Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gellir defnyddio cyflafareddu ar gyfer amryw o bethau, gan gynnwys datrys problemau unigolion, neu broblemau ar y cyd yn y gwaith, heb fynd i Dribiwnlys Cyflogaeth (er enghraifft, pan fydd undebau llafur yn ystyried cymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol). Yma, cewch wybod beth yw cyflafareddu a sut y gallai fod yn ddefnyddiol i chi.
Gyda chyflafareddu, rydych chi a'ch cyflogwr yn caniatáu i rywun allanol annibynnol a diduedd (y cyflafareddwr, neu'r canolwr yn yr Alban) bennu canlyniad eich problem. Mae cyflafareddu yn wahanol i gymodi a chyfryngu gan fod y cyflafareddwr yn gweithredu fel barnwr, yn gwneud penderfyniad cadarn ar yr achos.
Os ydych chi a'ch cyflogwr yn cytuno i fynd at gyflafareddwr, gall fod yn ffordd gyflym o ddatrys problem heb y straen a'r gost o fynd i Dribiwnlys Cyflogaeth. Mae cyflafareddu’n gynt ac yn llai ffurfiol na Thribiwnlys Cyflogaeth.
Oni bai y byddwch chi a'ch cyflogwr yn cytuno ymlaen llaw y bydd, ni fydd penderfyniad y cyflafareddwr yn gyfreithiol-rwym. Dim ond penderfyniadau a wneir gan gyflafareddwr Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) mewn rhai achosion sy'n gyfreithiol-rwym. Gweler yr adran ar gynllun cyflafareddu Acas isod i gael rhagor o wybodaeth.
Os byddwch chi a'ch cyflogwr yn penderfynu na fydd y penderfyniad yn gyfreithiol-rwym, yna gallwch ddal i benderfynu mynd i lys neu Dribiwnlys Cyflogaeth.
Mae Acas a rhai sefydliadau masnachol yn cynnig gwasanaethau cyflafareddwyr arbenigol.
Mae gan Acas gynllun cyflafareddu di-dâl sy'n gallu penderfynu ar achosion o ddiswyddo annheg ac anghydfodau ynghylch gweithio hyblyg, pan nad oes dim materion cyfreithiol cymhleth i'w hystyried. Mae penderfyniadau a wneir gan gyflafareddwr Acas dan gynllun cyflafareddu Acas ynghylch hawliadau diswyddo annheg penodol neu geisiadau i weithio'n hyblyg yn gyfreithiol-rwym.
Rhaid i chi a’ch cyflogwr gytuno'n ysgrifenedig i gyfeirio achos at broses gyflafareddu. Mae'n ddefnyddiol yn gyffredinol cymryd cyngor gan ffynhonnell annibynnol fel cyfreithiwr cyn gwneud hynny.
Unwaith y byddwch wedi llofnodi cytundeb i ddechrau cyflafareddu Acas, cewch dynnu allan o'r broses. Fodd bynnag, ni allwch wedyn mynd ag achos gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth.
Ni chaiff eich cyflogwr dynnu allan o gyflafareddu heb eich caniatâd chi. Fodd bynnag, gallwch chi a'ch cyflogwr yn dal ddod i gytundeb i setlo achos cyn gwrandawiad cyflafareddu.
Mae Acas yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ar bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth a gallwch gael mwy o wybodaeth am eu gwasanaeth cyflafareddu.
Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) leol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw.