’r gwaith oherwydd anaf a gawsoch pan oeddech gartref yn gymwys ar gyfer Tâl Salwch Amaethyddol. Rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr am eich salwch neu’ch anaf. Os ydych yn sâl am reswm arall, mae’n bosib bod gennych hawl i Dâl Salwch Statudol. Ni allwch hawlio Tâl Salwch Statudol yn ogystal â Thâl Salwch Amaethyddol.
Os byddwch yn gymwys i gael Tâl Salwch Amaethyddol, cewch eich talu am bob diwrnod gwaith arferol hyd at yr uchafswm y mae gennych hawl iddo. Mae hyn yn cynnwys unrhyw ddiwrnodau goramser gwarantedig a weithir.
Pan fyddwch yn sâl dylech ddweud wrth eich cyflogwr ar unwaith, a rhoi tystiolaeth ysgrifenedig iddo na allwch weithio. Os byddwch yn sâl am fwy nag wyth diwrnod, bydd yn rhaid i chi roi tystysgrif feddygol (papur doctor) i’ch cyflogwr.
Mae’r cyfnod salwch yn dechrau ar y diwrnod gwaith llawn cyntaf na allwch weithio. Daw’r cyfnod i ben ar y diwrnod cyn i chi ddychwelyd i’ch gwaith – gall hynny fod ar unrhyw ddiwrnod, gan gynnwys diwrnodau nad ydych fel arfer yn gweithio.
I fod yn gymwys i gael Tâl Salwch Amaethyddol, mae'n rhaid i chi fod yn absennol o'r gwaith oherwydd salwch am gyfnod o bedwar diwrnod neu fwy. Nid oes gennych hawl i gael Tâl Salwch Amaethyddol ar gyfer tri diwrnod cyntaf y pedwar diwrnod hyn, oni bai i chi fod yn absennol o'r gwaith am fwy na 14 diwrnod gwaith i gyd. Yn yr achos hwn, bydd gennych hawl i gael Tâl Salwch Amaethyddol o ddiwrnod cyntaf eich salwch.
Mae uchafswm y diwrnodau Tâl Salwch Amaethyddol y gallwch eu hawlio yn dibynnu ar ers faint ydych chi'n cael eich cyflogi’n ddi-dor gan eich cyflogwr ar ddechrau'r cyfnod Tâl Salwch.
Mae eich cyfnod Tâl Salwch Amaethyddol yn gyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y cyfnod salwch neu anaf sy’n gymwys ar gyfer Tâl Salwch Amaethyddol.
Nifer y misoedd o gyflogaeth ddi-dor ar ddechrau’ch cyfnod Tâl Salwch Amaethyddol |
Nifer yr wythnosau o Dâl Salwch Amaethyddol yn ystod y cyfnod |
---|---|
Llai na 12 | 0 |
o leiaf 12 ond llai na 24 | 13 |
o leiaf 24 ond llai na 36 | 16 |
o leiaf 36 ond llai na 48 | 19 |
o leiaf 48 ond llai na 59 | 22 |
59 neu fwy | 26 |
Defnyddiwch y tabl uchod i gyfrifo faint o ddiwrnodau Tâl Salwch Amaethyddol y mae gennych hawl iddynt. Lluoswch nifer yr wythnosau priodol yn y tabl gyda nifer y diwrnodau yr ydych dan gontract i'w gweithio bob wythnos.
Rhaid i chi gael o leiaf eich cyflog sylfaenol arferol am eich holl oriau gwaith arferol ar gyfer pob diwrnod o'ch cyfnod Tâl Salwch Amaethyddol. Mae hyn yn cynnwys goramser gwarantedig.
Rhaid i'ch cyflogwr dalu eich tâl salwch wythnosol yn ystod y cyfnod hwn ac yn syth ar ôl i chi fynd yn ôl i’ch gwaith. Dylai pob taliad fod o leiaf gyfwerth â'r swm y gŵyr eich cyflogwr y mae gennych hawl iddo (yn hytrach na dyfalu pryd y byddwch yn dychwelyd). Dylech gael eich talu ar y dyddiad talu arferol.
Os oes angen rhagor o gyngor arnoch am eich hawliau fel gweithiwr amaethyddol, gallwch gysylltu â'r llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio, neu lenwi eu ffurflen ymholiadau ar-lein.