Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Paratoi am gyfweliad

Mae cael eich gwahodd am gyfweliad yn golygu eich bod wedi llwyddo yn y prawf cyntaf - mae’n rhaid bod eich cais wedi creu argraff dda. Nawr mae angen i chi baratoi eich hun am y cyfweliad i wneud yn siŵr eich bod yn llwyddiannus yn y cam hwn.

Cyn y cyfweliad

Ymchwiliwch i mewn i’r cwmni

Os ydych wedi cael gwahoddiad i gyfweliad dylech dreulio ychydig o amser yn ymchwilio i mewn i’r cwmni gan fydd hyn yn rhoi’r hyder i chi os gofynnir i chi unrhyw gwestiwn ar beth mae’r cwmni yn ei wneud. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau i’r cyflogwr.

Gallech gysylltu â'r cwmni i ofyn am becyn gwybodaeth neu gallwch edrych ar eu gwefan.

Mae'n ddefnyddiol er mwyn canfod y pethau canlynol am y cyflogwr:

  • beth maent yn ei wneud, gynhyrchu neu werthu?
  • pwy yw eu cwsmeriaid?
  • pa fath o sefydliad ydynt?
  • beth mae’r swydd yn debygol o’i chynnwys?
  • sut y gallwch gymhwyso eich sgiliau yn y ffordd orau i gyd-fynd â'r swydd?

Cynllunio ar gyfer y cyfweliad

Canfyddwch beth fydd cynnwys y cyfweliad er mwyn gwneud yn siŵr eich bod wedi paratoi.

Os oes gennych anabledd, mae'n rhaid i bob cyflogwr wneud addasiadau rhesymol i chi fel ei bod yn bosibl i chi gael cyfweliad. Felly, os bydd angen i chi ofyn i'ch cyflogwr wneud trefniadau penodol - er enghraifft, i'ch helpu i fynd i mewn i'r adeilad - cysylltwch â nhw cyn eich cyfweliad. Mae hyn i wneud yn siŵr y gallant wneud y trefniadau hyn.

Meddyliwch pwy fydd yn eich cyfweld. Os mai'r person a fydd yn rheolwr arnoch os cewch y swydd ydyw, efallai y bydd eich cyfweliad yn fwy manwl. Os yw'n rheolwr personél, efallai y bydd y cyfweliad yn llai manwl ond gallai fod yr un mor heriol. Holwch faint o bobl fydd yn eich cyfweld a beth yw eu swyddi yn y cwmni. Bydd hyn yn eich helpu i baratoi ar gyfer y mathau o gwestiynau y gallent eu gofyn.

Bydd canfod pa mor hir y mae'r cyfweliad yn debygol o bara yn rhoi syniad i chi o ba mor fanwl y mae'n debygol o fod. Ceisiwch ganfod p'un a fydd angen i chi sefyll prawf neu wneud cyflwyniad.

Cynllunio eich taith

Ystyriwch deithio i'r cwmni y diwrnod cyn y cyfweliad i weld pa mor hir fydd y daith yn para. Os bydd angen, gofynnwch i'r cyflogwr am gyfarwyddiadau, llwybrau bysiau neu ble y gallwch barcio eich car. Cynlluniwch ffordd arall o fynd yno rhag ofn i rywbeth annisgwyl ddigwydd (fel eich car yn torri i lawr, neu os caiff eich trên ei ganslo). Os oes gennych anabledd, rhowch wybod i'r cyflogwr fel y gallant wneud unrhyw drefniadau arbennig.

Creu’r ddelwedd gywir

Bydd hyn yn dibynnu ar ba fath o waith y byddwch yn ei wneud. Penderfynwch beth i'w wisgo a pharatowch eich dillad y diwrnod cynt. Nid oes rhaid i chi brynu gwisg newydd. Ceisiwch edrych yn daclus a glân, bydd edrych yn dda yn eich helpu i deimlo'n dda.

Casglwch yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar gyfer y cyfweliad

Ewch â chopi o'ch CV neu ffurflen gais i gyfeirio atynt a paratowch nodiadau neu gardiau awgrym i'ch helpu os byddwch yn credu bod angen anogaeth arnoch yn ystod y cyfweliad. Dewch ag eitemau y mae'r cyflogwr wedi gofyn amdanynt - er enghraifft: geirdaon, tystysgrifau neu eich trwydded yrru.

Darllenwch dros yr hysbyseb swydd eto i'ch atgoffa'ch hun a gwnewch yn siŵr nad ydych wedi colli unrhyw beth.

Paratoi ar gyfer y cwestiynau a allai eu gofyn

Bydd y ddolen ganlynol yn eich tywys i restr o gwestiynau poblogaidd y gallant ofyn i chi yn ystod cyfweliad gydag ychydig o awgrymiadau ar gyfer eu hateb.

Ar y diwrnod

Cyn i chi adael

Rhowch ddigon o amser i gael eich hun yn barod a gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl waith papur perthnasol. Os bydd rhywbeth yn eich rhwystro, cysylltwch â'r cyflogwr cyn gynted â phosibl i egluro, gan ymddiheuro a threfnu apwyntiad arall.

Pan fyddwch yn cyrraedd

Ceisiwch gyrraedd tua deng munud cyn amser y cyfweliad. Rhowch eich enw i'r derbynnydd neu bwy bynnag sydd yno i'ch cyfarch.

Ceisiwch ymlacio a pheidiwch â chynhyrfu. Siaradwch â'r person wrth y dderbynfa neu bwy bynnag sy'n eich cyfarch cyn mynd i mewn i'r cyfweliad. Bydd yn eich helpu i beidio â chynhyrfu. Cofiwch mae'n bosibl y bydd y sawl sy'n cyfweld yr un mor nerfus â chi.

Yn y cyfweliad

Derbyniwch ei bod yn naturiol i chi deimlo'n nerfus, ac efallai y bydd eich calon yn curo'n gyflym ac y bydd gennych ddwylo chwyslyd a 'phili pala' yn eich bol. Dyma ffordd naturiol eich corff o wynebu her, a gall eich helpu chi weithiau.

Byddwch yn creu argraff yn yr ychydig funudau cyntaf. Dim ond ychydig o funudau y mae'n cymryd i bobl eich asesu a chadw'r wybodaeth hon. Unwaith y byddwch wedi creu argraff gyntaf, anaml iawn y bydd yn newid. Mae'n bwysig creu argraff gyntaf dda.

Os byddwch yn nerfus, gall eich llais swnio'n grynedig a gwichlyd. Gallech ymarfer anadlu'n ddwfn ac araf cyn i chi fynd i'r cyfweliad. Bydd hyn yn arafu cyfradd curiad eich calon ac yn eich helpu i osgoi anadlu'n gyflym a bas os byddwch yn nerfus.

Am awgrymiadau cyffredinol a allai eich helpu dilynwch y cyswllt isod. Ni fydd pob un ohonynt yn briodol i chi - defnyddiwch y rhai sy'n addas i'ch sefyllfa neu arddull.

Mathau eraill o gyfweliad

Mae ffyrdd eraill y gall cyflogwr eich asesu am swydd, dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy.

Rhagor o gymorth a chyngor

Gallwch hefyd lawrlwytho dalen ffeithiau 'Paratoi ar gyfer cyfweliad’ y Ganolfan Byd Gwaith isod.

Darparwyd gan Jobcentre Plus

Allweddumynediad llywodraeth y DU