Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Asiantaethau recriwtio

Mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn cynnig ystod eang o gyfleoedd swyddi. I gynyddu eich siawns o gael swydd neu i wella eich sgiliau, gallech hefyd ymuno ag asiantaeth recriwtio.

Y manteision o gofrestru gydag asiantaeth recriwtio

Mae asiantaethau recriwtio yn gweithio'n agos gyda phobl sy’n chwilio am waith a chyflogwyr sy’n chwilio am bobl i lenwi swyddi.

Os ydych yn gweithio gydag ymgynghorydd recriwtio, bydd yn gwybod pa fath o swydd yr hoffech ei chael a bydd yn eich helpu i ddod o hyd iddi. Mae rhai asiantaethau yn arbenigo mewn mathau penodol o swyddi.

Efallai y bydd asiantaethau recriwtio’n cynnig swyddi dros dro i chi yn ogystal â swyddi parhaol neu swyddi llawn amser. Gall hyn eich helpu i gronni eich profiad gwaith, eich sgiliau a’ch hyder os ydych am ddychwelyd i swydd llawn amser barhaol.

Gallai asiantaethau hefyd gynnig y canlynol:

  • oriau gwaith hyblyg a allai weddu i'ch sefyllfa a'ch anghenion
  • hyfforddiant i wneud yn siŵr bod gennych y sgiliau sydd eu hangen arnoch i gael y swyddi sydd ar gael

Beth i edrych amdano mewn asiantaeth recriwtio

Rhaid i asiantaethau recriwtio gyrraedd y safonau a osodwyd gan Ddeddf Asiantaethau Cyflogaeth 1973.

Os ydych yn chwilio am waith dros dro, rhaid i'r asiantaeth gytuno ar y canlynol gyda chi:

  • telerau ac amodau'r gwaith y byddwch yn ei wneud
  • y math o waith y byddwch yn ei wneud
  • faint y cewch eich talu
  • sut a phryd y cewch eich talu
  • faint o rybudd y bydd yn rhaid i chi ei roi (os o gwbl)
  • manylion unrhyw wyliau â thâl

Ni all asiantaeth:

  • wrthod eich talu am nad ydynt wedi cael eu talu gan yr unigolyn rydych yn gweithio iddo
  • codi tâl arnoch am ddod o hyd i waith neu geisio chwilio am waith i chi (mae rhai eithriadau, yn bennaf mewn swyddi adloniant a modelu)

Nid oes rhaid i chi ddefnyddio unrhyw un o'r gwasanaethau y mae asiantaeth yn codi tâl amdanynt, er enghraifft cyrsiau hyfforddiant a chael help i ysgrifennu eich CV.

Rhaid i asiantaethau roi'r holl wybodaeth sydd ganddynt am:

  • y cyflogwr rydych yn gweithio iddynt
  • y math o waith y byddwch yn ei wneud
  • yr oriau y byddwch yn eu gweithio
  • faint y cewch eich talu

Bydd yr asiantaeth yn sicrhau bod gennych y sgiliau a chymwysterau sydd eu hangen arnoch ar gyfer y swydd. Bydd hefyd yn sicrhau nad ydych yn torri unrhyw gyfreithiau drwy wneud y gwaith yma. Rhaid iddynt roi gwybod i chi am unrhyw newidiadau yn eich cytundeb yn ysgrifenedig.

Pan fyddwch yn cofrestru ag asiantaeth bydd yn gofyn i chi am wybodaeth amdanoch chi eich hun fel y gall ddod o hyd i leoliad neu swydd addas. Gall gwybodaeth gynnwys prawf adnabod (fel tystysgrif geni neu drwydded yrru), eich profiad ac unrhyw hyfforddiant neu gymwysterau sydd gennych. Bydd hefyd yn sicrhau eich bod yn fodlon cyflawni'r swydd cyn ei rhoi i chi.

Ni fydd yr asiantaeth yn rhoi eich gwybodaeth i unrhyw sefydliadau eraill oni bai eu bod yn ceisio dod o hyd i waith i chi neu fod ei hangen at ddibenion cyfreithiol. Rhaid i'r asiantaeth gael eich caniatâd cyn gwneud hyn.

Gall asiantaeth gynnig swydd i chi ar fyr rybudd. Gall hefyd orffen gwaith dros dro ar fyr rybudd heb fod yn gyfrifol am unrhyw dâl diswyddo annheg neu dâl colli swydd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y contract bob tro.

Sut gallaf gael y gorau allan o asiantaeth recriwtio

I gael y gorau allan o asiantaeth recriwtio, mae'n bwysig eich bod yn ystyried sut y gallwch gael y gwaith gorau gyda nhw. Cofiwch eich bod dweud wrthynt am eich sgiliau a byddant yn eich helpu i ddod o hyd i swydd. Rydych yn cydweithio.

Felly, i gael y gorau o'ch asiantaeth recriwtio, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud y canlynol:

  • cadw mewn cysylltiad rheolaidd a nhw
  • rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt, gan gynnwys eich holl fanylion cyswllt a geirdaon
  • bod yn onest
  • cadw eich CV yn gywir ac wedi'i ddiweddaru
  • dweud wrthynt os oes math penodol o waith nad ydych am ei wneud - byddwch yn onest i arbed amser
  • gwrando ar unrhyw gyngor a gewch gan eich ymgynghorydd ar wella eich CV, cofiwch ei fod yn weithiwr proffesiynol ac am eich helpu i gael swydd

Siarad â'ch asiantaeth os nad yw'n dod o hyd i waith i chi - gallai fod am nad oes swyddi ar gael. Ystyriwch fathau eraill o waith rydych yn fodlon eu gwneud neu cofrestrwch ag asiantaeth arall.

Os oes arnoch angen cyngor pellach am asiantaethau recriwtio yn eich ardal, dylech gysylltu â’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith agosaf.

Am wybodaeth fwy manwl ar y rheolau mae’n rhaid i asiantaethau eu dilyn, dilynwch y dolenni isod.

Rhagor o gymorth a gyngor

Gallwch hefyd lawrlwytho dalen ffeithiau ‘Asiantaethau recriwtio’ y Ganolfan Byd Gwaith isod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU