Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Llythyrau a ffurflenni cais am swyddi

Wrth wneud cais am swydd rydych yn cystadlu yn erbyn nifer o bobl eraill. Mae’n bwysig bod eich cais yn gwneud argraff ac yn sefyll allan o’r gweddill. Bydd llythyr eglurhaol sydd wedi’i baratoi a’i gyflwyno yn y ffordd gywir a ffurflen gais wedi’i chwblhau’n gywir o help i chi.

Gwneud cais am swydd sydd wedi’i hysbysebu

Os ydych am wneud cais am swydd ac y gofynnir i chi wneud cais yn ysgrifenedig, edrychwch ar yr enghraifft ganlynol. Mae'n dangos y swydd wag, y pwyntiau i chwilio amdanynt ac awgrym o lythyr. Os yw’ch cais ar ffurf glywedol dylech gysylltu â’r cwmni ymlaen llaw er mwyn iddynt allu disgwyl eich cais mewn ffurf arall. Yna gallant wneud cynlluniau i’w adolygu.

Swydd wag - enghraifft

Yn yr enghraifft hon, rydych wedi gweld yr hysbyseb swydd ganlynol ac am wneud cais amdani:

Westfords Ltd.
Angen Swyddogion Cefnogi Technoleg Gwybodaeth
40 awr yr wythnos - 8.45 am - 5.15 pm.
Mae cwmni personoli cardiau adnabod â ffotograffau ac amgodio cardiau call yn chwilio am swyddogion cymorth TG.
Ymhlith y cyfrifoldebau mae cynnal a chadw cyfrifiadurol a meddalwedd mewnol a sicrhau ansawdd cynhyrchion.
Rhaid meddu ar brofiad gyda chyfrifiaduron.
Byddai gwybodaeth am argraffwyr yn ddelfrydol ond nid yn hanfodol gan y rhoddir hyfforddiant llawn.
Gwnewch gais yn ysgrifenedig gyda llythyr eglurhaol a CV at:

Mr Knight
Westfords Ltd
500 Stryd Sampl
Tref Sampl
LZX 1XX

Adnabod gwybodaeth bwysig yn yr hysbyseb

Mae’r canlynol yn wybodaeth bwysig sydd wedi’i gynnwys yn yr hysbyseb.

Y Cwmni
Westfords Ltd. Gallwch edrych ar eu gwefan i ddysgu mwy am y cwmni. Os nad oes ganddynt wefan efallai y gallwch gael mwy o wybodaeth yn eich llyfrgell leol. Efallai y gall yr ymchwil hyn eich helpu i ysgrifennu eich cais.

Teitl y swydd a'r dyletswyddau

  • Swyddog Cefnogi Technoleg Gwybodaeth
  • cynnal a chadw cyfrifiaduron a meddalwedd mewnol
  • gwirio nwyddau traul a meddalwedd mewnol
  • sicrhau ansawdd cynhyrchion gorffenedig

Cymwysterau a sgiliau angenrheidiol

  • rhaid meddu ar brofiad gyda chyfrifiaduron
  • byddai profiad gydag argraffwyr yn ddelfrydol ond nid yn hanfodol gan y rhoddir hyfforddiant llawn

Cyflog

  • ni roddir cyfradd – ffoniwch i holi

Oriau

  • 40 yr wythnos: dydd Llun i ddydd Gwener 8.45 am – 5.15 pm

Sut i wneud cais

  • yn ysgrifenedig – gyda llythyr eglurhaol a CV

Ysgrifennu llythyr eglurhaol

Beth i’w gynnwys

Tanlinellwch y sgiliau yn yr hysbyseb. Ysgrifennwch gopi bras o'ch llythyr a chofiwch gynnwys y sgiliau sydd wedi'u tanlinellu. Byddwch yn gadarnhaol a phwysleisiwch pam eich bod yn berffaith ar gyfer y swydd. Dylech gynnwys unrhyw sgiliau perthnasol sydd gennych.

Awgrym o gynllun

Yn gyntaf, rhowch grynodeb o'ch sgiliau a'ch profiad. Cadwch ef yn fyr ac i'r pwynt. Yna, dywedwch pryd y byddwch yn rhydd i gael cyfweliad. Cofiwch gynnwys eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn (os oes gennych un) a'r dyddiad a chynnwys copi o’ch CV.

Beth i’w ddweud

Byddwch yn glir. Peidiwch â defnyddio gair hir os bydd un byr yn gwneud y tro. Os ydych wedi bod yn ddi-waith am gyfnod, dywedwch sut rydych yn treulio eich amser rhydd (er enghraifft, drwy wneud gwaith gwirfoddol, astudio ac ati). Byddwch yn onest - peidiwch â dweud eich bod yn mwynhau neidio bynji os ydych yn mynd yn ben ysgafn yn sefyll ar stôl, cewch eich dal allan mewn cyfweliad. Cadwch at y ffeithiau a pheidiwch â gorwerthu eich hun.

Sut i’w ddweud

Cofiwch gynnwys y rhif cyfeirnod os oes un ym manylion y swydd. Rhowch ef o dan y llinell agoriadol. Er enghraifft:

Annwyl Mrs……
Par: Swydd cyfeirnod 345

Ceisiwch ganfod enw'r sawl y mae angen i chi ysgrifennu ato. Cofiwch ddechrau gydag 'Annwyl Syr/Madam' neu enw'r person a gorffen gydag 'Yn gywir'. I gloi, sicrhewch fod eich sillafu a'ch gramadeg yn gywir cyn anfon y llythyr.

Sut mae’r llythyr yn edrych

Byddwch yn daclus, p'un a yw eich llythyr mewn llawysgrifen neu wedi'i deipio. Gadewch ddigon o ofod o amgylch yr ymylon a gofod clir rhwng pob paragraff. Defnyddiwch bapur plaen ac amlenni o ansawdd da. Cymharwch y fersiwn terfynol gyda'r un drafft i wneud yn siŵr nad ydych wedi gadael unrhyw beth allan. Os yw eich cais mewn fformat sain, sicrhewch fod y cynnwys yn glir, i'r pwynt ac yn hawdd i'w ddeall.

Llofnodwch y llythyr a phrintiwch eich enw o dan eich llofnod i wneud yn siŵr y gellir ei ddarllen yn hawdd.

Gofynnwch i ffrind neu berthynas ddarllen dros y llythyr cyn i chi ei anfon. I gloi, gwnewch yn siŵr bod eich cais yn cyrraedd ar amser. Os ydych yn ei bostio, cofiwch y gallai fod oedi. Os bydd eich cais yn hwyr, efallai na fydd y cwmni hyd yn oed yn ei ystyried a byddwch wedi gwastraffu amser.

Llythyr eglurhaol - enghraifft

Dilynwch y cyswllt isod i weld enghraifft o lythyr eglurhaol a gallech ei anfon mewn ymateb i’r swydd mae Westfords Ltd wedi’i hysbysebu.

Llenwi ffurflenni cais

Bydd rhai hysbysebion swydd yn gofyn i chi gwblhau ffurflen gais. Efallai y bydd angen i chi gysylltu â'r cyflogwr i gael copi o'r ffurflen gais. Os bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais y Ganolfan Byd Gwaith i wneud cais am y swydd, gallwch gael y ffurflen o'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol neu gallwch ei lawrlwytho drwy ddefnyddio’r cyswllt isod.

Dyma ychydig o awgrymiadau ar sut i lenwi ffurflenni cais:

  • cofiwch ddarllen y cyfarwyddiadau bob amser pan fyddwch yn cwblhau'r ffurflen gais - er enghraifft, p'un a oes angen i chi ysgrifennu mewn llythrennau bras, neu gwblhau'r ffurflen mewn inc du yn unig
  • sillafwch enw’r cwmni’n gywir
  • paratowch ddrafft o'r ffurflen gais ac yna trosglwyddwch y wybodaeth i'r ffurflen gywir - os ydych yn ei chwblhau mewn llawysgrifen
  • darllenwch dros yr hysbyseb swydd eto a gwnewch yn siŵr bod y wybodaeth rydych wedi'i chynnwys ar y ffurflen yn berthnasol
  • atebwch y cwestiynau i gyd a llenwch bob blwch
  • os oes bylchau yn eich hanes cyflogaeth, dywedwch beth roeddech yn ei wneud yn ystod y cyfnod hwnnw - er enghraifft: magu eich plant, neu weithio fel gwirfoddolwr i elusen
  • dylech gynnwys sgiliau rydych wedi’u datblygu y tu allan i’r gwaith
  • gofynnwch i ffrind neu berthynas ddarllen dros eich ffurflen gais cyn i chi ei hanfon

Rhagor o gymorth a chyngor

Gallwch hefyd lawrlwytho y ddalen ffeithiau 'Llythyrau a ffurflenni cais' y Ganolfan Byd Gwaith isod.

Darparwyd gan Jobcentre Plus

Allweddumynediad llywodraeth y DU