Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Beth i’w gwneud a pheidio gwneud mewn cyfweliad

Unwaith rydych yn y cyfweliad rydych angen creu argraff dda gyda’r cyflogwr er mwyn gadael iddynt wybod mai chi yw’r person gorau am y swydd. Er mwyn gwneud hyn mae pethau y dylech ac na ddylech eu gwneud mewn cyfweliad.

Pethau y dylech eu gwneud

Dyma ychydig o awgrymiadau defnyddiol i’ch helpu yn ystod eich cyfweliad:

  • ewch i mewn i’r ystafell yn hyderus
  • ysgwyddwch law yn gadarn a chyflwynwch eich hun
  • gwenwch
  • byddwch yn foneddigaidd, cyfeillgar ac edrychwch i lygaid y cyfwelydd cyn gynted ag rydych yn mynd i mewn i’r ystafell
  • gwiriwch os yw’n iawn i chi ddefnyddio cardiau atgoffa neu nodiadau yn ystod y cyfweliad
  • ceisiwch gynnal cyswllt llygaid gyda’r person neu bobl rydych yn siarad â hwy
  • edrychwch fel bod gennych ddiddordeb a gofynnwch gwestiynau yn ogystal â’u hateb
  • atebwch bob cwestiwn mor gyflawn â phosibl, dylech osgoi dweud ‘ie’ neu ‘na’
  • darparwch enghreifftiau i brofi eich sgiliau a chyraeddiadau
  • dywedwch y gwir
  • gofynnwch os nad ydych yn deall cwestiwn
  • siaradwch yn eglur
  • gwerthwch eich hun – ceisiwch gyfleu eich pwyntiau da a byddwch yn gadarnhaol
  • gwrandewch
  • atebwch gwestiynau gydag enghreifftiau
  • cadwch eich atebion yn gryno ac i’r pwynt
  • paratowch ymlaen llaw
  • ymddangoswch yn hyderus

Pethau na ddylech eu gwneud

Dyma rhai pethau na ddylech eu gwneud mewn cyfweliad:

  • eistedd i lawr nes bydd y cyfwelydd yn gofyn i chi
  • bod yn aflonydd, eistedd yn isel yn y gadair na chroesi eich breichiau
  • rhegi - hyd yn oed yn gymedrol
  • beirniadu eich cyflogwyr blaenorol
  • torri ar draws
  • tynnu sylw at eich gwendidau
  • dweud celwydd neu fod yn rhy frwdfrydig - peidiwch â chyffroi a glynwch wrth ffeithiau

Darparwyd gan Jobcentre Plus

Allweddumynediad llywodraeth y DU