Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Gweithwyr asiantaeth: yr hawl i gael triniaeth gyfartal ar ôl 12 wythnos

O 1 Hydref 2011 ymlaen, mae gweithwyr asiantaeth yn gymwys i gael triniaeth gyfartal ar ôl 12 wythnos yn yr un swydd. Mae hyn yn cynnwys elfennau allweddol o ran cyflog ond hefyd hawliadau eraill fel gwyliau blynyddol. Dysgwch fwy

Telerau ac amodau sylfaenol

Ar ôl 12 wythnos yn yr un swydd gyda'r un huriwr rydych yn gymwys i gael yr un telerau ac amodau sylfaenol â phe baech wedi cael eich recriwtio'n uniongyrchol.

Mae'r telerau ac amodau sylfaenol hyn yn cynnwys:

  • tâl sylfaenol, gan gynnwys tâl gwyliau, goramser a bonysau sy'n gysylltiedig â'ch perfformiad
  • oriau gwaith - er enghraifft peidio â gorfod gweithio mwy na 48 awr yr wythnos os na fydd yn rhaid i'r rhai sydd wedi'u recriwtio'n uniongyrchol wneud hynny
  • gwyliau blynyddol (os bydd hyn yn fwy na'ch hawliad cyfreithiol efallai y byddwch yn cael taliad ychwanegol i'w gwmpasu, a delir fel rhan o'r gyfradd fesul awr neu ar ddiwedd yr aseiniad)
  • gwaith gyda'r nos
  • egwyliau gorffwys a chyfnodau gorffwys

Ar ôl 12 wythnos yn yr un swydd rydych yn gymwys i gael absenoldeb â thâl ar gyfer apwyntiadau cynenedigol.

Beth a gaiff ei gynnwys mewn cyflog

Ar ôl cwblhau'r cyfnod cymhwyso o 12 wythnos bydd eich cyflog yn cynnwys y canlynol:

  • tâl sylfaenol yn seiliedig ar y cyflog blynyddol y byddech wedi'i gael pe baech wedi cael eich recriwtio'n uniongyrchol - fel arfer, caiff hwn ei drosi'n gyfradd fesul awr neu fesul diwrnod, sy'n ystyried unrhyw gynnydd mewn cyflog y byddech wedi'i gael
  • taliadau goramser - yn amodol ar yr un gofynion â phe baech wedi cael eich recriwtio'n uniongyrchol
  • tâl ar gyfer gwyliau blynyddol
  • taliadau bonws neu gomisiwn sy'n gysylltiedig â faint o waith a wnewch a'i ansawdd e.e. cyflawni targedau gwerthu
  • bonysau sy'n gysylltiedig â pherfformiad personol neu daliadau digontract a delir mor rheolaidd fel eu bod yn fater o arfer
  • talebau neu stampiau sydd â gwerth ariannol ac y gellir eu cyfnewid am arian, nwyddau neu wasanaethau, e.e. talebau cinio, talebau gofal plant ond nid cynlluniau aberthu cyflog
  • absenoldeb â thâl ar gyfer apwyntiadau cynenedigol

O dan rai amgylchiadau, bydd taliadau yn dibynnu ar gyfnod penodol o wasanaeth. Bydd angen i chi gwblhau'r cyfnod hwnnw o wasanaeth er mwyn bod yn gymwys - yn yr un modd â rhywun sydd wedi'i recriwtio'n uniongyrchol.

Efallai na fyddwch yn cael taliadau os byddwch wedi gadael y swydd oni bai bod hynny'n wahanol i'r driniaeth y byddai rhywun a oedd wedi'i recriwtio'n uniongyrchol wedi'i chael.

Yn achos rhai bonysau, bydd angen i chi gael eich 'arfarnu' er mwyn pennu pa fonws y dylech ei gael. Efallai y byddwch yn cael eich integreiddio'n llawn yn system arfarnu eich huriwr neu efallai y byddwch yn cael eich arfarnu mewn ffordd wahanol.

Er enghraifft, efallai y bydd eich huriwr yn newid ei system arfarnu arferol i drefn arfarnu fyrrach, symlach. Siaradwch â'r asiantaeth gwaith dros dro (a elwir yn aml yn asiantaeth yn unig) a/neu'r huriwr am sut y bydd yn asesu eich perfformiad.

Beth na chaiff ei gynnwys mewn cyflog

Ni fydd cyflog yn cynnwys y canlynol:

  • cynlluniau galwedigaethol - tâl salwch, tâl mamolaeth, tâl tadolaeth a thâl mabwysiadu, ond efallai y byddwch yn gymwys i gael taliadau statudol - gofynnwch i'ch asiantaeth
  • tâl dileu swydd a thâl rhybudd
  • tâl ar gyfer amser i ffwrdd i gyflawni dyletswyddau sy'n ymwneud ag undebau llafur
  • taliadau gwarant, gan eu bod yn gymwys i staff sydd wedi'u recriwtio'n uniongyrchol os byddant yn cael eu diswyddo
  • blaensymiau cyflog, e.e. am docynnau tymor
  • taliadau neu wobrau sy'n gysylltiedig â chynlluniau cyfranogi ariannol fel cynlluniau cyfranddaliadau
  • y rhan fwyaf o fuddiannau mewn nwyddau, e.e. morgeisi cyfradd ostyngol neu lwfansau hyfforddi wedi'u hariannu gan y cyflogwr - fodd bynnag, caiff buddiannau â gwerth ariannol eu cynnwys mewn cyflog (gweler 'Beth a gaiff ei gynnwys mewn cyflog', uchod)
  • bonysau lle nad oes unrhyw gydnabyddiaeth o'ch cyfraniad personol fel bonws cyfradd unffurf a gaiff ei dalu i'r gweithlu i annog teyrngarwch neu wobrwyo gwasanaeth hir
  • bonysau ychwanegol, digontract ar yr amod nad yw'r taliadau hyn yn cael eu talu mor aml fel eu bod yn dod yn fater o arfer

Bydd gweithwyr asiantaeth yn cael eu cofrestru'n awtomatig ar gyfer pensiwn, yn unol â'r drefn newydd a gaiff ei chyflwyno o fis Hydref 2012 ymlaen.

Os oes gennych gontract cyflogaeth gyda'r asiantaeth byddwch yn gymwys i gael rhai o'r taliadau uchod gan yr asiantaeth ac nid yr huriwr. Dylech edrych i weld pa fath o gontract sydd gennych gyda'r asiantaeth.

Hawliadau oriau gwaith

Yn ogystal â chael triniaeth gyfartal ar gyfer agweddau allweddol ar gyflog rydych hefyd yn gymwys i gael triniaeth gyfartal ar ôl 12 wythnos yn yr un swydd yn y meysydd canlynol:

  • oriau gwaith (er enghraifft yr un cyfnodau gorffwys â'r rhai sydd wedi'u recriwtio'n uniongyrchol)
  • gwaith gyda'r nos
  • cyfnodau gorffwys ac egwyliau gorffwys (er enghraifft, pe baech wedi cael eich recriwtio'n uniongyrchol byddai gennych yr hawl i gael awr o egwyl cinio)
  • gwyliau blynyddol (pan fydd yn fwy na'r hawliad statudol o 5.6 wythnos)

Dylech gael taliad am wyliau statudol pan fyddwch yn cymryd y gwyliau. Os bydd eich hawliad gwyliau yn fwy na'r isafswm statudol efallai y caiff ei gynnwys fel taliad untro. Efallai y byddwch yn cael y taliad hwn ar ddiwedd yr aseiniad neu fel rhan o'ch cyfradd fesul awr/diwrnod. Dylai fod yn glir ar eich slip cyflog eich bod wedi cael yr hawliad cywir.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU