Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Eich gwrandawiad gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth

Os ydych wedi gwneud hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i wrandawiad. Mynnwch wybod beth sy'n digwydd yn y gwrandawiad ac ar ôl i'r dyfarniad gael ei wneud.

Paratoi ar gyfer eich gwrandawiad

Bydd y Tribiwnlys Cyflogaeth yn rhoi gwybod i chi am ddyddiad eich gwrandawiad. Cyn gwrandawiad eich achos, gall fod yn ddefnyddiol gwylio gwrandawiad fel eich bod yn deall beth fydd yn digwydd. Gallwch wneud hyn drwy gysylltu ag unrhyw un o swyddfeydd y Tribiwnlys Cyflogaeth.

Wrth baratoi ar gyfer y gwrandawiad, sicrhewch fod gennych bob un o'r dogfennau rydych am eu defnyddio. Mae fel arfer yn helpu i ystyried pethau yn ôl eu dyddiad er mwyn darparu cyfres o ddigwyddiadau. Os ydych am ddefnyddio unrhyw ddogfennau i ategu eich achos, bydd angen i chi ddod â'r canlynol:

  • chwe chopi o bob dogfen gyda chi os bydd tribiwnlys o dri aelod yn gwrando'r achos
  • pedwar copi os mai dim ond Barnwr Cyflogaeth fydd yn gwrando'r achos

Efallai y bydd Barnwr Cyflogaeth yn gwneud gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r ddau barti roi gwybod i'w gilydd, ar ddyddiad penodol, pa ddogfennau y byddant yn eu dangos. Efallai y bydd y barnwr hefyd yn gorchymyn i'r partïon gyfnewid dogfennau rywbryd cyn y gwrandawiad. Gallwch gael mwy o wybodaeth drwy ffonio llinell ymholiadau cyhoeddus Tribiwnlysoedd Cyflogaeth ar 08457 959 775.

Beth sy'n digwydd yn y gwrandawiad

Mae tribiwnlysoedd yn annibynnol ac nad ydynt yn rhan o'r llywodraeth - maent yn gwneud penderfyniadau'n ddiduedd.

Yn y gwrandawiad, byddwch chi (neu eich cynrychiolydd) a'ch cyflogwr yn cyflwyno eich achosion i'r Tribiwnlys Cyflogaeth ac yn ateb cwestiynau. Bydd y Tribiwnlys Cyflogaeth yn penderfynu a yw eich hawliad yn llwyddo neu'n methu a beth ddylai gael eich dyfarnu i chi os bydd yn llwyddo.

Chi fydd yn rhoi tystiolaeth yn gyntaf fel arfer, oni bai mewn achosion o ddiswyddo annheg lle bydd y cyflogwr fel arfer yn mynd yn gyntaf. Fodd bynnag, nid oes rheol bendant o ran pa ochr sy'n mynd yn gyntaf. Bydd yn rhaid i chi a'ch tystion roi tystiolaeth ar ôl tyngu llw neu wneud cadarnhad. Os byddwch yn dweud celwydd ar ôl tyngu llw neu wneud cadarnhad, gallech gael eich collfarnu am gyflawni anudon.

Yna, bydd yr atebydd (yr unigolyn rydych yn gwneud hawliad yn ei erbyn) neu ei gynrychiolydd:

  • yn gallu gofyn cwestiynau i chi a/neu eich tystion - gelwir hyn yn croesholi
  • yn rhoi tystiolaeth a gallwch chi neu eich cynrychiolydd ei groesholi

Yn y naill achos neu'r llall, gall y Barnwr Cyflogaeth ac aelodau eraill o'r tribiwnlys ofyn rhai cwestiynau. Unwaith y gwrandewir ar yr holl dystiolaeth, bydd y Barnwr Cyflogaeth naill ai'n datgan y dyfarniad ac yn rhoi'r rhesymau drosto neu'n rhoi gwybod i chi y caiff y dyfarniad a'r rhesymau eu hanfon atoch yn ddiweddarach.

Am fod Barnwyr Tribiwnlysoedd ac aelodau 'lleyg' nad ydynt yn ymwneud â'r gyfraith yn gwbl annibynnol ac nad ydynt yn rhan o'r llywodraeth, maent yn gwneud penderfyniadau'n ddiduedd. Mae eu dyfarniadau'n seiliedig ar y gyfraith, ar dystiolaeth ac ar y dadleuon a gyflwynir iddynt.

Gallwch gynrychioli eich hun yn y gwrandawiad a bydd y Tribiwnlys Cyflogaeth yn ceisio sicrhau bod pethau yn eglur.

Cyllid cymorth cyfreithiol a chostau eich achos

Nid oes unrhyw gyllid cymorth cyfreithiol ar gyfer Tribiwnlysoedd Cyflogaeth ar gael yng Nghymru a Lloegr a chyfyngedig yw'r cymorth cyfreithiol sydd ar gael yn yr Alban.

Os ydych yn aelod o undeb llafur, efallai y bydd eich undeb llafur yn talu am gyfreithiwr. Bydd rhai cwmnïau yswiriant preswyl yn talu costau cyfreithiol rhesymol. Darllenwch eich dogfennau polisi i weld os yw hyn yn berthnasol i chi.

Os yw eich hawliad yn ymwneud â gwahaniaethu, efallai y gall y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ddarparu rhywfaint o gymorth.

Yn wahanol i lysoedd eraill, nid yw Tribiwnlysoedd Cyflogaeth fel arfer yn gorchymyn i'r naill ochr neu'r llall dalu costau (gelwir y rhain yn "dreuliau" yn yr Alban) oni bai:

  • eu bod yn penderfynu eich bod chi neu eich cyflogwr wedi gweithredu'n afresymol wrth gyflwyno (neu yn achos y cyflogwr, amddiffyn) yr achos
  • eich bod chi neu eich cyflogwr neu unrhyw gynrychiolwyr yn y gwrandawiad yn ymddwyn yn afresymol

Mewn achosion o'r fath, gall y Tribiwnlys Cyflogaeth orchymyn i un parti dalu costau hyd at £10,000. Gall mwy o arian gael eu dyfarnu mewn amgylchiadau eithriadol.

Beth fydd yn digwydd os byddwch yn ennill

Gall y Tribiwnlys Cyflogaeth orchymyn i'ch cyflogwr dalu iawndal i chi. Mae'r iawndal yn ddiderfyn ar gyfer achosion o wahaniaethu neu ddiswyddo ar sail iechyd a diogelwch.

Ar gyfer hawliadau diswyddo annheg, mae'r dyfarniad yn cynnwys:

  • y dyfarniad sylfaenol sy'n seiliedig ar eich oedran, hyd eich gwasanaeth a'ch tâl wythnosol
  • dyfarniad digolledu, sy'n cynnwys enillion a gollwyd, hyd at derfyn penodol a gaiff ei adolygu bob blwyddyn (ond prin iawn y caiff yr uchafswm ei ddyfarnu)

Yn ogystal â'r rhain, gall y Tribiwnlys Cyflogaeth wneud dyfarniad ychwanegol os bydd yn gorchymyn i'ch cyflogwr eich ailgyflogi chi ond byddant yn 'methu'n afresymol â gwneud hynny'. Gall hyd at £25,000 gael ei ddyfarnu ar gyfer achos o gamddiswyddo neu achosion eraill o dorri contract.

Digolledu

Os ydych wedi hawlio Lwfans Ceisio Gwaith neu Gymhorthdal Incwm ers y digwyddiad, efallai y bydd digolledu yn berthnasol i'ch achos.

Mae digolledu yn eich atal rhag cael eich talu ddwywaith. Mae'n golygu bod yn rhaid i'ch cyflogwr didynnu rhan o'r swm neu'r holl swm y gwnaethoch ei hawlio mewn Lwfans Ceisio Gwaith neu Gymhorthdal Incwm o'r iawndal a ddyfernir i chi gan Dribiwnlys Cyflogaeth a'i ad-dalu i'r Ganolfan Byd Gwaith.

Mae'r rheol hon yn berthnasol i amrywiaeth o ddyfarniadau. Os bydd yn berthnasol, bydd y Tribiwnlys Cyflogaeth yn rhoi manylion i chi.

Iawndal

Bwriedir i iawndal gymryd lle enillion a gollwyd. Ni wneir taliadau am deimladau a frifwyd, ar wahân i achosion o wahaniaethu a rhai achosion Datgelu er Budd y Cyhoedd. Mae'n rhaid i chi ddangos i Dribiwnlys Cyflogaeth eich bod wedi ceisio lleihau eich colled, er enghraifft drwy gael swydd arall neu hawlio budd-daliadau.

Mae Tribiwnlysoedd Cyflogaeth hefyd yn ystyried a wnaethoch chi a'ch cyflogwr ddilyn yr egwyddor yng Nghod Ymarfer Acas ar weithdrefnau disgyblu a chwynion (y Cod).

Os nad ydych wedi dilyn y Cod, nid yw'n golygu o reidrwydd eich bod chi neu eich cyflogwr yn atebol (yn gyfreithiol gyfrifol) gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth. Fodd bynnag, gall Tribiwnlys Cyflogaeth addasu eich dyfarniad iawndal hyd at 25 y cant os yw o'r farn eich bod chi neu'r atebydd wedi dangos 'ymddygiad afresymol'.

Gallwch ddarllen mwy am God Ymarfer Acas, a chanllaw Acas 'Disgyblu a chwynion yn y gwaith' drwy ddilyn y ddolen isod.

Beth fydd yn digwydd os byddwch yn colli

Dim ond mewn amgylchiadau arbennig iawn y gallwch ofyn i'r Tribiwnlys Cyflogaeth adolygu ei ddyfarniad.

Mae terfynau amser caeth lle y gallwch wneud hyn.

Gallwch hefyd ystyried gofyn i'r Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth am apêl ar sail bod y Tribiwnlys Cyflogaeth wedi gwneud camgymeriad yn y ffordd y cymhwysodd y gyfraith.

Beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn bresennol

Fel arfer, byddai disgwyl i chi fynd i'r gwrandawiad a rhoi tystiolaeth am eich achos. Mae'n bosibl i'r Tribiwnlys Cyflogaeth benderfynu ar yr achos yn eich absenoldeb. Fodd bynnag, byddwch o dan anfantais ddifrifol os na fyddwch yn bresennol. Ni fydd y Tribiwnlys Cyflogaeth yn gallu gwrando ar yr holl dystiolaeth a allai fod yn berthnasol i'ch achos.

Os byddwch yn penderfynu peidio â mynd am unrhyw reswm, mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r Tribiwnlys Cyflogaeth eich bod am i'r achos gael ei wrando yn eich absenoldeb.

Tribiwnlysoedd yng Ngogledd Iwerddon

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon ac mewn anghydfod cyflogaeth, bydd angen i chi gysylltu â Swyddfa'r Tribiwnlysoedd Diwydiannol a'r Tribiwnlys Cyflogaeth Deg (OITFET).

Allweddumynediad llywodraeth y DU