Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Gweithwyr asiantaeth: cymhwyso i gael triniaeth gyfartal ar ôl 12 wythnos

O 1 Hydref 2011 mae gweithwyr asiantaeth yn gallu cymhwyso i gael triniaeth gyfartal fel pe baent wedi cael eu recriwtio'n uniongyrchol gan yr huriwr. Mynnwch wybod sut i weithio allan a ydych yn gymwys i gael triniaeth gyfartal.

Cymhwyso i gael triniaeth gyfartal ar ôl 12 wythnos

Mewn rhai achosion, bydd gwybod a ydych wedi cymhwyso i gael triniaeth gyfartal yn syml. Byddwch wedi gweithio yn yr un swydd gyda'r un huriwr am 12 wythnos.

Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gall saib rhwng aseiniadau:

  • gyfrif tuag at y cyfnod cymhwyso
  • oedi'r cyfnod cymhwyso
  • ailosod cyfnod cymhwyso i sero

Efallai y bydd eich asiantaeth gwaith dros do yn gofyn i chi roi gwybodaeth am aseiniadau blaenorol i helpu i benderfynu pryd y byddwch yn gymwys i gael triniaeth gyfartal neu a ydych yn gymwys ai peidio.

Nid oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol arnoch i rannu'r wybodaeth hon. Fodd bynnag, bydd gwneud hynny'n helpu i sicrhau eich bod yn cael triniaeth gyfartal ar yr adeg briodol. Efallai y bydd hefyd yn effeithio ar unrhyw hawliad y byddwch yn ei wneud i gael triniaeth gyfartal, gan y gallai Tribiwnlys Cyflogaeth ystyried hyn wrth benderfynu ar iawndal.

Gweithio allan eich cyfnod cymhwyso

Bydd eich cyfnod cymhwyso yn dechrau eto ar sero:

  • os byddwch yn symud i aseiniad newydd gyda huriwr newydd
  • os byddwch yn aros gyda'r un huriwr ond eich bod yn newid rôl - byddwch yn gwneud rôl sy'n 'sylweddol wahanol'
  • os bydd saib rhwng aseiniadau gyda'r un huriwr am fwy na chwe wythnos galendr

Mae'r rhesymau dros oedi eich cyfnod cymhwyso yn cynnwys y canlynol:

  • saib am unrhyw reswm nad yw'n hirach na chwe wythnos galendr a'ch bod yn dychwelyd i'r un rôl gyda'r un huriwr
  • saib o hyd at 28 wythnos am nad ydych yn gallu gweithio oherwydd salwch neu anaf
  • unrhyw saib lle rydych yn cymryd eich hawliadau gwyliau, fel gwyliau blynyddol
  • saib o ganlyniad i gau'r gweithle, er enghraifft dros y Nadolig
  • saib wedi'i achosi gan streic neu weithredu diwydiannol arall yn y gweithle
  • saib oherwydd eich bod yn gwneud gwasanaeth rheithgor am hyd at 28 wythnos

Mae seibiau sy'n cyfrif tuag at eich cyfnod cymhwyso yn cynnwys:

  • saib beichiogrwydd, geni plant neu famolaeth sy'n digwydd yn ystod beichiogrwydd a hyd at 26 wythnos ar ôl y geni
  • unrhyw saib o ganlyniad i absenoldeb mamolaeth, absenoldeb mabwysiadu neu absenoldeb tadolaeth

Pan fo'r saib yn cyfrif tuag at eich cyfnod cymhwyso, bydd yn para am hyd bwriadedig neu debygol yr aseiniad (pa un bynnag sydd hiraf).

Gweithio i fwy nag un huriwr

Os byddwch yn gweithio i fwy nag un huriwr, rydych yn gymwys i gael triniaeth gyfartal ar ôl 12 wythnos gyda phob huriwr. Efallai y bydd hynny'n golygu eich bod yn cael telerau ac amodau gwahanol ar ôl 12 wythnos pan fyddwch ar aseiniadau gwahanol.

Beth yw rôl 'sylweddol wahanol'?

Os bydd eich swydd gyda'r un huriwr yn newid llawer, a bod hynny'n golygu eich bod yn gwneud gwaith gwahanol, gallai olygu eich bod yn gwneud rôl 'sylweddol wahanol'. Os felly, byddai'r cyfnod cymhwyso yn dechrau eto.

Er mwyn ei alw'n newid 'sylweddol, mae'n ofynnol bod y dyletswyddau sy'n gysylltiedig â'ch rôl yn gyfan gwbl neu'n bennaf yn wahanol. Nid yw'n ddigon bod eich rheolwr llinell wedi newid neu eich bod wedi newid lleoliad. Mae'n rhaid bod y rôl yn wahanol yn wirioneddol.

Er mwyn gwneud y rôl yn sylweddol wahanol, dylai fod cyfuniad o'r canlynol:

  • defnyddio sgiliau a chymwyseddau gwahanol
  • cyfradd talu wahanol
  • gweithio mewn lleoliad gwahanol
  • rheolwr llinell gwahanol
  • oriau gwaith gwahanol
  • bod angen hyfforddiant ychwanegol neu newydd i wneud y rôl
  • defnyddio offer gwanhaol

Er mwyn i'r cyfnod cymhwyso ddychwelyd i sero, mae'n rhaid i'ch asiantaeth ddweud wrthych yn ysgrifenedig bod y rôl wedi newid yn sylweddol ac y bydd y cyfnod cymhwyso yn dechrau eto.

Enghraifft

Rydych wedi bod yn gweithio mewn warws ar y llinell gynhyrchu yn cydosod cynnyrch. Ni fyddai eich symud o'r llinell gynhyrchu i rôl bacio yn golygu fawr ddim hyfforddiant a byddai'n defnyddio'r rhan fwyaf o'r un sgiliau. Nid yw'n debygol o fod yn sylweddol wahanol.

Fodd bynnag, os byddwch wedi gweithio ar y llinell gynhyrchu a'ch bod yn symud i rôl weinyddol, mae hynny'n debygol o fod yn sylweddol wahanol. Yn y sefyllfa hon, byddai'r cyfnod cymhwyso yn dechrau eto.

Ble i gael gwybod a ydych yn cael triniaeth gyfartal

Ar ôl y cyfnod cymhwyso o 12 wythnos, bydd gennych hawl i gael eich trin fel pe baech wedi cael eich recriwtio'n uniongyrchol neu eich cyflogi gan yr huriwr yn yr un swydd.

Mae'r telerau ac amodau ar gyfer rhywun sydd wedi'i recriwtio'n uniongyrchol yn cael eu nodi yn y dogfennau canlynol fel arfer:

  • contractau safonol
  • graddfeydd cyflog
  • cydgytundebau - sef cytundebau a gaiff eu trafod rhwng yr huriwr ac undeb llafur
  • llawlyfrau cwmnïau neu ddogfennau tebyg gan gynnwys y rhai sydd ar gael ar fewnrwydi neu hysbysfyrddau staff

Pa fesurau a fydd yn helpu i sicrhau eich bod yn cael triniaeth gyfartal

Ers 1 Hydref 2011 mae mesurau i atal strwythur aseiniadau rhag eich rhwystro'n fwriadol rhag cael triniaeth gyfartal.

Ym mhob achos bydd yn rhaid eich bod wedi cwblhau un o'r canlynol:

  • o leiaf ddau aseiniad
  • dwy rôl gyda'r un huriwr neu hurwyr cysylltiedig (e.e. yn yr un grŵp)

Mae'r rhestr ganlynol yn cynnwys ffactorau a fyddai'n nodi bod patrwm aseiniadau wedi'i strwythuro â'r bwriad o'ch atal rhag cael triniaeth gyfartal:

  • nifer yr aseiniadau
  • hyd yr aseiniadau
  • nifer y newidiadau rôl
  • a oedd y rolau'n sylweddol wahanol
  • hyd seibiau

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU