Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Terfynu ac adnewyddu eich contract cyfnod penodol

Fel arfer, bydd contractau cyfnod penodol yn dod i ben yn awtomatig pan fyddant yn cyrraedd y pwynt y cytunwyd y byddant yn dod i ben, felly ni fydd angen i'ch cyflogwr roi rhybudd i chi. Fodd bynnag, rhaid i'ch cyflogwr ymddwyn yn deg a dilyn unrhyw drefn ddiswyddo os oes angen. Os na fydd yn gwneud hynny, gallwch ddwyn achos o ddiswyddo annheg yn ei erbyn.

Terfynu contract cyfnod penodol

Os ydych chi ar gontract cyfnod penodol, yn gyffredinol, ni fydd angen i'r cyflogwr roi rhybudd bod y contract yn dirwyn i ben. Fodd bynnag, os nad yw contract cyfnod penodol yn cael ei adnewyddu, ystyrir hynny'n ddiswyddo. Mae gennych yr hawl:

  • i beidio â chael eich diswyddo'n annheg (ar ôl blwyddyn o wasanaeth)
  • i gael datganiad ysgrifenedig yn nodi'r rhesymau dros eich diswyddo (ar ôl blwyddyn o wasanaeth)
  • i daliadau diswyddo statudol (ar ôl dwy flynedd o wasanaeth)
  • i gyfnod rhybudd sylfaenol sy'n nodi pryd y daw eich contract i ben cyn y dasg, y digwyddiad neu'r dyddiad terfynu y cytunwyd arno

Dyma'r cyfnod rhybudd sylfaenol y mae gennych hawl iddo:

  • ar ôl gweithio am fis yn ddi-dor, ond am lai na dwy flynedd: wythnos o rybudd
  • ar ôl dwy flynedd o gyflogaeth ddi-dor: pythefnos o rybudd os ydych wedi'ch cyflogi'n ddi-dor am ddwy flynedd

Os yw'ch contract yn nodi y dylech fod wedi'ch cyflogi am fis neu lai, ond eich bod wedi cael eich cyflogi am dri mis neu fwy, mae gennych dal hawl i'r cyfnod rhybudd sylfaenol, sef wythnos.

Os ydych wedi bod yn gyflogedig am fis neu fwy, rhaid i chi roi'r rhybudd sylfaenol statudol i'ch cyflogwr, sef wythnos o rybudd. Os yw'ch contract yn nodi y dylech roi mwy o rybudd na'r rhybudd sylfaenol statudol, rhaid i chi weithio i'ch cyflogwr am y cyfnod hwn.

Terfynu contractau cyfnod penodol yn fuan

Os yw'ch cyflogwr yn dymuno terfynu'ch contract cyfnod penodol yn fuan dylech edrych ar delerau eich contract. Os yw'n dweud y gellir terfynu'ch cyflogaeth yn fuan a bod eich cyflogwyr wedi rhoi rhybudd iawn i chi, does dim llawer y gallwch ei wneud. Fodd bynnag, os nad yw'ch cyflogwr yn dweud dim, mae'n bosib ei fod yn torri'r contract.

Gweithio ar ôl y dyddiad y mae'r contract yn dod i ben

Os byddwch chi'n gweithio y tu hwnt i derfyn eich contract (er enghraifft, eich bod wedi cael gweithio am flwyddyn er mai contract tri mis oedd gennych yn wreiddiol), mae eich cyflogwyr wedi gwneud cytundeb goblygedig i newid y dyddiad terfyn. Yna, byddai gennych yr hawl i gael rhybudd priodol petai eich cyflogwyr am eich diswyddo.

Hawliau pan gaiff swydd ei dileu

Os yw'ch cyflogwr yn diswyddo cyflogeion yn y math o waith yr ydych chi'n ei wneud, gallai hyn olygu eich bod wedi cael ei diswyddo ar y sail bod swyddi'n cael eu dileu. Os ydych wedi gwasanaethu'n ddi-dor am ddwy flynedd neu fwy fel cyflogai cyfnod penodol, mae gennych yr un hawliau diswyddo â chyflogeion parhaol. Gan eich bod yn gyflogai cyfnod penodol, rydych hefyd wedi'ch diogelu rhag cael eich dewis ar gyfer achos o ddileu swydd, oni all eich cyflogwr gyfiawnhau'r dewis yn wrthrychol. Mae hyn yn golygu ei bod yn rhaid iddo roi rheswm da i chi a bod hwnnw'n seiliedig ar anghenion y busnes.

Ni chewch ddewis gwrthod eich hawl i gael taliadau diswyddo statudol ac ni chaiff eich cyflogwr eich eithrio o'r cynllun diswyddo statudol, hyd yn oed os yw'n bosib cyfiawnhau hynny'n wrthrychol i bob golwg.

Am faint y caiff cyflogwyr ddal ati i adnewyddu contract cyfnod penodol?

Ni ellir cadw cyflogai ar un contract cyfnod penodol ar ôl y llall am fwy na phedair blynedd. Os caiff eich contract ei adnewyddu ar ôl hynny byddwch yn dod yn gyflogai parhaol, oni bai fod y cyflogwr yn gallu rhoi rheswm da dros eich cadw ar gontract cyfnod penodol. Dim ond gwasanaeth er 10 Gorffennaf 2002 sy'n cyfrif at y cyfyngiad pedair blynedd.

Cyflwynwyd y cyfyngiad pedair blynedd er mwyn atal cyflogwyr rhag camddefnyddio contractau cyfnod penodol, gan gyflwyno un ar ôl y llall, i gyfyngu ar hawliau cyflogaeth gweithwyr. Gall cyflogwyr a chyflogeion sy'n cytuno ar gytundeb 'gweithlu' neu 'gyfunol' newid y cyfyngiad. Dylai'r cytundeb hwn wedyn ddarparu cynllun arall ar gyfer atal camddefnyddio contractau cyfnod penodol.

Gall cytundebau cyfunol neu gytundebau yn y gweithle amrywio'r cyfyngiad ar nifer y contractau y gall cyflogwr eu defnyddio un ar ôl y llall. Gallant hefyd gyfyngu ar ddefnyddio contractau olynol a nodi rhestr o resymau i gyfiawnhau adnewyddu contractau cyfnod penodol.

A gaiff cyflogwr adnewyddu contract cyfnod penodol ar delerau llai ffafriol?

Os cynigir contract newydd i chi ar delerau llai ffafriol na'r contract gwreiddiol, cewch wrthod ei dderbyn. Yna, gallwch geisio negodi gyda'ch cyflogwr. Os na fydd eich cyflogwr yn newid y telerau, bydd angen i chi ddewis derbyn y contract diwygiedig neu ystyried bod y contract wedi dod i ben. Os bydd y contract yn dod i ben, mae'n bosib y gallwch ddwyn achos diswyddo annheg.

Ble mae cael cymorth

I gael mwy o wybodaeth ynghylch ble i gael cymorth gyda materion yn ymwneud â chyflogaeth, ewch i'r dudalen 'Cysylltiadau cyflogaeth'. Efallai y bydd modd i chi gael cymorth a chyngor gan eich undeb llafur.

Allweddumynediad llywodraeth y DU