Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwneud cais am swydd ar-lein

Mae llawer o gwmnïau yn hysbysebu eu swyddi gwag ar y rhyngrwyd drwy eu gwefannau eu hun, gwefannau recriwtio neu fyrddau swyddi ar-lein sy’n berchen i bapurau newydd. Mae swyddi gwag yn cael eu llenwi cyn gynted â’u bod yn ymddangos felly mae’n bwysig eich bod yn edrych yn rheolaidd i wneud yn siŵr nad ydych yn colli cyfle.

Swyddi ar-lein

Mae’n rhan fwyaf o gwmnïau yn hysbysebu eu swyddi gwag ar-lein. Ar hyn o bryd mae tua 1000 o fyrddau swyddi ar-lein yn y DU. Er mwyn sicrhau eich bod yn cael gwybodaeth am y swyddi gwag diweddaraf, bydd angen i chi:

  • ddod o hyd i ffordd o gael mynediad i'r rhyngrwyd
  • cael cyfeiriad e-bost eich hun
  • gwybod sut i ddod o hyd i swyddi gwag a chwblhau ceisiadau ar-lein

Dod o hyd i fynediad i’r rhyngrwyd

Os oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd gartref, yna mae'n hawdd. Os na, dyma rai awgrymiadau:

  • gallwch ddefnyddio canolfannau ar-lein y DU sydd wedi'u lleoli yn eich cymuned. Gallwch ddod o hyd i’ch canolfan ar-lein y DU agosaf drwy ddilyn y cyswllt isod neu ffonio canolfannau ar-lein y DU ar 0800 77 1234
  • efallai bod gan eich llyfrgell leol gyfrifiaduron sydd wedi'u cysylltu â'r rhyngrwyd
  • efallai bod gennych ffrindiau neu berthnasau sy'n fodlon gadael i chi ddefnyddio eu cyfrifiadur i fynd ar-lein
  • gwiriwch gyda’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith agosaf i weld beth sydd ar gael yn eich ardal chi

Cael cyfeiriad e-bost

Bydd cyflogwyr yn aml yn dweud wrthych p'un a ydych wedi bod yn llwyddiannus ai peidio dros yr e-bost. Mewn rhai achosion, dyma'r unig ffordd y mae rhai cyflogwyr yn llenwi eu swyddi gwag. Er enghraifft:

  • mae’r rhan fwyaf o gwmnïau recriwtio yn hysbysebu swydd gwag ar-lein
  • ar hyn o bryd mae tua 1000 o fyrddau swyddi ar-lein yn y DU

Er mwyn cael cyfeiriad e-bost, rhowch gynnig ar y chwilotwyr (er enghraifft Google neu Yahoo) gan fod llawer yn cynnig cyfrif e-bost am ddim. Neu, rhowch 'free e-mail address' mewn chwilotwr ac edrychwch ar y canlyniadau. Dilynwch y cyfarwyddiadau i sefydlu cyfeiriad e-bost am ddim.

Defnyddio’r rhyngrwyd i ddod o hyd i fyrddau swyddi

Unwaith y byddwch wedi cael eich mynediad i'r rhyngrwyd, eich cam nesaf yw dod o hyd i'r mathau o swyddi rydych yn chwilio amdanynt. Caiff swyddi eu hysbysebu fel arfer ar Fyrddau Swyddi sy'n edrych fel papurau newydd electronig. Yn gyffredinol, mae tri math o Fyrddau Swyddi:

  • byrddau swyddi arbenigol sydd wedi'u neilltuo i broffesiynau neu ddiwydiannau penodol
  • byrddau swyddi cyffredinol sy'n hysbysebu pob math o swyddi gwag
  • byrddau swyddi lleol sy'n hysbysebu pob math o swyddi yn yr ardal maent yn eu cwmpasu

Gallwch chwilio am y byrddau swyddi cywir drwy ddefnyddio chwilotwr (er enghraifft Google neu Yahoo). Ceisiwch nodi 'Job Boards' neu 'jobs in retail' ac ati, nes y byddwch yn dod o hyd i'r byrddau swyddi sydd fwyaf addas i chi. Os ydych yn defnyddio eich cyfrifiadur eich hun, gallwch arbed y byrddau swyddi fel ffefrynnau.

Gwneud cais ar-lein

Mae dwy brif ffordd i wneud cais am swyddi ar-lein.

Llenwi ffurflen gais ar-lein

Llenwch y manylion yn yr un ffordd a fuasech gyda ffurflen gais arferol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych eich bod wedi llenwi’r holl wybodaeth mae’r ffurflen yn gofyn amdano a bod y wybodaeth yn gywir cyn i chi ei anfon i’r cyflogwr.

E-bostio eich CV

Bydd rhai cyflogwyr yn gofyn i chi anfon eich CV drwy e-bost. Bydd yn rhaid i chi fod wedi arbed eich CV fel y gallwch ei atodi i'r e-bost. Efallai yr hoffech gynnwys llythyr eglurhaol hefyd. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut i ysgrifennu llythyr eglurhaol drwy ddefnyddio’r cyswllt isod.

Ymatebion i’ch cwestiynau

Gall cyflogwyr ddewis ateb eich cais mewn e-bost, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar eich e-bost yn rheolaidd.

Os ydych angen gwella eich sgiliau Technoleg Gwybodaeth, gallai canolfannau ar-lein y DU helpu. Gallwch ddod o hyd i’ch canolfan ar-lein y DU agosaf drwy ddilyn y cyswllt isod neu ffonio canolfannau ar-lein y DU ar 0800 77 1234.

Rhagor o gymorth a chyngor

Gallwch hefyd lawrlwytho dalen ffeithiau 'Gwneud cais am swydd ar-lein’ y Ganolfan Byd Gwaith isod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU