Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Rhestr fer o ffeithiau amdanoch chi a’ch hanes gwaith, eich sgiliau a’ch profiadau yw CV. Mae CV da yn hanfodol wrth chwilio am waith ac mae’n werth treulio amser i’w gael yn iawn fel ei fod yn eich gwerthu i gyflogwr.
Dylai eich CV:
I wneud cais i gwmnïau i weld a oes swydd ar gael ganddynt
Gallwch anfon eich CV gyda llythyr neu e-bost eglurhaol yn gofyn a oes ganddynt unrhyw swyddi gwag ar hyn o bryd neu yn y dyfodol yn eich maes. Gallwch ddod o hyd i enwau a chyfeiriadau cwmnïau mewn papurau newydd neu mewn cyfeirlyfrau masnach neu ffôn.
I'ch atgoffa o'r hyn rydych wedi'i wneud
Gallwch ddefnyddio eich CV i'ch helpu i gofio'r holl ddyddiadau a'r wybodaeth bob tro y bydd yn rhaid i chi gwblhau ffurflen gais wahanol.
I'ch helpu gyda cheisiadau dros y ffôn
Gall cael eich CV wrth law wrth wneud cais am swyddi dros y ffôn eich helpu os gofynnir i chi roi rhagor o wybodaeth am unrhyw swyddi blaenorol. Os oes gennych nam ar eich clyw neu leferydd a'ch bod yn defnyddio ffôn testun neu Typetalk, gall cael copi o'ch CV leihau faint o amser y byddwch yn ei dreulio wrth wneud galwad.
Mewn cyfweliadau
Gall cael CV gyda chi tra'n aros i gael eich galw i mewn eich helpu i'ch atgoffa o'r hyn rydych wedi'i wneud. Mae hefyd yn ddefnyddiol gadael copi gyda'r cyfwelydd os nad oes un ganddynt eisoes.
Cofrestru gydag asiantaethau recriwtio
Efallai y bydd asiantaethau yn gofyn am gael gweld eich CV cyn y gallwch gofrestru gyda nhw.
Nid oes unrhyw fformat penodol. Chi sydd i benderfynu sut i gyflwyno eich CV. Fodd bynnag, dylech gynnwys y canlynol o leiaf:
Rhowch eich swydd fwyaf diweddar yn gyntaf a chofiwch gynnwys dyddiadau. Bydd gan gyflogwyr fwy o ddiddordeb yn yr hyn rydych wedi'i wneud fwyaf diweddar. Peidiwch â gadael unrhyw fylchau rhwng dyddiadau, oherwydd bydd cyflogwyr am wybod beth a wnaethoch yn ystod y cyfnodau hynny.
Os nad oes gennych lawer o brofiad gwaith, gallech gynnwys swyddi dros dro, swyddi yn ystod gwyliau, swyddi rhan amser a swyddi gwirfoddol hefyd. Os ydych wedi cael llawer o swyddi gwahanol, pwysleisiwch y sgiliau a'r profiad a gawsoch o'r holl swyddi hynny (er enghraifft, sgiliau yn delio â chwsmeriaid, neu sgiliau cyfathrebu).
Nid oes angen i chi gynnwys eich dyddiad geni
Mae cyfreithiau newydd ar wahaniaethu ar sail oedran yn golygu nad oes angen i chi roi eich oedran na'ch dyddiad geni ar eich CV.
Dyma rai enghreifftiau y gallech eu cynnwys:
Proffil personol
Sef datganiad cryno ar ddechrau eich CV i werthu eich hun, eich sgiliau, profiad a rhinweddau personol. Gallech gynnwys geiriau cadarnhaol fel 'cymwys', 'hyblyg' a 'chydwybodol'.
Dylech hefyd deilwra'r datganiad i ofynion pob un o'r swyddi rydych yn gwneud cais amdanynt. Dylech ei gwneud yn glir i'r cyflogwr mai chi yw'r person cywir ar gyfer y swydd.
Cyflawniadau
Soniwch am bethau a wnaethoch yn dda yn ystod eich swyddi blaenorol a allai fod yn berthnasol i'r swydd rydych yn gwneud cais amdani.
Cymwysterau a hyfforddiant
Dylech gynnwys unrhyw gymwysterau a hyfforddiant o swyddi blaenorol (er enghraifft, hyfforddiant mewn iechyd a diogelwch neu dystysgrif mewn hylendid bwyd). Rhowch y rhai mwyaf diweddar yn gyntaf a chynnwys cymwysterau a gawsoch o'r ysgol neu'r coleg.
Diddordebau
Gall y rhain ategu eich cais os yw eich hobïau a'ch gweithgareddau hamdden yn dangos cyfrifoldebau a sgiliau sy'n berthnasol i'r swydd rydych yn gwneud cais amdani. Efallai eich bod yn perthyn i glwb neu gymdeithas rydych yn trefnu gweithgareddau ar eu cyfer, neu'n defnyddio sgiliau arwain neu waith tîm fel rhan o'r gweithgaredd.
Gwybodaeth arall
Chi sydd i benderfynu p'un a ydych am gynnwys hyn, ond gall fod yn ddefnyddiol os oes unrhyw fylchau yn eich CV. Os cawsoch seibiant gyrfa oherwydd eich bod wedi gofalu am blant neu berthnasau oedrannus, gwnewch hyn yn beth cadarnhaol. Meddyliwch am y sgiliau y gwnaethoch eu defnyddio i wneud hyn. Os yw'r swydd rydych yn gwneud cais amdani yn wahanol i'r hyn rydych wedi'i wneud yn y gorffennol, eglurwch pam bod gennych ddiddordeb yn y math newydd o waith.
Geirda
Mae'n syniad da cael dau berson neu fwy a all roi geirda gwaith neu bersonol. Yn ddelfrydol, un ohonynt fydd eich cyflogwr mwyaf diweddar. Os nad ydych wedi bod yn gweithio ers tro gallai fod yn rhywun sy'n eich adnabod ers amser hir. Dylai fod yn rhywun sy’n gallu rhoi sylwadau ar eich rhinweddau o ran y swydd. Dylech ofyn i'r person gytuno ar hyn ymlaen llaw.
Gofynnwch i ffrind neu berthynas ddarllen drwy eich CV i wneud yn siŵr ei fod yn gywir ac yn dangos eich sgiliau mewn ffordd gadarnhaol.
Dyma ddwy enghraifft o dempledi CV i chi ei lawrlwytho.
Gallwch hefyd lawrlwytho dalen ffeithiau 'Ysgrifennu CV' y Ganolfan Byd Gwaith isod.
Darparwyd gan Jobcentre Plus