Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gallwch dynnu eich hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth yn ôl yn rhannol neu'n gyfan gwbl unrhyw bryd cyn neu yn ystod eich gwrandawiad gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth. Gallwch hefyd setlo'r achos cyn y gwrandawiad os byddwch am wneud hynny. Os byddwch am setlo eich hawliad neu ei dynnu yn ôl, bydd angen rhoi gwybod i'r Tribiwnlys Cyflogaeth.
Mae canllawiau ar gael mewn Braille, ar dâp sain, mewn print bras, ar ddisg ac mewn ieithoedd eraill hefyd
Ffoniwch 08457 959 775
Mae dwy brif ffordd y gallwch chi a'ch cyflogwr ddod i gytundeb a fyddai'n osgoi gorfod mynd i Dribiwnlys Cyflogaeth. Mae'r ddwy o'r rhain yn gyfrwymol yn gyfreithiol - felly ni fyddech yn gallu gwneud hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth mewn perthynas â'r gŵyn mwyach. Yn ôl y gyfraith, byddai'n cael ei ystyried yn fater sydd eisoes wedi'i ddatrys.
1. Cymodi gan Acas
Mae Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) yn cynnig gwasanaeth cymodi cynnar a elwir yn ‘gymodi cyn gwneud cais’. Gallai hyn eich helpu chi a'ch cyflogwr ddod o hyd i ffordd o ddatrys y mater ac osgoi'r angen i wneud hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth.
Mae'r gwasanaeth ar gael am ddim i chi a'ch cyflogwr o dan amgylchiadau priodol. Os ydych am ganfod a yw'r gwasanaeth hwn yn addas ar gyfer eich sefyllfa chi, gallwch ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 474 747.
Hyd yn oed ar ôl i chi wneud hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth, bydd Acas ar gael o hyd i'ch helpu chi a'ch cyflogwr. Efallai y bydd yn gallu eich helpu i setlo'r achos cyn iddo fynd i wrandawiad Tribiwnlys Cyflogaeth. Os digwydd hynny, yna dylech dynnu eich hawliad yn ôl (gweler 'Tynnu eich hawliad yn ôl' isod, i gael gwybod sut i wneud hynny). Bydd unrhyw setliad a geir drwy broses cymodi Acas yn gyfrwymol yn gyfreithiol.
Os byddwch yn setlo'r mater drwy broses cymodi Acas, gofynnir i chi lofnodi cytundeb ysgrifenedig, sef 'COT3'. Mae'n bwysig bod yn ymwybodol, unwaith y byddwch wedi cytuno ar amodau'r setliad, hyd yn oed ar lafar, na fyddwch yn gallu mynd yn ôl. Os bydd un ohonoch wedyn yn torri'r cytundeb, gallai'r llall ddwyn achos yn eich erbyn. Os byddwch yn setlo drwy ddefnyddio Acas, bydd un o'i swyddogion cymodi yn rhoi gwybod i'r Tribiwnlys Cyflogaeth.
Os na fydd taliad sy'n ddyledus o dan y setliad yn cael ei dalu gallwch ffonio'r cymodwr. Gall y cymodwr ffonio'r atebydd (yr unigolyn rydych wedi gwneud hawliad yn ei erbyn) i'w atgoffa o'i rwymedigaethau o dan y setliad. Os na fydd yr arian yn cael ei dalu wedyn, gellir gorfodi'r setliad drwy'r llysoedd sirol yng Nghymru a Lloegr, neu drwy Swyddog y Siryf yn yr Alban.
2. Cytundeb cyfaddawd
Mae'n bosibl dod i setliad cyfreithiol gyfrwymol drwy gael 'cytundeb cyfaddawd' preifat. Mae hyn yn cynnig iawndal neu rywbeth arall megis geirda i chi, yn gyfnewid am beidio â gwneud hawliad neu dynnu un un ôl. Gellir defnyddio'r math hwn o gytundeb os oes gan y ddwy ochr gynrychiolwyr ac nad yw Acas yn cymryd rhan.
Mae gofynion llym ynghlwm wrth gytundebau cyfaddawd - nid yw ei nodi'n ysgrifenedig a'i lofnodi yn ddigon. Mae'n rhaid eich bod hefyd wedi cael cyngor arbenigol gan rywun ag yswiriant priodol, er enghraifft cyfreithiwr. Os byddwch yn setlo eich achos yn y ffordd hon, dylech roi gwybod i'r Tribiwnlys Cyflogaeth, yn ysgrifenedig, cyn gynted â phosibl.
Cytundebau cyfaddawd a thaliadau statudol
Os oes gennych hawl i Dâl Mamolaeth Statudol, Tâl Tadolaeth Statudol Cyffredin/Ychwanegol, Tâl Mabwysiadu Statudol neu Dâl Salwch Statudol, efallai y bydd eich cyflogwr am gynnwys y symiau sy’n ddyledus mewn cytundeb cyfaddawd.
Bydd rhaid gwneud y taliad statudol yn glir iawn yn y cytundeb, a dylai’r swm a delir fod yr un faint â’ch hawl cyfreithiol. Bydd hyn yn helpu i ddiddymu amheuaeth ynghylch eich hawl.
Gall fod yn haws setlo'r achos na chael gwrandawiad Tribiwnlys Cyflogaeth. Fodd bynnag, gall y swm y byddech yn ei gael mewn setliad fod yn llai na phe byddech yn ennill eich achos. Hefyd, gall eich cyflogwr nodi amodau eraill, megis cytundeb cyfrinachedd fel na allwch ddweud wrth neb arall beth a gytunwyd. Os na fyddwch yn siŵr p'un a ddylid derbyn cynnig setliad ai peidio, dylech ystyried cael cyngor arbenigol i'ch helpu i wneud penderfyniad. Cofiwch mai chi biau'r penderfyniad terfynol bob amser.
Efallai y bydd eich cyflogwr yn pwyso arnoch i dderbyn - er enghraifft, drwy ddweud na fyddwch yn cael dim oni fyddwch yn derbyn cynnig. Neu efallai y bydd yn dweud ei fod yn mynd i ofyn i'r Tribiwnlys Cyflogaeth eich gorfodi i dalu costau cyfreithiol (a elwir yn 'dreuliau' yn yr Alban). Cofiwch fod gennych ddewis bob amser ac mai dim ond mewn nifer fach iawn o achosion y caiff costau eu dyfarnu.
Efallai na fyddwch yn gallu dod i setliad cytûn, ond eich bod yn penderfynu nad ydych am fwrw ymlaen â'ch hawliad. Gallwch dynnu eich hawliad yn ôl yn rhannol neu'n gyfan gwbl unrhyw bryd cyn neu hyd yn oed yn ystod y gwrandawiad, am unrhyw reswm.
Os byddwch yn penderfynu eich bod am wneud hynny, bydd yn rhaid i chi adael i'r Tribiwnlys wybod yn ysgrifenedig. Bydd hefyd angen i chi ddweud wrth yr atebydd (yr unigolyn neu'r sefydliad arall yn yr achos) eich bod yn tynnu eich hawliad yn ôl. Mae'n rhaid i chi wneud hyn cyn gynted â phosibl.
Dylech gofio y gall dynnu eich hawliad yn ôl ar y funud olaf olygu y bydd eich cyflogwr yn gwneud cais am gostau oherwydd ymddygiad afresymol o ran y ffordd rydych wedi ymgymryd â'ch achos.