Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ble i chwilio am swyddi

Mae’r ceiswyr gwaith mwyaf llwyddiannus yn dangos dyfal barhad wrth chwilio am swyddi ac yn gwybod pob lle i chwilio am waith. Mae sawl ffordd y gallwch chwilio am swyddi, gan gynnwys ar-lein.

Porwch y rhyngrwyd

Dod o hyd i swydd nawr

Chwilio am swydd nawr gan ddefnyddio’r chwiliad swyddi a sgiliau

Caiff swyddi eu llenwi ar unwaith, felly mae’n bwysig i chi sicrhau na fyddwch yn colli unrhyw gyfle.

Mae gan Cross & Stitch un o gronfeydd data swyddi gwag mwyaf Prydain, a chaiff ei ddiweddaru’n barhaus. Chwiliwch y gronfa ddata am swydd drwy ddefnyddio’r cyswllt isod.

Mae sawl cwmni yn hysbysebu eu swyddi gwag ar wefannau eu hunain, gan gynnwys gwefannau recriwtio a byrddau swyddi ar-lein. Dewch i gael gwybod mwy am wneud cais am swydd ar-lein drwy ddefnyddio’r cyswllt isod.

Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd yn eich cartref, gallwch barhau i’w ddefnyddio yn eich llyfrgell leol. Mae canolfannau ar-lein y DU wedi’u lleoli yn eich cymuned. Gallwch ddod o hyd i’ch canolfan ar-lein agosaf drwy ddilyn y ddolen isod.

Canolfan Byd Gwaith

Gall ymgynghorwyr Canolfan Byd Gwaith roi gwybod i chi am swyddi yn eich ardal leol ac yn lleoedd eraill pe dymunech. Unwaith dewch o hyd i swydd y mae gennych ddiddordeb ynddi, byddant yn dweud wrthych sut i wneud cais. Mae’n bosib y byddant yn ffonio’r cyflogwyr yno er mwyn trefnu cyfweliad neu ofyn iddynt anfon ffurflen gais atoch.

I ganfod swydd, ffoniwch 0845 6067 890. Os na allwch siarad neu glywed yn glir, ffoniwch y ffôn testun ar 0845 6044 022.

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00am a 6.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (mae’r llinellau yn llai prysur cyn 9.00am).

Papurau lleol

Dewch i wybod pa ddiwrnod y cyhoeddir y papur lleol a’r diwrnod y bydd yn hysbysebu swyddi. Mae papurau newydd hefyd yn eich helpu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gwmnïau sy’n symud i’ch ardal a’r rhai sy’n ehangu. Gallwch ddefnyddio’r wybodaeth i wneud cais i’r cwmnïau hynny cyn iddynt hysbysebu, i weld a oes swyddi ar gael.

Efallai y byddwch am gysylltu â chwmni i gael ragor o fanylion am swydd ar ôl darllen erthygl yn y wasg leol. Defnyddiwch y cyswllt isod am ragor o gyngor ar sut i ysgrifennu llythyr.

Cofrestrwch gydag asiantaeth recriwtio

Mae asiantaethau recriwtio yn hysbysebu swyddi tymor byr a hir dymor ac mae rhai yn arbenigo mewn meysydd arbenigol o waith. Os byddwch yn cofrestru gydag asiantaethau recriwtio yn eich ardal leol, cewch y wybodaeth ddiweddaraf am y swyddi diweddaraf sydd ar gael. I gael rhagor o wybodaeth ar asiantaethau recriwtio dilynwch y cyswllt isod.

Ar dafod leferydd

Gall pobl rydych yn eu hadnabod rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi am chwilio am swydd. Mae’n werth chweil siarad â hwy am y math o waith rydych yn chwilio amdano, eich sgiliau a’ch profiad. Efallai y byddant yn gwybod am swydd addas neu’ch ystyried pan fyddant yn clywed am swyddi'r dyfodol. Efallai y byddant hefyd yn gallu rhoi gair da ar eich rhan yn y cwmni lle maent yn gweithio.

Mae digwyddiadau a chynadleddau rhwydweithio hefyd yn ffordd dda i chi gwrdd â phobl newydd. Cyn mynychu’r digwyddiad, dylech ystyried yr hyn rydych am gael ohono a hefyd cymryd ychydig gopïau o’ch CV gyda chi.

Mynd at gyflogwyr

Ni chaiff nifer enfawr o swyddi gwag ei hysbysebu o gwbl, felly mae’n werth chweil i chi gysylltu â chwmni i ofyn os oes swydd ar gael. Un o’r manteision o wneud hynny yw’r tebygrwydd na fyddwch yn cystadlu yn erbyn grŵp mawr o bobl, fel petai eich bod wedi ateb i swydd a hysbysebwyd. Mae cyflogwyr yn gyfarwydd ag ymholiadau swyddi. Os gallant ddod o hyd i rywun heb hysbysebu, mae’n arbed arian ac amser iddynt.

Rhwydweithio ar-lein

Mae ambell gyflogwr bellach yn defnyddio gwefannau cymdeithasu fel Facebook a Twitter i recriwtio staff newydd. I wneud y gorau o hyn, sicrhewch eich bod wedi ymgofrestru a’r safle cymdeithasu rhwydweithiol perthnasol a chreu proffil a fydd yn creu argraff dda ar ddarpar gyflogwyr.

Gwyliwch y ffilm 'Sut i ddefnyddio gwefannau Cymdeithasu i gael swydd' i gael gwybod mwy.

Ar eich ffôn symudol

Os oes gennych ffôn symudol sydd â’r rhyngrwyd wedi’i galluogi arno gallwch ddefnyddio’r ffôn i chwilio am swyddi.

Darllenwch ‘Cross & Stitch ar eich ffôn symudol’ i gael gwybod mwy.

Os oes gennych iPhone, gallwch lawrlwytho rhaglen chwilio am swydd a chwilio am swyddi ar eich ffôn. Mae'r rhaglen yn caniatáu i chi chwilio drwy holl swyddi a gynhaliwyd gan y Ganolfan Byd Gwaith, ychwanegu swyddi i'ch ffefrynnau ac e-bostio swyddi i chi eich hun i wneud cais amdanynt yn ddiweddarach.

Cadw cofnod o’ch ymdrechion

Mae cofnodi eich chwiliad swydd yn syniad da ac yn eich helpu i gofio pwy rydych wedi mynd atynt, a pha ymateb y cawsoch. Gallwch hefyd nodi:

  • pa bapurau lleol sy’n hysbysebu swyddi
  • pa asiantaethau recriwtio rydych wedi cysylltu â hwy
  • pa gylchgronau masnach sydd ar gael
  • pa ffrindiau y gallai rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi

Os ydych yn derbyn Lwfans Ceisio Gwaith, mae angen i chi brofi eich bod ‘wrthi’n chwilio am waith’. Bydd cadw cofnod o’ch chwiliad swydd yn eich helpu i ddangos eich bod yn gwneud y gorau i ddod o hyd i waith.

Darparwyd gan Canolfanbydgwaith

Allweddumynediad llywodraeth y DU