Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych yn newid gyrfa neu’n cychwyn swydd am y tro cyntaf yna mae’r sgiliau rydych wedi’u hadeiladu yn bwysig. Rydych angen dangos i gyflogwr beth allwch chi ei wneud, sut mae’r sgiliau hyn yn ddefnyddiol a sut fyddant o fudd i unrhyw fusnes.
Dylech gynnwys:
Dylech ddweud:
Am fwy o fanylion ar ysgrifennu llythyr, dilynwch y cyswllt isod.
Lle rydych yn rhestru cyflogaeth flaenorol ar ffurflen gais dylech gynnwys lle rydych wedi datblygu sgiliau trosglwyddadwy. Mae’r enghraifft ganlynol yn dangos rhywun oedd yn gynrychiolydd eu clwb Nadolig lleol.
Wrth lenwi’r ffurflen gais maent wedi rhestru’r prif ddyletswyddau gan amlygu’r sgiliau maent wedi’u datblygu..
Dyddiadau |
Cyflogaeth |
---|---|
Ionawr 2005 i'r presennol |
Cynrychiolydd - Clwb Nadolig Rwy'n rheoli'r clwb Nadolig lleol, gan helpu fy nghymdogion i gynilo'n rheolaidd ac i baratoi'n ariannol ar gyfer y Nadolig. Mae fy mhrif ddyletswyddau'n cynnwys ateb cwestiynau cwsmeriaid yn bersonol ac ar y ffôn. Datblygais fy sgiliau cyfathrebu drwy ddelio â chwsmeriaid anodd a chwynion. |
Peidiwch â disgwyl i'r cyflogwr ganfod drostynt eu hunain pa sgiliau trosglwyddadwy sydd gennych. Pan fyddwch yn rhestru eich swyddi blaenorol, amlygwch eich sgiliau trosglwyddadwy.
Dyddiadau |
Cyflogaeth |
---|---|
Mehefin 2004 i'r presennol |
Bûm yn ysgrifennydd ar Glwb Criced Pentref Bach ers nifer o flynyddoedd. Mae fy nyletswyddau wedi cynnwys drafftio cofnodion cyfarfodydd a llunio cylchlythyr y clwb. Mae'r dyletswyddau hyn wedi gwella fy sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig. Roedd yr aelodau'n hoff iawn o'r cylchlythyr. |
Hydref 2003 i Dachwedd 2005 |
Gweithiwr warws - Farm Feeds Roedd fy nyletswyddau'n cynnwys rheoli stoc, trefnu'r dosbarthu a gyrru wagen fforch godi |
Cymerwch yr un agwedd pan rydych yn diweddaru eich CV fel gyda’r ffurflen gais uchod. Sicrhewch eich bod yn gosod allan y sgiliau sydd gennych a chynnwys unrhyw lwyddiannau ac adborth da gan gyflogwyr.
Darparwyd gan Jobcentre Plus