Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Un ffordd gyffredin i fodelau neu bobl yn y diwydiant adloniant ddod o hyd i waith yw drwy asiantaethau. Er bod llawer o asiantaethau'n gyfreithlon ac yn broffesiynol, mae rhai cwmnïau'n ceisio cymryd mantais o bobl newydd i'r diwydiannau.
Mae amodau ychydig yn wahanol i’r asiantaethau yn y diwydiannau adloniant a modelu nag mewn diwydiannau eraill. Os ydych yn chwilio am waith adloniant neu fodelu, dylai’ch asiantaeth ddilyn yr amodau hyn.
Telerau cyflogaeth ysgrifenedig
Mae'n rhaid i'ch asiantaeth ddarparu eich telerau cyflogaeth ysgrifenedig i chi cyn darparu unrhyw wasanaethau dod o hyd i waith. Dylai'r rhain gynnwys sut y bydd yr asiantaeth yn dod o hyd i waith i chi, sefyllfaoedd lle y mae gan yr asiantaeth hawl i fynd i gontract ar eich rhan, manylion talu a ffioedd, a'r cyfnod rhybudd.
Gall asiantaethau cyflogaeth godi ffi arnoch pan fyddant yn chwilio am waith i chi yn y diwydiant adloniant neu fodelu o dan yr amgylchiadau canlynol:
Dim ond pan fydd asiantaeth wedi dod o hyd i waith i chi y gall dynnu arian o'ch enillion.
Pan fydd asiantaeth yn llunio cyhoeddiad ac yn codi ffi arnoch i gynnwys eich manylion, mae'n rhaid i'r asiantaeth roi saith diwrnod i chi newid eich meddwl. Yn ystod y cyfnod hwn gallwch dynnu nôl o'r contract. Ni chaiff yr asiantaeth godi dim ffi arnoch nes bydd yr amser newid meddwl wedi dod i ben.
Os oes gennych gytundeb gyda'ch asiantaeth ei bod yn casglu eich cyflog gan gwmni cyflogi yna mae'n rhaid i'r asiantaeth ei roi i chi o fewn deg diwrnod gwaith, oni bai eich bod yn gwneud cais i'r gwrthwyneb. Mae'n rhaid i asiantaethau sy'n gwneud cais am arian neu'n derbyn arian ar eich rhan sefydlu cyfrifon ar wahân ar gyfer cleientiaid er mwyn rhoi'r arian hwnnw yn y banc.
Cymorth a chyngor ar hawliau cyflogaeth gweithwyr asiantaeth
0800 917 2368
Mae’r mwyafrif o asiantaethau yn y diwydiannau adloniant a modelu yn gyfreithlon. Fodd bynnag, mae rhai sy’n anghyfreithlon. Ceisiwch gofio’r arweiniad canlynol wrth ddefnyddio asiantaethau. Os oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â’r Llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith.
Os oes rhywbeth yn swnio'n rhy dda i fod yn wir, mae'n debyg ei fod
Byddwch yn wyliadwrus o unrhyw un sy'n addo y gallant eich gwneud yn seren dros nos neu o honiadau eithafol eraill. Bydd asiantau amheus yn dweud wrthych beth mae arnoch eisiau ei glywed, er enghraifft, 'chi yw'r union berson yr ydym yn chwilio amdano' er mwyn gwneud i chi gofrestru a thalu ffioedd gormodol a di-angen.
Cwestiynwch unrhyw honiadau y byddant yn dod o hyd i waith i chi ar unwaith. Mae gennych hawl i holi'r asiantau, a dylech fod yn ddrwgdybus o unrhyw un sy'n methu neu'n gwrthod rhoi atebion clir.
Bydd asiantaethau dibynadwy yn dweud wrthych ei bod yn anodd iawn cael eich troed i mewn i'r diwydiant ac mai dim ond nifer fach iawn o bobl sy'n llwyddo. Mae llawer o fodelau a phobl olygus, a llawer o ddiddanwyr ac actorion talentog yn cael trafferth cael digon o waith.
Nid yw'n debygol eu bod yn wir gan fod y rhaglenni hyn fel arfer yn defnyddio asiantaethau a chleientiaid y maent wedi'u defnyddio o'r blaen. Os oes gennych amheuaeth, ceisiwch ffonio'r cwmni teledu i holi a ydynt yn defnyddio'r asiantaeth, neu gofynnwch i'r asiantaeth am eirdaon gan gleientiaid diweddar.
Peidiwch byth â thalu ar y diwrnod
Os yw asiant yn gofyn i chi am arian y tro cyntaf i chi gyfarfod neu siarad, maent yn torri'r gyfraith, a dylech chithau gerdded ymaith. Dylech eu riportio wrth linell gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith neu lenwi'r ffurflen ymholiadau ar-lein.
Peidiwch byth â llofnodi unrhyw beth ar y diwrnod, yn enwedig os ydych dan bwysau i wneud hynny
Bydd asiantaethau dibynadwy yn gadael i chi fynd â'r gwaith papur adref gyda chi i'w ddarllen yn eich amser eich hun.
Sicrhewch eich bod yn deall holl delerau ac amodau'r contract cyn llofnodi. Gofynnwch i rywun arall am help os nad ydych yn deall y telerau a'r amodau eich hun, neu cysylltwch â'r llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith i gael cymorth.
Mae'n arferol i'ch asiant gymryd comisiwn o'ch enillion, ond os gofynnir i chi am arian cyn neu ar ôl llofnodi contract, gofynnwch beth ydych yn ei gael am eich arian.
Caiff asiantaethau godi ffioedd arnoch mewn cysylltiad â chyhoeddiad sy'n cynnwys eich manylion. Os gofynnir i chi am arian er mwyn rhoi eich manylion mewn cyhoeddiad, gofynnwch am gael gweld copi cyfredol a holwch lle caiff eich manylion eu dosbarthu, er enghraifft, gallech ofyn “Sut y bydd rhoi fy manylion yn y cyhoeddiad hwn yn fy helpu i gael gwaith?”.
Byddwch yn wyliadwrus o asiantaethau sy’n gofyn i chi am ffioedd eraill o hyd
Os ydych wedi talu am gyfres o luniau/gwasanaethau eraill ac yna bod asiantaeth arall yn eich ffonio yn dweud bod angen mwy o luniau a ffioedd arnynt byddwch yn wyliadwrus. Nid oes sicrwydd y dewch o hyd i waith, hyd yn oed gydag asiantaethau dibynadwy, ond byddwch yn wyliadwrus o bobl sy'n gofyn i chi am ffioedd eraill o hyd.
Mae gennych saith niwrnod i newid eich meddwl ar ôl cytuno i ffioedd cyhoeddi
Os byddwch yn cytuno i'ch manylion gael eu dosbarthu mewn cyhoeddiad, cofiwch bob amser fod gennych saith niwrnod i newid eich meddwl ac na chaiff yr asiantaeth gymryd y ffi yn ystod y cyfnod hwnnw. Os bydd asiantaeth yn ceisio cymryd y ffi, mae hyn yn drosedd a dylech roi gwybod amdanynt wrth linell gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith.
Edrychwch ar wefan yr asiantaeth a gofynnwch gwestiynau am y ganran o'u cleientiaid sy'n cael gwaith rheolaidd. Ni all yr un asiantaeth sicrhau gwaith i gleientiaid gan ei fod yn ddiwydiant anodd, ond ni fydd asiantaeth ddibynadwy yn cael anhawster ateb eich cwestiynau. Unwaith eto, gofynnwch i'r asiantaeth am gysylltiadau a all roi geirdaon i chi.
Ceir achosion hefyd o asiantaethau diegwyddor yn defnyddio technegau cymell mewn sesiynau castio y maent wedi'u trefnu. Cyn i chi fynd i sesiwn castio, dylech wneud cymaint o ymchwil ag y bo modd i'r asiantaeth.
Os bydd rhywun yn defnyddio technegau i geisio eich cymell neu os byddwch yn teimlo dan bwysau i dalu ffioedd neu i lofnodi contract yna gadewch y sesiwn. Os bydd gan gwmni dibynadwy ddiddordeb ynoch, byddant yn rhoi cyfle i chi ystyried eu cynnig.
Gall y llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith rhoi cymorth i chi ar eich hawliau fel gweithiwr asiantaeth. Os oes gennych ymholiad cyffredinol ynghylch eich hawliau cyflogaeth fel gweithiwr asiantaeth gallwch ffonio’r llinell gymorth neu ddefnyddio ei ffurflen ar-lein.
Os hoffech wneud cwyn am asiantaeth cyflogaeth, dylech gwblhau ffurflen cwyn ar-lein yr Arolygiaeth Safonau'r Asiantaethau Cyflogi.