Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Yn y farchnad swyddi heddiw, mae’n debygol y byddwch yn profi gwahanol swyddi ac amgylchedd gwaith. I gyrraedd eich llawn botensial mae’n talu i fod yn hyblyg a pharod i newid, yn enwedig os ydych yn edrych ar newid gyrfa. Ffordd dda o gychwyn yw drwy adnabod eich sgiliau trosglwyddadwy.
Dyma'r sgiliau rydych wedi'u casglu mewn unrhyw swyddi neu weithgareddau y gallwch eu cymhwyso i swyddi eraill. Gallwch ddatblygu sgiliau drwy bob math o weithgareddau, er enghraifft:
Gall y sgiliau hyn gynnwys y canlynol:
Os byddwch yn meddwl am swyddi, hobïau a gweithgareddau eraill a oedd gennych yn y gorffennol, mae eisoes gennych sgiliau trosglwyddadwy defnyddiol fel:
Gall weithiau fod yn galed nodi eich cryfderau eich hun. Os ydych yn cael budd-dal oedran gweithio, gall cyfweliad gydag ymgynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith helpu. Mae budd-daliadau oedran gweithio yn cynnwys:
Bydd ymgynghorydd yn gwybod am sefydliadau eraill a allai eich helpu i nodi ac ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch. Gallwch hefyd ofyn i ffrindiau a pherthnasau i helpu adnabod eich cryfderau sydd hefyd yn sgiliau trosglwyddadwy.
Os nad ydych yn cael budd-dal oedran gweithio, mae Gyrfa Cymru yn rhoi cyngor a gwybodaeth ar ddysgu a hyfforddiant. Yn Lloegr, cysylltwch â Next Step ac yn yr Alban cysylltwch â Skills Development Scotland.
Mae ffyrdd o ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch er mwyn i chi gyrraedd lle rydych chi eisiau bod. Mae angen i chi benderfynu pa fath o swydd rydych ei heisiau, er enghraifft lletygarwch. Gwnewch rywfaint o ymchwil i'r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen ar gyfer y swyddi hyn fel arfer. Cymharwch y rhain gyda'r sgiliau trosglwyddadwy sydd gennych eisoes i ddod o hyd i unrhyw fylchau.
Gallwch ddatblygu sgiliau newydd mewn amryw ffyrdd. Efallai y byddwch eisiau ystyried:
Gall y gweithgareddau hyn roi hwb i'ch hunan hyder a'ch bywyd cymdeithasol hefyd.
Mae nifer o’r cyflogwyr mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn gweithio gyda, fel y rhai sy’n rhan o’r Partneriaethau Cyflogaeth Lleol, hefyd eisiau eich helpu i ddatblygu eich sgiliau ar gyfer gwaith. Efallai y gallant gynnig cyfleoedd i chi fel cael eich mentora gan eu cyflogeion a hyfforddiant cyn i chi ddechrau gweithio.
Gall ymgynghorydd Canolfan Byd Gwaith ddweud wrthych pa gyfleoedd sydd ar gael yn eich ardal chi.
Os ydych yn gwneud cais am fath swydd nad ydych wedi ei gwneud o'r blaen, gall sgiliau trosglwyddadwy eich helpu i ddangos i gyflogwr bod gennych y sgiliau cywir ar gyfer y swydd.
Enghraifft
Gadewch i ni dybio bod gennych sgiliau switsfwrdd a theipio, ond nad ydych wedi cael cyswllt â chwsmeriaid yn eich swyddi blaenorol. Am y tair blynedd diwethaf, rydych wedi bod yn gynrychiolydd clwb Nadolig lleol. Rydych yn helpu pobl i gynilo yn ystod y flwyddyn, er mwyn iddynt allu talu'r costau ychwanegol dros y Nadolig. Golyga hyn eich bod wedi magu hyder wrth siarad â chwsmeriaid wyneb yn wyneb, gan ateb cwestiynau dros y ffôn a delio â chwynion.
Mae’n rhaid i chi ddangos i gyflogwr posibl fod y sgiliau sydd gennych y sgiliau cywir ar gyfer y swydd. Bydd y cyswllt isod yn dangos i chi sut i gyflwyno’r wybodaeth i roi’r cyfle gorau i chi.
Gallwch hefyd lawrlwytho dalen ffeithiau 'Gwnewch y gorau o’ch sgiliau’ y Ganolfan Byd Gwaith isod.
Darparwyd gan Jobcentre Plus