Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cwestiynau efallai y gofynnir i chi

Bydd cyflogwr yn gofyn nifer o gwestiynau amrywiol i chi mewn cyfweliad er mwyn cael gwybod amdanoch chi a’ch sgiliau, mae bob amser yn well paratoi. Mae’r Ganolfan Byd Gwaith wedi darparu rhestr o gwestiynau cyffredin gydag awgrymiadau ar sut i’w hateb.

1. Pam eich bod am weithio yma?
Soniwch am y canlynol:

  • enw da’r cwmni
  • unrhyw wybodaeth gadarnhaol arall sydd gennych amdanynt - er enghraifft: eu cofnod hyfforddiant, neu eu polisi cyfle cyfartal
  • bydd y swydd yn rhoi cyfle i chi wneud gwaith sydd o ddiddordeb i chi

2. Pam y gwnaethoch adael eich swydd ddiwethaf?

Byddwch yn gadarnhaol. Os gwnaethoch adael am resymau iechyd, nodwch eich bod bellach yn gallu cyflawni'r holl ddyletswyddau ar gyfer y swydd rydych yn gwneud cais amdani. Peidiwch â defnyddio hyn fel cyfle i feirniadu eich cwmni blaenorol. Os cawsoch eich diswyddo, dywedwch eich bod yn cymryd cyfrifoldeb dros eich gweithredoedd a'ch bod wedi dysgu o'r profiad.

3. Ydych chi wedi gwneud y math hwn o waith o'r blaen?

Os ydych, soniwch am y sgiliau a'r profiad sydd gennych a sut y gallwch eu defnyddio yn y swydd hon. Os nad ydych, disgrifiwch fathau eraill o brofiad gwaith sy'n berthnasol i'r swydd hon neu a fydd yn eich helpu i ddysgu'r swydd hon yn gyflym. Pwysleisiwch eich diddordeb a'ch brwdfrydedd i ddysgu.

4. Beth a wnaethoch yn eich swydd ddiwethaf?

Disgrifiwch y pethau canlynol:

  • sgiliau a dyletswyddau sy'n berthnasol i'r swydd newydd
  • eich cyfrifoldebau
  • sut y gwnaethoch weithio gydag eraill
  • a wnaethoch weithio gyda chwsmeriaid ac, os felly, sut y gwnaethoch weithio gyda hwy
  • pa mor hir roeddech yno
  • a gawsoch eich dyrchafu ai peidio
  • cyfrifoldebau y gwnaethoch wirfoddoli i'w cyflawni

5. Pa fath o offer y gallwch eu defnyddio?

  • enwch y mathau o offer y gallwch eu defnyddio sy'n berthnasol i'r swydd newydd
  • soniwch am unrhyw gymwysterau neu hyfforddiant perthnasol rydych wedi'u cael
  • dywedwch ers pryd rydych wedi defnyddio'r offer hwn

6. Pa mor hir rydych wedi bod yn ddi-waith a sut rydych yn treulio eich amser?

Disgrifiwch y canlynol:

  • beth rydych wedi'i wneud i chwilio am swydd
  • unrhyw waith gwirfoddol rydych wedi’i wneud
  • unrhyw addysg bellach, astudiaeth neu hyfforddiant rydych wedi cymryd rhan ynddynt
  • am eich hobïau a gweithgareddau hamdden – os yn briodol

Ceisiwch gysylltu beth a wnaethoch gyda'r sgiliau a'r profiad y mae'r cyflogwr yn chwilio amdanynt.

7. Pam y credwch mai chi yw'r person cywir ar gyfer y swydd hon?

Dywedwch wrth y cyfwelydd am y canlynol:

  • y sgiliau a'r profiad sydd gennych sy'n berthnasol i'r swydd
  • y rhinweddau personol rydych yn eu cyflwyno i'r swydd

8. Pam eich bod wedi cael cymaint o swyddi?

Gallwch ddweud y pethau canlynol:

  • roeddech am ehangu eich profiad mewn gwahanol fathau o waith neu mewn cwmnïau gwahanol
  • roedd nifer o'r swyddi yn rhai dros dro
  • byddai'n well gennych fod mewn gwaith nag yn ddi-waith

9. Pam mai dim ond un swydd rydych wedi'i chael?

Gallech ddweud y pethau canlynol:

  • roeddech wedi cael nifer o swyddi o fewn eich cwmni diwethaf
  • roedd y swydd yn cynnig cyfle i chi ddatblygu
  • roeddech yn mwynhau’r gwaith

10. Pam y dylai’r cyflogwr roi'r swydd i chi?

Byddwch yn barod am y cwestiwn hwn ac atebwch yn hyderus ac yn gadarnhaol:

  • disgrifiwch eich sgiliau a'ch profiad a pha mor berthnasol y maent i'r swydd hon
  • dywedwch wrthynt eich bod yn frwdfrydig ac yn barod i ddysgu
  • dywedwch wrthynt eich bod yn gweithio'n ddiwyd, yn ddibynadwy ac yn fedrus

11. A oes gennych ormod o gymwysterau?

Pwysleisiwch y canlynol:

  • rydych yn chwilio am rywbeth gwahanol
  • gallwch ddilyn cyfarwyddiadau yn ogystal â'u rhoi

12. Sut rydych chi'n cyd-dynnu â phobl?

Dywedwch wrth y cyfwelydd:

  • sut rydych wedi gweithio fel tîm yn y gorffennol
  • sut y gallwch gyd-dynnu â phobl ar bob lefel - rhowch enghreifftiau
  • sut rydych wedi darparu gwasanaeth cwsmeriaid da, os yw hyn yn berthnasol - rhowch enghreifftiau

13. Beth sy’n gwneud aelod da o dîm?

Disgrifiwch y sgiliau sydd eu hangen, er enghraifft:

  • sgiliau cyfathrebu da
  • hyblygrwydd
  • y gallu i addasu i newid
  • y gallu i gydweithredu â phobl eraill
  • meddu ar synnwyr digrifwch

Rhowch enghreifftiau o'r ffordd rydych wedi dangos y rhain mewn sefyllfaoedd gwaith blaenorol neu weithgareddau hamdden.

14. Sut rydych yn ymdopi â phwysau?

Disgrifiwch y pwysau yn eich swyddi blaenorol gan ddefnyddio enghraifft ddiweddar – megis sut y gwnaethoch:

  • ymdopi â dyddiad cau a gafodd ei symud ymlaen
  • gwblhau archeb frys
  • ddelio â phrinder staff

15. Beth yw eich cryfderau a’ch gwendidau?

Mae’n syniad da i gael un neu ddwy enghraifft o bob un barod am y cwestiwn hwn. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi pobl a all gyfaddef eu camgymeriadau yn hytrach na rhoi'r bai ar eraill am eu methiannau.

  • cryfderau: dylai'ch cyflogwr wybod beth yw eich cryfderau eisoes o'ch cais ond efallai eich bod am bwysleisio sgiliau penodol sy'n berthnasol i'r swydd gan roi enghreifftiau
  • gwendidau: dechreuwch drwy ddisgrifio rhannau o'ch swydd ddiwethaf a oedd yn anodd i chi ac yna eglurwch sut y gwnaethoch oresgyn yr anawsterau hyn neu byddwch yn gryno ond yn onest - er enghraifft: ‘Weithiau gallaf fod ychydig yn rhy frwdfrydig’

16. Beth fyddech yn hoffi ei wneud ymhen pum mlynedd?

Eglurwch yr hoffech yn ddelfrydol weithio i'r un cwmni ond yn datblygu o fewn y cwmni hwnnw.

17. Pa gyflog rydych yn disgwyl ei ennill?

Os yw'n bosibl trafod lefel y cyflog, byddwch yn barod i drafod. Y peth anodd i'w benderfynu yw lle i ddechrau. Os byddwch yn crybwyll cyflog iddynt sy'n rhy uchel, gallech gael eich diystyru, ond gallech hefyd grybwyll cyflog sy'n rhy isel, a cholli allan.

Cyn mynd i'r cyfweliad, ceisiwch gael gwybodaeth am lefelau cyflog yn eich ardal (er enghraifft, edrychwch ar swyddi tebyg a hysbysebir gyda'ch Canolfan Gwaith, mewn papurau newydd neu ar y rhyngrwyd). Gallech ddefnyddio'r wybodaeth hon wrth drafod. Os nad ydych yn sicr o gwbl, yna dywedwch y byddech yn disgwyl cael y cyflog cyfredol ar gyfer y swydd.

18. Pa mor aml roeddech yn absennol o'ch swydd ddiwethaf?

Oes nad oeddech yn absennol yn aml o gwbl, dywedwch hynny. Fodd bynnag, os oedd absenoldeb oherwydd salwch yn broblem, eglurwch pam a sicrhewch y cyflogwr eich bod wedi datrys y broblem. Os cawsoch amser i ffwrdd oherwydd anabledd, trafodwch hyn yn agored, gan gynnwys datrysiadau posibl – byddwch yn gadarnhaol.

19. Pryd y byddech ar gael i ddechrau?

Cyn gynted â phosibl. Peidiwch â rhoi unrhyw rwystrau yn y ffordd.

20. A oes gennych unrhyw gwestiynau?

Efallai yr hoffech baratoi ar gyfer hyn, gan y gofynnir hyn bron bob tro mewn cyfweliad. Gall gofyn ambell gwestiwn (ond ddim gormod) ddangos bod gennych ddiddordeb. Efallai bod un neu dau o'r rhain yn briodol.

  • ydych chi’n cynnig hyfforddiant a datblygiad parhaus?
  • beth fydd fy swydd gyntaf?
  • pryd y byddaf yn clywed am ganlyniad fy nghais?
  • a ydy'r cwmni yn cynnal adolygiadau perfformiad ac os felly, pa mor aml?

Yn olaf
Ceisiwch gael noson dda o gwsg.

Darparwyd gan Jobcentre Plus

Allweddumynediad llywodraeth y DU