Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Gweithwyr asiantaeth: pa wybodaeth y dylech ei chael a phryd

O 1 Hydref 2011 ymlaen, mae gweithwyr asiantaeth yn gymwys i gael rhai hawliau cyflogaeth newydd a gwybodaeth am yr hawliau hyn. Rydych yn cael rhai o'r hawliau hyn o'r diwrnod cyntaf a rhai eraill ar ôl 12 wythnos. Mynnwch wybod pa wybodaeth y mae gennych hawl i'w chael a beth i'w wneud os na roddir y wybodaeth honno i chi.

Gwybodaeth am hawliau diwrnod cyntaf

Fel gweithiwr asiantaeth, o 1 Hydref 2011 rydych yn gymwys i gael hawliau diwrnod cyntaf o ddiwrnod cyntaf eich aseiniad. Mynediad at gyfleusterau ar y cyd (er enghraifft ffreutur y staff) a gwybodaeth am swyddi gwag yw'r rhain.

Os byddwch o'r farn nad ydych yn cael eich hawliau, dylech siarad â'r huriwr neu'r asiantaeth.

Os na fyddwch yn gallu datrys y broblem yn anffurfiol gallwch ofyn am wybodaeth ysgrifenedig gan eich huriwr am eich hawliau diwrnod cyntaf unrhyw bryd ar ôl dechrau eich aseiniad.

Mae'n rhaid i'r huriwr ddarparu datganiad ysgrifenedig â'r holl wybodaeth berthnasol am:

  • hawliau rhywun sy'n gwneud swydd debyg
  • pam fod gweithwyr asiantaeth yn cael triniaeth wahanol

Mae gan yr huriwr 28 diwrnod i ymateb i'ch cais.

Gwybodaeth am gyflog a hawliadau eraill ar ôl 12 wythnos

Ar ôl 12 wythnos yn yr un swydd, os ydych o'r farn nad ydych yn cael eich hawliau, mae gennych yr hawl i ofyn am wybodaeth ysgrifenedig gan eich asiantaeth. Er enghraifft, os byddwch o'r farn nad ydych yn cael triniaeth gyfartal o ran cyflog, gwyliau ac ati, gallwch wrth gwrs siarad â'r asiantaeth a gofyn cwestiynau.

Os na fyddwch yn cael ymateb o fewn 30 diwrnod gallwch ofyn am yr un wybodaeth gan eich huriwr a bydd ganddo 28 diwrnod i ymateb.

Mae'n rhaid i'r asiantaeth ddarparu gwybodaeth o ran:

  • amodau gwaith a chyflogaeth sylfaenol e.e. y gyfradd talu a nifer yr wythnosau o wyliau blynyddol
  • unrhyw wybodaeth berthnasol neu ffactorau a gafodd eu hystyried wrth benderfynu ar yr amodau hyn, er enghraifft a oes graddfa gyflog sy'n nodi'r gyfradd talu
  • telerau ac amodau cyflogai tebyg perthnasol (os yw'n berthnasol) ac egluro unrhyw wahaniaeth o ran triniaeth e.e. cyfradd talu is am nad oes gennych yr un cymwysterau, sgiliau neu brofiad/arbenigedd

Beth sy'n digwydd os na fyddwch yn cael y wybodaeth

Os byddwch yn gwneud hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth, efallai y bydd y Tribiwnlys yn edrych arno'n anffafriol os gofynnwyd am wybodaeth neu ddatganiad ysgrifenedig ac ni chawsant eu darparu.

Beth i'w wneud os bydd gennych broblem â'r wybodaeth a ddarperir

Gallwch wneud hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth os na fydd yr asiantaeth (gan gynnwys cwmni ambarél neu gorff arall sy'n ymwneud â'ch cyflenwi) na'ch huriwr:

  • yn rhoi triniaeth gyfartal i chi ar ôl 12 wythnos
  • yn rhoi mynediad i gyfleusterau neu wybodaeth am swyddi gwag i chi o'r diwrnod cyntaf

Ceisiwch ddatrys y sefyllfa heb fynd i Dribiwnlys Cyflogaeth. Efallai y gall Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) eich helpu cyn i chi wneud hawliad neu hyd yn oed ar ôl i chi wneud hynny.

Ni fydd Tribiwnlys Cyflogaeth yn ystyried cwyn oni bai ei bod yn cael ei chyflwyno o fewn tri mis i'r achos gwreiddiol o dorri'r rheolau.

Os bydd yn aneglur pwy sy'n atebol am eich hawliad. Efallai y gallwch wneud hawliad yn erbyn yr huriwr, yr asiantaeth, y cwmni ambarél neu unrhyw bartïon eraill.

Os bydd eich hawliad yn llwyddiannus, byddwch yn cael iawndal am unrhyw golledion y gellir eu priodoli i'r achos o dorri'r rheolau, gan gynnwys:

  • treuliau yr aed iddynt yn rhesymol
  • colli enillion
  • lefel briodol o iawndal os gwrthodwyd mynediad i gyfleuster i chi er enghraifft

Nid oes terfyn uchaf ar y swm y gellir ei ddyfarnu ond mae lleiafswm dyfarniad o bythefnos o gyflog.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU