Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
O 1 Hydref 2011 mae rheoliadau newydd yn rhoi hawliau cyflogaeth penodol newydd i weithwyr asiantaeth. Pan fyddwch ar aseiniad, byddwch yn cael rhai o'r hawliau hyn o'r diwrnod cyntaf a rhai eraill ar ôl 12 wythnos yn yr un swydd.
Mae'r hawliau newydd yn berthnasol i unigolion sy'n gweithio fel gweithwyr asiantaeth dros dro - a gaiff eu galw'n aml yn 'temps' yn Saesneg.
I gael gwybod a ydych wedi'ch dosbarthu'n weithiwr asiantaeth darllenwch yr adran 'Pwy sy'n weithiwr asiantaeth?' yn yr erthygl 'Defnyddio asiantaethau cyflogi'.
O 1 Hydref 2011 ymlaen, mae gennych fynediad o'r diwrnod cyntaf i gyfleusterau a gwybodaeth am swyddi gwag lle rydych yn gweithio dros dro.
Ar ôl 12 wythnos yn yr un swydd gyda'r un huriwr yr ydych yn gymwys i gael triniaeth gyfartal o ran yr elfennau canlynol:
Ar ôl cwblhau'r cyfnod cymhwyso o 12 wythnos, bydd gweithwyr asiantaeth sy'n feichiog yn gallu cael absenoldeb â thâl ar gyfer apwyntiadau cynenedigol yn ystod aseiniad.
Ni fydd modd ôl-ddyddio'r cyfnod cymhwyso o 12 wythnos cyn 1 Hydref 2011. Ni fydd unrhyw amser a dreuliwyd ar aseiniad cyn 1 Hydref 2011 yn cyfrif tuag at y cyfnod cymhwyso o 12 wythnos.
Os oes gennych gontract gydag asiantaeth gwaith dros dro, bydd yr hawliau newydd yn eich diogelu.
Bydd yr asiantaeth yn dod o hyd i swydd neu aseiniad gyda huriwr i chi. Rhywun y mae angen staff ychwanegol arno dros dro yw huriwr. Gall yr huriwr fod yn y sector cyhoeddus neu'r sector preifat, neu mewn elusen neu fenter gymdeithasol.
Os bydd gennych gontract â chwmni a'ch bod wedyn yn dod o hyd i waith drwy asiantaeth, ni fydd hynny'n eich rhwystro rhag arfer yr hawliau hyn.
Yr huriwr a fydd yn eich goruchwylio a'ch cyfarwyddo tra byddwch yn gweithio iddo. Bydd yr huriwr yn dweud wrthych beth yw eich swydd, sut i'w gwneud ac yn darparu unrhyw hyfforddiant sydd ei angen arnoch i wneud y swydd.
Mae'n debygol y bydd yr hawliau newydd yn eich diogelu os yw'r canlynol yn wir:
Nid yw'n debygol y bydd yr hawliau newydd yn eich diogelu os yw'r canlynol yn wir:
Nid yw'n debygol y byddwch wedi'ch diogelu ychwaith os byddwch yn gweithio i unrhyw asiantaeth:
Os bydd rhywun o'r asiantaeth yn helpu ag ymholiadau ar y safle, ni fyddai hynny'n eich eithrio o'r hawliau newydd. Ni fydd modd dewis peidio ag arfer yr hawliau hyn os byddwch wedi'ch diogelu ganddynt.
Mae gan gwmni ffreutur ar gyfer ei staff a gaiff ei reoli gan reolwr arlwyo mewnol. Mae un o staff arlwyo'r cwmni i ffwrdd ac rydych yn cael eich anfon i weithio yn y ffreutur. Yn ystod yr aseiniad, rydych yn cael eich cyfarwyddo gan reolwr arlwyo'r huriwr. Bydd yr hawliau newydd yn eich diogelu.
Mae sefydliad yn rhoi'r gwaith o reoli ei ffreutur ar gontract allanol. Y contractwr sy'n rheoli'r gweithrediad cyfan ac ef sy'n gyfrifol am gyflogi'r staff arlwyo. Os ydych yn gweithio i'r contractwr a bod gennych gontract ag ef, ni fydd yr hawliau newydd yn eich diogelu.
I gael gwybod pa hawliau cyflogaeth rydych yn gymwys i'w cael ar hyn o bryd, dilynwch y ddolen isod.