Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall cyflogwr ddefnyddio nifer o ffyrdd gwahanol i’ch asesu am swydd. Mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o sut y gallwch gael eich asesu er mwyn i chi allu paratoi’n llawn am bob math o gyfweliad. Bydd hyn yn rhoi y siawns gorau i chi o lwyddo.
Cyfweliadau sy'n seiliedig ar allu
Mae cyfweliadau sy'n seiliedig ar allu wedi'u cynllunio i adael i chi ddangos eich sgiliau a'ch profiad ym mhrif feysydd y swydd. Efallai y gofynnir i chi drafod enghreifftiau o'ch gwaith a'ch cyflawniadau blaenorol. Dylai'r enghreifftiau a rowch ehangu ar y rheini ar eich ffurflen gais wreiddiol neu fod yn rhai gwahanol. Cyn y cyfweliad, bydd angen i chi restru'r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen ar gyfer y swydd. Dylech hefyd feddwl am yr hyn rydych wedi'i wneud y gallech eu defnyddio fel enghraifft am bob un.
Cyfweliadau grŵp
Efallai y cewch eich gwahodd i gael eich asesu fel rhan o grŵp. Mae hyn i brofi sut y gallech weithio fel rhan o dîm. Byddwch yn barod i gymryd rhan fywiog yn y drafodaeth neu'r dasg a chyflwynwch eich syniadau. Byddwch yn hyderus ond nid yn ymosodol.
Cyfweliadau dros y ffôn
Gall rhai cyflogwyr gynnal cyfweliad cyntaf dros y ffôn. Byddwch yn barod am hyn wrth ffonio cyflogwyr drwy gael eich CV wrth law a darllen drwy esiamplau o gwestiynau. Gallwch ddod o hyd i’r rhain drwy ddilyn y cyswllt isod.
Profion sgiliau neu brofion sampl gwaith
Mae'r profion hyn wedi'u cynllunio i fesur lefel eich gwybodaeth neu ddealltwriaeth o'r swydd (er enghraifft, profion teipio ac ati). Ceisiwch ganfod beth fydd cynnwys y prawf a cheisiwch ymarfer cyn y cyfweliad.
Profion personoliaeth
Efallai y gofynnir cwestiynau i chi am eich meddyliau, teimladau ac ymddygiad mewn rhai sefyllfaoedd. Nid oes y fath beth ag atebion cywir neu anghywir, gan mai'r darlun cyffredinol sy'n bwysig. Y canlyniad yn y pen draw yw graddfa personoliaeth a ddefnyddir i weld a yw person yn addas i'r swydd a hysbysebir. Mae dadansoddi'r profion hyn yn broses hynod fedrus a gall sefydliadau mwy ddefnyddio'r profion hyn ynghyd â dulliau eraill.
Profion medr
Mae profion medr wedi'u cynllunio i ragweld pa mor dda y gallech wneud mewn rhai tasgau. Maent yn profi galluoedd fel:
Profion papur fel arfer fydd y rhain, a bydd yn rhaid eu cwblhau o fewn amser penodol. Gallwch wneud profion ymarfer i geisio gwella eich gallu.
Darparwyd gan Jobcentre Plus