Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Gweithwyr asiantaeth: yr hawl i gael triniaeth gyfartal - o'r diwrnod cyntaf

O 1 Hydref 2011 mae gweithwyr asiantaeth yn gymwys i gael hawliau cyflogaeth newydd. O ddiwrnod cyntaf eich aseiniad, rydych yn gymwys i gael rhai hawliau penodol megis mynediad at gyfleusterau a gwybodaeth ar swyddi gwag. Cael gwybod mwy.

Hawliau y diwrnod cyntaf

O ddiwrnod cyntaf eich aseiniad, rydych yn gymwys i gael:

  • mynediad at gyfleusterau ac amwynderau a rennir neu wasanaethau a ddarperir gan eich huriwr
  • gwybodaeth am swyddi gwag gyda'r huriwr

Mae eich hawliau yn seiliedig ar hawliau rywun sy'n gwneud swydd debyg. Rhywun sy'n gwneud yr un swydd neu swydd eithaf tebyg i chi, fel arfer yn yr un gweithle (ond efallai mewn lleoliad arall), yw cyflogai tebyg. Mae’r hawl yn gymwys os byddwch yn gwneud gwaith rhan amser yn ogystal â llawn amser.

Os na fydd unrhyw weithwyr neu gyflogeion tebyg ni fydd unrhyw hawl i gael triniaeth gyfartal.

Mynediad at gyfleusterau ar y cyd

O ddiwrnod cyntaf eich aseiniad, dylech gael yr un mynediad at gyfleusterau ac amwynderau a rennir â chyflogeion neu weithwyr tebyg.

Gall cyfleusterau ac amwynderau gynnwys y canlynol:

  • mynediad at ffreutur neu gyfleusterau tebyg eraill
  • mynediad at feithrinfa yn y gweithle (yn ddarostyngedig i'r un rhestrau aros neu amodau â chyflogeion neu weithwyr tebyg)
  • gwasanaethau trafnidiaeth (gwasanaeth cludo lleol, trafnidiaeth rhwng safleoedd)
  • cyfleusterau toiled/cawod
  • ystafell gyffredin i staff
  • ystafell i famau a'u babanod
  • ystafell weddïo
  • maes parcio (yn ddarostyngedig i'r un cyfyngiadau â chyflogeion neu weithwyr tebyg)
  • ystafell aros
  • peiriannau bwyd a diod

Mae'r cyfleusterau hyn fel arfer ar y safle lle byddwch yn gweithio ond efallai y byddant mewn man arall. Efallai y bydd yr huriwr yn rhoi gwybodaeth am gyfleusterau i'ch asiantaeth fel rhan o'r wybodaeth am yr aseiniad. Dim ond os gallant gyfiawnhau hynny mewn modd gwrthrychol y gall hurwyr wrthod mynediad at gyfleusterau i chi.

Mae'n annhebygol y bydd cost ar ei phen ei hun yn rheswm digonol dros eich gwahardd. Hyd yn oed pan fydd cyfiawnhad gwrthrychol, efallai y byddwch yn gallu defnyddio rhai cyfleusterau yn rhannol yn hytrach na chael eich gwahardd yn gyfan gwbl.

Gwybodaeth am swyddi gwag

O ddiwrnod cyntaf eich aseiniad, rydych yn gymwys i beidio â chael eich trin yn llai ffafriol na chyflogai neu weithiwr tebyg o ran gwybodaeth am swyddi gwag perthnasol. Dim ond swyddi yn y sefydliad lle byddwch yn gweithio y byddwch yn gallu eu gweld.

Bydd eich huriwr neu'ch asiantaeth gwaith dros dro yn dweud wrthych sut i gael gwybodaeth am swyddi gwag. Efallai y bydd yn cael ei harddangos mewn ardaloedd cyhoeddus neu ar gael ar fewnrwyd yr huriwr. Os bydd eich huriwr yn symud staff er mwyn osgoi diswyddiadau, nid oes angen hysbysebu'r swyddi hyn.

Er bod yn rhaid i'ch huriwr roi'r wybodaeth hon i chi, gall ymdrin â'ch cais neu'ch gofynion yn unol â'r canlynol o hyd:

  • eich cymwysterau neu'ch profiad
  • faint o amser rydych wedi gweithio i'r sefydliad

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU