Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cynllunio eich chwilio am swydd

I ddod o hyd i’r swydd rydych ei eisiau bydd angen i chi edrych ar eich sgiliau a’r fath o swydd rydych eisiau ei wneud. Yna mae’n rhaid i chi gynllunio sut byddwch yn mynd o gwmpas i chwilio amdani.

Beth sydd gennych i’w gynnig

Dechreuwch drwy ofyn i'ch hun pa sgiliau a phrofiadau sydd gennych. Meddyliwch am y sgiliau y gwnaethoch eu datblygu mewn swyddi rydych wedi eu cael yn y gorffennol ac yn eich bywyd y tu allan i'r gwaith.

Sgiliau a phrofiadau gwaith

Gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi’ch hun i feddwl am y sgiliau rydych wedi’u datblygu, yn cynnwys y rhai rydych wedi’u meithrin mewn swyddi rydych wedi’u cael o’r blaen:

  • a ddatblygoch unrhyw sgiliau a fydd yn ddefnyddiol yn y swydd rwyf yn chwilio amdani?
  • a ydych wedi gweithio fel rhan o dîm?
  • oedd angen i chi rannu gwybodaeth gydag eraill?
  • a oeddech yn dilyn neu’n rhoi cyfarwyddiadau yn dda?
  • a ydych yn un da am gadw amser?
  • oes gennych sgiliau Technoleg Gwybodaeth?
  • a gawsoch unrhyw gymwysterau?
  • a gawsoch eich canmol am unrhyw ran o’ch swydd?

Sgiliau personol a chymdeithasol

Gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi’ch hun am eich bywyd y tu allan i’r gwaith:

  • ydych chi’n dod ymlaen yn dda gyda phobl?
  • ydych chi ar bwyllgor lleol neu’n aelod o sefydliad cymunedol?
  • ydych chi’n rhan o dîm (er enghraifft, tîm chwaraeon neu gwis)?
  • oes gennych sgiliau gofalu am eich teulu (er enghraifft, sgiliau trefnu)?
  • ydych chi wedi gwneud unrhyw waith gwirfoddol?
  • ydych chi wedi bod i unrhyw ddosbarthiadau nos neu hyfforddiant?

Ble i chwilio am swyddi

Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch chwilio am swyddi:

  • drwy’r Ganolfan Byd Gwaith
  • drwy’r papurau newydd
  • ar y rhyngrwyd
  • cofrestru gydag asiantaethau recriwtio
  • mewn cylchgronau masnach
  • drwy ffrindiau a phobl eraill rydych yn eu hadnabod

Am ragor o wybodaeth am ble i chwilio am swyddi, dilynwch y cyswllt isod.

Darparwyd gan Jobcentre Plus

Allweddumynediad llywodraeth y DU