Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Mathau o drefniadau hysbysu ac ymgynghori

Os oes gennych chi'r hawl i gael eich hysbysu ac ymgynghori â'ch cyflogwr am faterion o bwys yn y gweithle, efallai bod gennych gytundeb hysbysu ac ymgynghori gyda'ch cyflogwr ar waith. Gallai'r cytundeb gynnwys perfformiad y busnes, niferoedd disgwyliedig y swyddi yn y dyfodol neu fod y busnes yn newid cyfeiriad.

Pa fathau o gytundeb sydd ar gael?

Mae tri math o gytundeb hysbysu ac ymgynghori:

  • cytundebau sy'n bodoli eisoes - os yw'ch cyflogwr eisoes wedi rhoi trefniadau ar waith
  • cytundebau a drafodwyd - os ydych chi a'ch cyflogwr wedi dod i gytundeb ynglŷn â sut yr eir ati i hysbysu ac ymgynghori
  • darpariaethau safonol (wrth gefn) - pan nad yw cytundeb yn bodoli eisoes ac na ellir dod i gytundeb drwy drafod

Amlinellir y darpariaethau safonol (wrth gefn) yn y Rheoliadau Hysbysu ac Ymgynghori â Chyflogeion.

Cytundebau sy'n bodoli eisoes

Efallai bod gan eich gwaith drefniadau hysbysu ac ymgynghori sy'n bodoli eisoes, a'ch bod yn fodlon â hwy. Yn yr achos hwn, does dim angen gwneud newid.

Er mwyn ateb gofynion y Rheoliadau Hysbysu ac Ymgynghori â Chyflogeion, rhaid i unrhyw drefniadau sy'n bodoli eisoes:

  • fod ar bapur
  • gynnwys holl gyflogeion y cwmni
  • egluro sut bydd y cyflogwr yn rhoi gwybodaeth ac yn gofyn am farn ar y wybodaeth honno
  • bodloni'r holl gyflogeion

Er mwyn dangos bod yr holl gyflogeion wedi cytuno ar y trefniadau, gallai'ch cyflogwr wneud un o'r canlynol:

  • gofyn iddo gael ei gymeradwyo gan gynrychiolwyr sy'n siarad ar ran mwyafrif y cyflogeion
  • trefnu pleidlais sy'n cynnwys yr holl gyflogeion
  • gofyn am gymeradwyaeth ar bapur gan y cyflogeion

Os teimlwch nad yw'r trefniadau sy'n bodoli yn ateb y gofynion sydd ar eich cyflogwr, gallwch ofyn i'r Pwyllgor Cyflafareddu Canolog wneud penderfyniad.

Newid trefniadau sy'n bodoli eisoes

Os nad yw'r cyflogeion yn eich gweithle'n hapus gyda'r trefniadau sy'n bodoli eisoes, cewch ofyn am drefniadau newydd. Os yw 40 y cant o'r cyflogeion yn gofyn (ar bapur) am drefniadau newydd, rhaid i hynny ddigwydd.

Os yw 10 y cant o'r cyflogeion yn gofyn, efallai y bydd eich cyflogwr yn cynnal pleidlais ymysg y staff. Os oes llai na 40 y cant o'r cyflogeion, neu leiafrif o'r rhai sy'n pleidleisio, yn pleidleisio o blaid y trefniadau newydd, mae'n debyg y bydd y trefniadau presennol yn parhau.

Cytundebau a drafodir

Rhaid i'ch cyflogwr drafod y modd y gweithredir y trefniadau hysbysu ac ymgynghori gyda'ch cynrychiolwyr, os ydych chi a'ch cydweithwyr wedi gwneud y canlynol:

  • gofyn am gytundeb newydd o dan y Rheoliadau Hysbysu ac Ymgynghori â Chyflogeion
  • gofyn am newid mewn cytundeb sy'n bodoli eisoes

Os gall eich cynrychiolwyr a'ch cyflogwr gytuno ar ffordd o hysbysu ac ymgynghori pan ddaw'r trafodaethau i ben, dylent lunio cytundeb hysbysu ac ymgynghori. Rhaid i'r cytundeb hwn:

  • gynnwys yr holl gyflogeion
  • nodi'r amgylchiadau pan fydd rhaid i gyflogwr hysbysu ac ymgynghori â'r cyflogeion
  • bod ar bapur a'r dyddiad wedi'i nodi
  • cael ei gymeradwyo, un ai gan y cynrychiolwyr sy'n trafod, neu drwy bleidlais gan yr holl gyflogeion
  • cael ei arwyddo gan y cyflogwr
  • ei gwneud yn bosibl un ai i ethol cynrychiolwyr hysbysu ac ymgynghori, neu fod hysbysu ac ymgynghori yn digwydd ymhlith yr holl gyflogeion.

Gall cytundeb a drafodwyd beri bod hysbysu ac ymgynghori yn digwydd:

  • drwy gynrychiolwyr y cyflogeion
  • yn uniongyrchol â'r cyflogeion
  • drwy gyfuniad o’r trefniadau hyn.

Os na all y cynrychiolwyr sy'n trafod ddod i gytundeb â'ch cyflogwr, yna daw'r darpariaethau safonol (wrth gefn) i rym.

Darpariaethau safonol

Defnyddir y darpariaethau safonol a amlinellir yn y Rheoliadau Hysbysu ac Ymgynghori â Chyflogeion fel trefn wrth gefn pan fydd y canlynol yn digwydd:

  • nid yw cyflogwr yn dechrau trafodaethau hysbysu ac ymgynghori ar amser
  • ni ellir dod i gytundeb ar drefniadau hysbysu ac ymgynghori

Ond nid yw'r darpariaethau hyn mor hawdd i'w haddasu wrth bennu beth ellir ei drafod a sut gellir dod i gytundeb.

Mae'r darpariaethau safonol hyn yn rhoi'r hawl i chi:

  • gael eich hysbysu am sefyllfa economaidd ddiweddar y sefydliad a'r sefyllfa debygol yn y dyfodol
  • cael eich hysbysu am y sefyllfa gyflogaeth gyfredol ac yn y dyfodol ac unrhyw fygythiadau i swyddi, a chyfle i ymgynghori ar hynny
  • cael eich hysbysu am benderfyniadau sy'n debygol o arwain at newidiadau i'r sefydliad ac i gontractau'r gweithwyr (e.e. ad-drefnu, newidiadau i arferion gweithio a newidiadau mewn cyflogau), a chyfle i ymgynghori ar hynny

Os oes gennych drefniant hysbysu ac ymgynghori yn unol â'r darpariaethau safonol, gallwch ofyn am gytundeb newydd, wedi ei drafod, unrhyw adeg.

Hysbysu ac ymgynghori yn unol â'r darpariaethau safonol

Yn ôl y darpariaethau safonol, os bydd eich cyflogwr yn hysbysu neu'n ymgynghori, dylai wneud hynny drwy gyfrwng cynrychiolwyr cyflogeion. Os nad oes gennych gynrychiolydd cyflogeion, rhaid i'ch cyflogwr ganiatáu i'r cyflogeion ethol neu benodi un. Dylai hyn ddigwydd o fewn chwe mis i un o'r canlynol:

  • cais dilys gan gyflogai os na ddechreuodd y trafod o fewn y cyfnod penodedig o dri mis
  • diwedd y trafodaethau pan na ddaethpwyd i gytundeb am drefniadau hysbysu ac ymgynghori

Mae gan gyflogeion hawl i gael eu cynrychioli gan nifer penodol o gynrychiolwyr. Dylid trefnu i gael un cynrychiolydd ar gyfer pob 50 cyflogai, ond ni cheir llai na dau gynrychiolydd na mwy na 25. Felly os oes gennych 210 o gyflogeion yn eich sefydliad, byddai gennych hawl i gael hyd at 5 cynrychiolydd cyflogeion (talgrynnir nifer y cyflogeion i'r 50 agosaf bob amser).

Diogelu cyflogeion a chynrychiolwyr cyflogeion

Gallech chi neu'ch cynrychiolwyr wneud cwyn i'r Pwyllgor Cyflafareddu Canolog:

  • os nad yw'ch cyflogwr yn ymgynghori â'u cyflogeion yn unol â'r Rheoliadau Hysbysu ac Ymgynghori â Chyflogeion
  • os na fydd eich cyflogwr yn gwneud trefniadau sy'n bodloni'r safonau arferol a amlinellir yn y rheoliadau

Os bydd y Pwyllgor yn cytuno â'ch cwyn, caiff eich cynrychiolwyr (neu chi) wneud cais i'r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth, a gofyn iddynt roi gorchymyn i'ch cyflogwr dalu cosb o hyd at £75,000.

Allweddumynediad llywodraeth y DU