Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Gweithwyr asiantaeth: cyflog rhwng aseiniadau

O 1 Hydref 2011 ymlaen, mae gweithwyr asiantaeth yn gymwys i gael rhai hawliau cyflogaeth newydd. Efallai y bydd eich asiantaeth yn cynnig contract parhaol i chi ac yn eich talu rhwng aseiniadau ond mae hyn yn golygu na fyddwch yn gymwys i gael cyflog cyfartal. Mynnwch wybod sut mae'r contractau hyn yn gweithio.

Cael eich talu rhwng aseiniadau

O fis Hydref 2011 efallai y bydd eich asiantaeth gwaith dros dro yn:

  • cynnig contract cyflogaeth parhaol i chi cyn yr aseiniad cyntaf o dan y contract
  • eich talu rhwng aseiniadau pan na fydd unrhyw waith

Fodd bynnag, mae hyn yn golygu na fyddwch yn gymwys i gael cyflog cyfartal (gan gynnwys tâl gwyliau) ar ôl 12 wythnos yn yr un swydd. Bydd pob hawliad arall yn gymwys yn yr un ffordd ag ar gyfer gweithwyr asiantaeth eraill.

Ni fydd modd eich gorfodi i lofnodi'r math hwn o gontract ac efallai na fydd yn addas i bawb.

Beth mae'n rhaid i gontract ddweud wrthych

Os bydd eich asiantaeth yn cynnig y math hwn o gontract i chi o 1 Hydref 2011 ymlaen mae'n rhaid iddo nodi'n ysgrifenedig:

  • cyfraddau isafswm talu a sut maent yn cael eu cyfrifo
  • lleoliad y gwaith gan adlewyrchu i ble rydych yn barod i deithio (felly os ydych yn byw yn Llundain ni allai'r asiantaeth gynnig gwaith yn Glasgow i chi oni bai eich wedi cytuno i deithio yno)
  • isafswm ac uchafswm yr oriau gwaith disgwyliedig y mae'n rhaid iddynt fod o leiaf un awr yr wythnos
  • natur y gwaith
  • datganiad sy'n ei gwneud yn glir eich bod yn rhoi'r gorau i'r hawl i gael triniaeth gyfartal o ran cyflog

Yn ystod yr wythnosau na fyddwch yn gweithio mae'n rhaid eich bod yn cael cyflog rhwng aseiniadau. Mae'n rhaid i hyn gyfateb i:

  • 50 y cant o gyfradd talu eich aseiniad blaenorol wedi'i gyfrifo ar y gyfradd cyflog uchaf a gawsoch yn ystod unrhyw wythnos
  • o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Mae angen i chi sicrhau bod telerau ac amodau'r contract yn diwallu eich anghenion cyn i chi ei lofnodi.

Ni all yr asiantaeth ofyn i chi ddod i mewn i'r asiantaeth am awr er mwy osgoi eich talu rhwng aseiniadau. Bydd angen i chi fod ar aseiniad dilys gyda huriwr yn seiliedig ar delerau eich contract. Os nad yw hyn yn wir a bod yr asiantaeth yn gwrthod eich talu efallai y bydd gennych sail dros wneud hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth.

Tra bod y contract ar waith byddwch yn gymwys i gael cyflog rhwng aseiniadau hyd nes i'r asiantaeth ddod o hyd i swydd arall i chi.

Nid yw'r cyflog rhwng aseiniadau yn berthnasol i gyfnodau rhwng dau aseiniad byr yn ystod yr un wythnos - er enghraifft os byddwch yn gweithio ddydd Llun ac na fyddwch yn gweithio eto tan ddydd Gwener. Dim ond yn ystod yr wythnosau pan fyddwch yn gwbl ddi-waith ond ar gael i weithio y byddwch yn cael eich talu.

Rhoi terfyn ar gontract cyflog rhwng aseiniadau

Os bydd yr asiantaeth am roi terfyn ar y contract bydd yn rhaid iddi roi pedair wythnos o gyflog rhwng aseiniadau i chi yn gyntaf. Gall y contract ddod i ben ynghynt am resymau eraill, er enghraifft, os byddwch yn ymddiswyddo.

Os bydd yr asiantaeth yn rhoi terfyn ar eich contract efallai y byddwch yn gymwys i gael rhai hawliau am fod gennych gontract cyflogaeth. Efallai y bydd y rhain yn dibynnu ar hyd eich gwasanaeth ond gallai gynnwys tâl rhybudd a thâl dileu swydd.

Gallai'r pedair wythnos o gyflog (sef yr isafswm) gael ei rhoi ar ddiwedd un aseiniad neu rhwng cyfres o aseiniadau. Ar ddiwedd y contract os byddwch eisoes wedi cael y pedair wythnos o gyflog ni fyddwch yn cael y taliad eto.

Pa fesurau a fydd yn eich helpu i gael triniaeth gyfartal

Ni ddylai asiantaethau na hurwyr strwythuro trefniadau mewn ffordd sy'n eich atal rhag manteisio ar y diogelwch a roddir gan gontractau cyflog rhwng aseiniadau. Os byddant yn gwneud hynny gallent wynebu risg o her gyfreithiol.

Os bydd yr asiantaeth yn cynnig oriau gwahanol i'r oriau gwaith disgwyliedig a nodir yn eich contract gallai hyn hefyd fod yn rhywbeth y gallech ei herio.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU